LIFE Welsh Raised Bogs Project's profile picture

LIFE Welsh Raised Bogs Project

Dyddiad ymuno: 03/06/20

Amdan

Bywgraffiad CY: 
Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yw'r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd ac ar gyfer unrhyw gynefin mawndir yng Nghymru. Nod y prosiect arloesol ac uchelgeisiol 4 blynedd yw adfer 7 o'r enghreifftiau gorau o gyforgorsydd yng Nghymru. Bydd bron i 4 milltir sgwâr (dros 900 hectar) yn cael ei adfer i gyflwr gwell, mae hyn yn cynrychioli 50% o'r cynefin hwn yng Nghymru a 5% yn y DU. Mae'r safleoedd wedi dioddef oherwydd rheolaeth wlypdir gwael yn y gorffennol ac mae hyn wedi achosi i blanhigion ymledol gymryd drosodd a stopio planhigion pwysig fel migwyn (mwsogl y gors) rhag ffynnu. Mae planhigion fel migwyn yn helpu i gadw'r mawn yn gorslyd ac yn wlyb ac yn storio carbon, gan ein helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Bydd y prosiect hwn yn edrych ar ffyrdd arloesol newydd o weithio i wneud gwahaniaeth go iawn ac adfer y seven ACA cyforgors yng Nghymru. Mae cyforgorsydd yn darparu nifer o fuddion i'r amgylchedd, bywyd gwyllt a phobl. Maent yn gartref i blanhigion a bywyd gwyllt prin, maent yn storio carbon o'r atmosffer, yn gallu storio a phuro dŵr ac maent hefyd yn rhoi mewnwelediad hynod ddiddorol i'n hanes amgylcheddol. Maent hefyd yn lleoedd gwych i bobl ymweld â natur a mwynhau ar ei gorau. Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol: Twitter: @WelshRaisedBog Facebook: CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs Instagram: @welshraisedbog Mae cyllid o gyfanswm o £4 miliwn ar gyfer y prosiect wedi'i roi i CNC o raglen LIFE yr UE, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. LIFE16NATUK646