![Impelo's profile picture Impelo's profile picture](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/user_profile_thumbnail/public/pictures/%5Bcurrent-date%3Acustom%3AY%5D/%5Bcurrent-date%3Acustom%3AF%5D/picture-112901-1704804659.png?itok=MZWpHIg8)
Impelo
Dyddiad ymuno: 09/01/24
Amdan
Bywgraffiad CY:
Taith â’r nod o gysylltu ac ysbrydoli unigolion, cymunedau a sefydliadau trwy lawenydd dawnsio – gan fagu a hybu chwilfrydedd, uchelgais a dysg gydol oes.
Cynhwysiant
Sicrhau bod llawenydd a grym dawnsio ar gael i bawb yw’r nod sy’n ein gyrru ymlaen. Ym mhob peth a wnawn ni, rydym yn gwahodd ac yn annog pobl o bob oedran, o bob lliw a llun, i ddarganfod a datblygu eu brwdfrydedd dros fynegi eu hunain, ac i fwynhau gwerth anorchfygol dawnsio fel iaith fyd-eang.
Uchelgais
Rydym yn credu ynom ein gilydd ac yng ngrym trawsnewidiol dawnsio; rydym am ei hyrwyddo a’i gydrannu ym mhob peth a wnawn ni, ble bynnag y byddwn yn gweithredu. Rydym yn anelu hefyd at ehangu ein dylanwad drwy arddangos yn ddibaid holl fuddion dawnsio ar lwyfannau mwy, ac at sicrhau dyfodol disglair, llawn profiadau bywyd-newidiol, i bob person y llwyddwn ni i gyrraedd ato/ati.
I ni, mae dawnsio’n golygu llwybr unigryw at brofiadau sy’n arwain at ryddid, a theithiau sy’n cadarnhau gwerth bywyd. Lle bo geiriau efallai’n ei chael hi’n anodd, gall dawnsio gyfleu rhychwant llawn yr emosiynau gan helpu pobl a grwpiau i oresgyn eu swildod, eu darganfod eu hunain a chyfleu negeseuon grymus ac ysbrydoliaethus.
Trawsnewidiad
Rydym yn eirioli’n frwd dros y gwahanol ffyrdd y gall dawnsio newid bywydau pobl ar sut gymaint o lefelau, a thros chwilio’n barhaus am ffyrdd newydd o gydrannu hyn â chynifer o bobl â phosibl. Boed yn helpu pobl i ddod o hyd i’r hyn sy’n bwysig iddynt fel cyfranogwyr, ymarferwyr neu werthfawrogwyr, rydym yma i’w cefnogi a’u cynorthwyo. Rydym yn ymdrechu hefyd i herio’r diffiniadau traddodiadol o ddawnsio, er mwyn cyflwyno ei werth a’i amlochredd mewn ffyrdd cyffrous newydd.
Gwefan: https://www.impelo.org.uk/?locale=cy (Yn agor mewn ffenestr newydd)