73 eitem wedi darganfod
-
(-) Remove Unlocking the Chartist Trials/ Datgloi Achosion y Siartwyr
Dyddiad ymuno: 04/05/16
Mae Datgloi Treialon y Siartwyr yn rhan o brosiect Cynefin O Deithiau i Dreialon. Mae'n anelu i drawsgrifio mwy na 3,000 o ddogfennau a gasglwyd at ei gilydd yn fuan ar ol gwrthryfel y Siartwyr a ddigwyddodd yng Nghasnewydd ar y 3ydd a'r 4ydd o Dachwedd 1839. Defnyddiwyd rhai o'r dogfennau mewn achos teyrnfradwriaeth enwog a ddigwyddodd yn Neuadd y Sir Trefynwy y mis canlynol. Gallwch weld cyflwyniad i'r dogfennau gan y FFILM GYMUNEDOL yma gan Green Valley Films a Made in Tredegar.
Mae'r prosiect yn ddibynnol ar gefnogaeth gwirfoddolwyr. Gobeithiwn y byddwch yn penderfynu ein HELPU I DRAWSGRIFIO geiriau'r dynion a'r menywod a gafodd eu hunain ynghanol y frwydr dros ddemocratiaeth yn nghymoedd de Cymru ar ddechrau teyrnadiad y frenhines Victoria. http://chartist.cynefin.wales/cy
Mae Cynefin: Mapio'r Ymdeimlad o Le yng Nghymru yn brosiect sy'n cael ei redeg gan bartneriaeth a arweinir gan Archifau Cymru. Mae'n anelu i ddigido mwy na 1100 o fapiau a dros 27,000 o ddogfennau pennu, a'u cysylltu a lleoliad perthasol ar fap o Gymru.
Mae partneriaid Cynefin hefyd yn cynwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Casgliad y Werin Cymru. Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid yn cael ei gyfrannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, ost of the funding is from the Heritage Lottery Fund, ac mae cefnogaeth hefyd gan Lywodraeth Cymru trwy CyMAL, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Cymru.
Gwefan: http://chartist.cynefin.wales