
CILIP Cymru Wales: For the Record
Dyddiad ymuno: 15/10/20
Amdan
CILIP Cymru Wales yw CILIP yng Nghymru.
Dyma brif lais y proffesiwn gwybodaeth, rheoli gwybodaeth a llyfrgelloedd yng Nghymru. Ein nod yw rhoi sgiliau a gwerthoedd proffesiynol llyfrgell a gwybodaeth wrth galon cymdeithas ddemocrataidd, gyfartal a lewyrchus yng Nghymru. Mae CILIP yn elusen gofrestredig, rhif 313014.
----------------------------------
Gwahoddwyd ein cydweithwyr o bob rhan o Gymru i rannu storïau am lyfrgelloedd, gwaith a bywyd yn ystod cyfnod cyfyngiadau’r argyfwng COVID-19
Adeiladwyd cofnod o’r sector gwybodaeth o dan COVID-19. Roeddem eisiau clywed straeon gan bawb ar draws y byd llyfrgell a gwybodaeth – o lyfrgelloedd cyhoeddus a rheolwyr gwybodaeth i lyfrgellwyr ysgol, addysg bellach ac uwch, y GIG, gweithwyr llawrydd a llyfrgelloedd arbenigol. Beth oedd eich stori chi?
Gobeithiwyd y bydd pob stori, er efallai’n fach ar ei phen ei hun, yn cyfrannu at ddarlun ehangach y gellir ei ddefnyddio yn y dyfodol i ddysgu ohono. Byddwn yn gweld sut y mae ein proffesiwn yn gweithio wrth gael ei brofi yn y ffordd eithafol hon ac yn ogystal ag wynebu rhai gwirioneddau anodd, efallai y byddwn hefyd yn cael rhywfaint o ysbrydoliaeth…
Gwefan: https://www.fortherecord.wales/ (Yn agor mewn ffenestr newydd)