Theatr Troed-y-rhiw
Dyddiad ymuno: 04/07/17
Amdan
Bywgraffiad CY:
Sefydlwyd Cwmni Cydweithredol Troed-y-Rhiw ym mis Mehefin 2005 yn dilyn cyfres o sgyrsiau yn canolbwyntio ar botensial y ddrama Gymraeg. Cyfranodd dros 70 o bobl at y drafodaeth, y rhelyw ohonynt yn arweinwyr cymdogaethol ac enthiwsiastwyr y ddrama yn nhair sir y gorllewin. Daw enw’r cwmni o leoliad y trafodaethau hyn - festri Troed-y-Rhiw, ym mherfedd cefn gwlad Ceredigion.
Trwy rym brwdfrydedd yr ymateb penderfynwyd bwrw ati i ffurfio cwmni newydd cydweithredol, ac i greu partneriaeth rhwng y cwmni a chymdogaethau Cymraeg ledled Cymru.
Nod y cwmni yw porthi meddwl a dychymyg cymdogaethau Cymraeg trwy ymddiried yng nghreadigrwydd chwaraewyr a chynulleidfaoedd yn ddi-wahan.