YR EFAIL
Yr Efail yw un o'r tai hynaf yn Esgairgeiliog – mae'n sicr yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg ac mae'n bosib ei fod yn hŷn na hynny. Ochr chwith y tŷ yw'r bwthyn bach gwreiddiol. Yn ddiweddarach ychwanegwyd tŷ allan – sied i gadw'r gwartheg o bosib – ac wedi hynny, ychwanegwyd adeilad un llawr, isel ddaeth i fod yn efail. Yn yr 1880'au roedd pâr priod o'r enw Evan ac Ann Davies yn byw yn y tŷ gyda'u mab pum mlwydd oed, Evan. Gof oedd Mr Davies ac roedd yn cyflogi dau brentis, Evan Jones and Peter Peters.
Rhywbryd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg newidwyd y sied wartheg i fod yn rhan o'r cartref. Cafodd y wal rhwng y rhan yma a'r efail ei bwrw i lawr ai hailgodi'n gyfangwbl, ac ychwanegwyd dwy simnai a dau le tân, un i fyny'r grisiau a'r llall i lawr grisiau. Wedi 150 mlynedd mae'r wal honno yn dal i sefyll ar ei phen ei hun heb unrhyw sylfeini o gwbl a heb fod unrhywbeth yn ei chlymu wrth y waliau o'i hamgylch. Mae'r efail hefyd wedi cael ei ymestyn fwy nag unwaith, ond dim ond ar i fyny. Cafodd yr estyniad olaf ei wneud rhywbryd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif pan gafodd holl hyd yr adeilad ei godi i lefel tŷ unllawr, gan roi nenfwd wyth troedfedd o uchder, oedd yn safon cyffredin ar y pryd.
Yn 1990, fe wnaeth Ray a Julia Gunn brynu'r tŷ a newid ei enw ar y pryd, o ‘Awelon' i ‘Yr Efail' a hynny er mwyn atgoffa pobl o'i hanes. Fe wnaethon nhw hefyd ymgymryd â gwaith atgyweirio sylweddol oedd yn golygu codi'r lloriau i lawr grisiau i gyd, ac ambell un o'r yn y llawr uwchben. Aethant ati i dynnu'r plastar oddi ar y waliau a chyfnewid pob lintel pren uwchben y drysau a'r ffenstri am rai concrid. Wrth iddynt fod yn adnewyddu yr hen efail, fe wnaeth Ray ganfod sylfeini a hyd yn oed twll lludw o dan y llawr. Llawr pridd syml oedd llawr gwreiddiol yr efail, a hwnnw'n bantiau i gyd lle roedd wedi treulio. Arferai'r glo gael ei gadw yn y gornel i'r chwith o'r lle tân, o dan y meginau. Mae'r pwlïau oedd yn dal y ddwy fegin yn dal yn eu lle heddiw, o dan y nenfwd. Wrth adnewyddu'r hen le tân agored fe wnaethon nhw hefyd ganfod hen bopty bara a'r twll lludw oddi tano.
Fel mae Julia a Ray yn egluro yn eu llyfr, ‘Esgairgeiliog, Ceinws in Pictures and Words, Past and Present': "Pe bai'r tŷ wedi ei adael am flwyddyn arall yna byddai wedi bod bron yn amhosib i'w adnewyddu ... Roedden ni'n ystyried y cyfan i fod yn werth chweil fodd bynnag, gan y fod y tŷ wedi ei achub a bellach ar gael i ychydig mwy o genedlaethau i'w fwynhau. "