Avant Cymru
Dyddiad ymuno: 02/12/18
Amdan
Datganiad
Mae Avant Cymru yn gwmni sector diwylliant blaengar o Gymoedd De Cymru. Rydym ni’n creu gweithgareddau theatr, dawns, hip-hop ac ymchwil perthnasol ac unigryw gyda’n cymuned ac ar ei chyfer, a hyrwyddo’r gwaith hwn yng Nghymru a thu hwnt.
Gweledigaeth
Rydym ni’n gweithio tuag at ddyfodol lle rydym ni a’n cymunedau’n creu cyfleoedd diwylliannol llawn gobaith, balchder ac uchelgais.
Ble rydym yn cofio’r gorffennol, yn trafod y presennol ac yn creu’r dyfodol, gyda’n gilydd.
A ble mae ein profiadau a’n dychymyg yn ysbrydoli pobl yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Cenhadaeth
Rydym ni’n gwrando ac yn hyrwyddo gobeithion, breuddwydion a straeon unigolion a grwpiau yn ein cymunedau.
Rydym yn gwneud hyn drwy gyd-greu gwaith newydd, hwyluso dosbarthiadau a gweithdai, trafodaethau a pherfformiadau, a darparu gwaith a hyfforddiant.
Mae sgwrsio yn hollbwysig. Rydym ni’n creu gofod gwrth-wahaniaethol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma i wneud yn siŵr bod yr hyn sy’n bwysig yn cael ei glywed. Rydym ni’n gwaredu’r rhaniadau rhwng yr artist, y gynulleidfa a’r cyfranogwr i gyd-greu perfformiadau gwreiddiol a pherthnasol, cymhellol a llawn dychymyg.
Rydym ni’n defnyddio’r ffurfiau creadigol sy’n berthnasol i’n cymunedau – gan gynnwys theatr, dawns, brêc-ddawnsio, hip-hop, ffilm, celf weledol, cerddoriaeth a sgiliau cysylltiedig.
Rydym ni’n byw a bod yn y Rhondda ac yn meithrin talent yma. Rydym ni’n arddangos ein gwaith trwy lwyfannau cymunedol, celfyddydol, chwaraeon a threftadaeth sy’n aml yn annisgwyl. Rydym ni’n ysbrydoli’n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac rydym ni’n tyfu ac yn ffynnu gyda’n gilydd.
Gwefan: https://www.avant.cymru/cy/home (Yn agor mewn ffenestr newydd)