Llyfr y Cofio Cymru RhB1
Dyddiad ymuno: 02/05/24
Amdan
Mae Llyfr y Cofio Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf, trysor cenedlaethol sydd yn cael ei gadw yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, wedi cael ei ddigido a bellach, gellir ei gyrchu gan y cyhoedd ar-lein. Mae’r Llyfr y Cofio hyfryd, â chlawr lledr yn cynnwys memrwn felwm, sydd wedi’i addurno â dail aur, inc mân a chaligraffi – yn cynnwys enwau dros 40,000 o ” ddynion a merched o Gymru ynghyd ag aelodau o gatrodau Cymreig, a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf rhwng 1914-1918”.
Mae’r llyfr, a ymchwiliwyd iddo ac a’i grëwyd â llaw yn y 1920au gan fenywod oedd yn gweithio gyda’r caligraffydd enwog Graily Hewitt o Lincoln’s Inn a Gwasg Gregynog, yn Rhestr o Wroniaid i gyd-fynd â Chofeb y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mharc Cathays, a agorwyd gan y Brenin Edward VII ym 1928. Gyferbyn â Chofeb Rhyfel Cymru, adeiladwyd y Deml Heddwch – a agorwyd ym 1938 – i gartrefu’r llyfr, ac er cof am y rheiny a gollodd eu bywydau, i weithredu fel symbol o benderfyniad Cymru i geisio cyfiawnder a heddwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ‘. Dywedwyd y geiriau hyn ym 1938 gan Minnie James, mam o Ferthyr Tudful a oedd wedi colli tri mab yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gofynnwyd iddi agor y Deml Heddwch ar ran mamau a gweddwon y byd sydd wedi colli eu hanwyliaid yn y rhyfel.
Gwefan: https://www.wcia.org.uk/cy/templetours/ww1-book-of-remembrance/ (Yn agor mewn ffenestr newydd)