Y Diwydiant Haearn yng Nghymru
Daeth y diwydiant haearn yn ddiwydiant o bwys yng Nghymru erbyn diwedd y 18g pan ddechreuodd diwydianwyr ddefnyddio golosg ar raddfa helaeth yn danwydd mwyndoddi. Merthyr Tudful oedd prif ganolfan cynhyrchu haearn yng Nghymru a cheid yno bedwar gwaith: Dowlais – a ddatblygodd i fod y ganolfan cynhyrchu haearn fwyaf yn y byd – Plymouth, Cyfarthfa a Phenydarren. Nodwedd amlycaf y diwydiant haearn ym maes glo’r de oedd eu bod yn cynhyrchu swmp o haearn. Erbyn 1840 câi 36.2% o’r haearn crai ym Mhrydain ei fwyndoddi yn y 26 o weithfeydd rhwng Hirwaun a Phont-y-pŵl.
Roedd gweithfeydd haearn yn ffynnu yng ngorllewin Cymru yn ogystal, yng nghwm Gwendraeth a hefyd yng Nghaerfyrddin lle roedd Gwaith Haearn Cwmdwyfron yn cael ei redeg gan fanciwr lleol, George Morgan. Cafwyd diwydiant cynhyrchu haearn ar raddfa llai yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond roedd yn fwy soffistigedig o lawer a dechreuwyd cynhyrchu nwyddau a pheiriannau a wnaed o haearn yno; er enghraifft yng ngwaith haearn y Bers, a’i chwaer sefydliad ym Mrymbo fe gynhyrchwyr canonau ac oherwydd hynny daethant yn weithfeydd o bwys.
Gellid dweud mai oes aur y gweithfeydd haearn ym Merthyr a’r cyffiniau oedd rhwng 1820 ac 1850 pan fu iddynt arbenigo mewn cynhyrchu bariau haearn trwm ar gyfer rheilffyrdd Prydain a’r byd. Fodd bynnag, erbyn diwedd yr 19g roedd dur wedi disodli haearn gyr fel prif gynnyrch y diwydiant wrth i ffwrneisi tân agored gael eu datblygu a’i gwneud hi’n bosibl i gynhyrchu dur ar raddfa fawr.
Darllenwch fwy am waith haearn a dur Cyfarthfa yma: https://www.casgliadywerin.cymru/collections/385564