Skip to main content

Pentre Dwr Community Association

Adeiladwyd Ysgol Pentredŵr gan Gyngor Sir Ddinbych ac agorodd am y tro cyntaf yn 1909.
Daeth yn lle ysgol eglwys lai yn Eglwyseg a'r gred oedd y byddai ysgol newydd bwrpasol yn rhoi mwy o gyfle i'r plant ddysgu darllen ac ysgrifennu.  
 
Roedd y boblogaeth wledig yn llawer uwch a theuluoedd yn llawer mwy bryd hynny. Roedd Chwarel Lechi'r Berwyn yn gyflogwr sylweddol, yn dod â theuluoedd newydd i’r ardal. Nid oedd yn anghyffredin i deuluoedd o hyd at 20 o bobl fyw yn yr un tŷ.   
 
Cofrestrodd 30 o blant yn yr ysgol newydd ar yr unfed ar ddeg o Ionawr 1909. Erbyn dechrau Chwefror 1910 roedd 60 o blant rhwng 6 a 14 oed ar gofrestr yr ysgol.  
 
Roedd Ysgol Pentredŵr yn ysgol boblogaidd yn y chwedegau a’r saithdegau, yn cael ei ffafrio am ei haddysg Gymraeg ac roedd plant yn cael eu cludo yno ar fws o Langollen.
Erbyn 1982 roedd y niferoedd yn lleihau a chaewyd yr ysgol. Prynwyd yr adeilad gan Gymdeithas  
Pentredŵr a’r Fro i’w ddefnyddio fel Canolfan Gymunedol.  
 
 
 
Gwahoddwyd cyn-ddisgyblion a staff Ysgol Pentredŵr i rannu eu straeon a’u profiadau am eu dyddiau ysgol a bywyd y pentref yn ystod y cyfnod o dros 70 mlynedd y bu’r ysgol ar agor.  
 
Mae Cymdeithas Cymuned Pentredŵr wedi ffurfio partneriaeth â chwmni Making Sense Community Interest Company i gasglu’r atgofion hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gyda chymorth ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chefnogaeth Amgueddfa Llangollen.  
 
Profile picture for user ticky_lowe
Dyddiad Ymuno:
14/07/2014
Gwefan:

Gweld pob eitem