Chwarel Aberllefenni
Chwarel Aberllefenni yng Ngwynedd oedd y chwarel lechi olaf i fod yn gweithio i’r de o Flaenau Ffestiniog a bu miloedd yn gweithio yno dros y blynyddoedd. Mae’n cynnwys tair chwarel – Foel Grochan, Hen Gloddfa a Cenuant Ddu, ac yn dechnegol, cloddfeydd yw’r rhain yn hytrach na chwareli gan fod yr holl waith o gloddio’r graig yn digwydd o dan y ddaear. Credir bod mwyngloddio wedi dechrau yng Nghwm Hengae (i’r gorllewin o bentref Aberllefenni) mor bell yn ôl â’r bedwaredd ganrif ar ddeg, tra mae’r cofnod cynharaf o lechi’n cael eu cynhyrchu yn dyddio yn ôl i 1500 gan i lechi ar do Plas Aberllefenni ddod o’r chwarel honno.
Pan oedd y chwarel yn ei hanterth penodwyd gŵr o’r enw Robert Hughes yn rheolwr ar y chwarel yn 1873 a chyflogwyd 180 o ddynion yno y flwyddyn honno. Llwyddodd y chwarel i oroesi cyfnod y dirwasgiad yn yr 1930au er i’r wythnos waith gael ei thorri i dri diwrnod am gyfnod yn ystod y cyfnod hwn. Dirywiodd y diwydiant llechi ymhellach wedi’r Ail Ryfel Byd ac erbyn 1950 dim ond rhyw 40 o ddynion oedd yn gweithio yno. Yn sgil moderneiddio a buddsoddiad mewn peirannau newydd parhawyd i gynhyrchu llechi yn Foel Grochan ymlaen i’r 1990au. Roedd y llechen oedd yn cael ei chloddio yn Aberllefenni yn un las tywyll ac eithriadol o galed – ac mae’n debyg mai un o’r rhesymau pam lwyddodd y chwarel i oroesi cyhyd oedd ansawdd ardderchog y llechen oedd yn cael ei chloddio o’r gwythïennau cul.
Penderfynwyd dirwyn y gwaith i ben yn 2003 gan nad oedd hi bellach yn gwneud synnwyr yn economaidd i barhau i gloddio, a phan gaewyd y gwaith, dim ond tri dyn oedd yn gweithio yno. Mae’r casgliad hwn o ffotograffau gan Ray Gunn yn cynnwys cofnod o’r wythnos waith olaf o dan y ddaear yn y chwarel, gyda’r tri gŵr olaf erioed i fod yn gweithio i lawr yno: Philip Evans (fforman), Glyn Davies ac Idris Lewis.