Middleton Memories - Atgofion Middleton

Yn ystod mis Mai, fe gasglon ni atgofion am yr ystâd oddi wrth aelodau o'r cyhoedd a phobl oedd yn byw yma ar un adeg. Yna troesom y straeon, y lluniau, a'r atgofion i arddangosfa o'r enw Atgofion Middleton (Middleton Memories) , ac fe'i gwelwyd yn yr Oriel yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am fis.
Delweddau wedi'u sganio o'r ffotograffau a'r cofiannau a gasglwyd yw'r eitemau hyn, gyda pheth o'r hanesion a'r hanes i gyd-fynd â hwy.
Os oes gennych unrhyw atgofion neu hen hanesion am Neuadd Middleton a'i hystâd, neu Syr William Paxton, neu' r teulu Abadam, neu unrhyw beth arall a allai fod o ddiddordeb i'r Ardd yn eich barn chi, mae croeso i chi gysylltu â ni yn y Prosiect Adfer Parcdir yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mae 11 eitem yn y casgliad

  • 562
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi