Arddangosfa Pabi'r Coffáu

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,224
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 499
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: 21 Gorffennaf 2018–3 Mawrth 2019


Bydd yr arddangosfa hon yn edrych ar sut y daeth y pabi yn symbol coffáu, a bydd yn gyfle i fyfyrio ar golledion.


Bydd Pabi'r Coffáu hefyd yn edrych ar wyddoniaeth a bioamrywiaeth y pabi, sydd â nifer o wahanol rywogaethau ledled y byd, a'r bygythiadau sydd i'w fodolaeth. 


Ers miloedd o flynyddoedd, bu cysylltiad agos rhwng y pabi â meddyginiaeth, a hefyd marwolaeth. Mae wedi ysbrydoli beirdd ac arlunwyr. Ymladdwyd rhyfel dros y Pabi Gwyn a'r opiwm a gynhyrchai, ac mae gwrthdaro hyd heddiw yn ei sgil. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, morffin – sy'n deillio o opiwm – oedd y poenladdwr cryfaf ar gael a châi ei ddefnyddio'n helaeth ar faes y gad.


Roedd Pabi Coch yn olygfa gyffredin ar feysydd brwydrau'r rhyfel, ac yn sgil hynny daeth yn symbol coffáu poblogaidd. Mae rhai pobl yn dewis gwisgo'r Pabi Heddwch gwyn, a werthwyd gyntaf ym 1933, neu'r pabi porffor diweddar sy'n coffáu’r anifeiliaid a laddwyd mewn rhyfeloedd.


Bydd Pabi'r Coffáu yn gwahodd ymwelwyr i archwilio hanes y pabi a'i holl amrywiaeth, ac ystyried sut rydyn ni’n ymdrin â rhyfeloedd ddoe a heddiw trwy gyfrwng y symbol hwn. 


 


Arddangosfa Pabi'r Coffáu:


Pabi yn Natur


Symbolaeth y Pabi


Y Pabi ym Mhedwar Ban Byd


Pabi a'r Rhyfel Byd Cyntaf


Celf i Goffau


Morffin a Meddygaeth


Paneli Arddangos Pabi'r Coffau