Cemaes Heritage Centre // Canolfan Dreftadaeth Cemaes's profile picture

Cemaes Heritage Centre // Canolfan Dreftadaeth Cemaes

Dyddiad ymuno: 19/01/15

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Croeso i Ganolfan Dreftadaeth Cemaes sydd wedi’i leoli yng nghalon y pentref. Mae’r ganolfan yn cynnig y cyfle i chi ganfod hanes a threftadaeth y plwyf mwyaf gogleddol yng Nghymru. Mae'r arddangosfa dreftadaeth yn cynnwys pedwar thema wahanol ar ddau lawr; Y Môr, Treftadaeth Diwydiannol, Portreadau Cemaes a Myfyrdodau Cemaes.

Yn ogystal mae ystafell gyfarfod a hyfforddiant ar y llawr cyntaf sydd ar gael i’w llogi ac mae pwynt gwybodaeth Croeso Cymru a thoiled hygyrch ar y llawr isaf.

Mae Caffi’r Banc yn le cyfeillgar i deuluoedd, a chewch ddewis o fwydydd blasus, coffi barista a chynnyrch heb glwten - y cyfan am bris teg a fforddiadwy. Mae croeso i gŵn yn yr ardd uwchben yr afon Wygyr yn y dyffryn islaw. Agorwyd siop anrhegion celf a chrefft yn ystod tymor y Pasg 2016.