Treftadaeth Ddisylw: Ceredigion Gyfyngedig? / Unloved Heritage: Ceredigion Off-limits?'s profile picture

Treftadaeth Ddisylw: Ceredigion Gyfyngedig? / Unloved Heritage: Ceredigion Off-limits?

Dyddiad ymuno: 22/11/18

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Treftadaeth Ddisylw: Ceredigion Gyfyngedig
Prosiect tair blynedd wedi’i arwain gan bobl ifanc yw ‘Ceredigion Gyfyngedig?’. Y nod yw defnyddio archaeoleg a gweithgareddau creadigol i alluogi pobl ifanc a’u cymunedau i gofnodi, dehongli, rheoli a diogelu safleoedd treftadaeth o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif yng Ngogledd Ceredigion. Mae prosiect Ceredigion Gyfyngedig? yn rhan o 'Dreftadaeth Ddisylw?', sef rhaglen ieuenctid sy'n digwydd ledled Cymru ac yn cael ei arwain gan CADW a’i ariannu gan y Loteri Treftadaeth. Mae uchafbwyntiau flwyddyn gyntaf llwyddiannus y panel ieuenctid yn cynnwys, arddangosfa yn Sain Ffagan yng Nghaerdydd; ennill gwobr clod uchel yn ‘Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru'; cofnodi ffermdy unigryw a safle mwyngloddio a chynrychioli'r prosiect yn Y Sioe, Llanelwedd. Ymunwch â’r CHIPs! Panel Ieuenctid Haneswyr Ceredigion i’n helpu ni i redeg ‘Ceredigion Gyfyngedig?’.