Maldwyn Treasures
Dyddiad ymuno: 23/12/14
Amdan
Trysorau Maldwyn
Deunydd astudiaethau Hanes Lleol a Theulu sydd ar gael:
• Yn Llyfrgell Ardal Y Drenewydd mae Casgliad Astudiaethau Lleol Sir Drefaldwyn, sydd yn cynnwys cyfeirlyfrau a llyfrau benthyg.
• Mae'r Montgomeryshire Collections (Trafodion Clwb Powysland) yn fan cychwyn cynhwysfawr, gyda mynegai da, ar gyfer ymchwilio i’r ardal.
• Mae gennym ganlyniadau Cyfrifiad Sir Drefaldwyn 1841-1901 ar feicroffilm. Mae gennym 2 ddarllennydd meicroffilm, a gellir defnyddio un i argraffu.
• Mae amrywiaeth o Gyfeirlyfrau Masnach y sir, 1822-1936, hefyd ar fiche.
• Gallwch weld cofnodion ar ANCESTRY sef gwefan hanes teulu am ddim o unrhyw gyfrifiadur cyhoedus yn y llyfrgell. Yn ogystal, mae gan y cyfrifiadur Astudiaethau Lleol cyhoeddus nifer o wefanau hanes lleol a theulu.
• Casgliad o Fapiau Sir Drefaldwyn: Mapiau OS 6” i'r filltir, 25” i'r filltir.
• Mae papurau newydd lleol ar gael - cyfuniad o gyfrolau rhwymedig a meicroffilm yn dyddio o 1869.
• Mae yna hefyd gasgliad o effemera hanes lleol (taflenni, cylchlythyrau, posteri, printiau ac yn y blaen)