Dafydd Llewelyn, Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Wnaeth Dafydd gadarnhau ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni: 13 Awst 1942. Mae Dafydd yn dod o deulu o Lanberis/Caernarfon, un o bump, dau frawd a dwy chwaer. Roedd ei dad yn custodian Segontium Museum yng Nghaernarfon, a'i fam yn ei helpu o, a thyfodd Dafydd i fyny efo diddordeb mawr yn hanes awyrennau. Cafodd o ei addysg yn Ysgol Twtil, ysgol rad, ac wedyn yn Ysgol Segontium.  adawodd o'r ysgol yn bymtheg oed ac aeth yn syth fel prentis i ffatri Kays Compacts yng Nghaernarfon, fel 'tool setter, ' ond roedd eisio mynd i swydd gyrru ond doedd o ddim yn gallu yn bymtheg oed. Aeth o i'r ffatri er mwyn cael arian, cael swydd, er bod o ddim yn hapus iawn. O'r diwedd, cafodd o swydd fel bachgen ar faniau’r Co-op.

Yn siarad am ei ddiwrnod cyntaf yn y ffatri, dywedodd bod lot i gymryd i mewn, lot i ddysgu. Roedd yn cofio'r fforman, toc ar ôl iddo ddechrau, yn deud wrtho am drwsio rhyw fashîn:

‘Un peth dw i'n cofio ydy'r dyn ma, y fforman, yn deud wrtha i i newid twl, y press, ar un o'r mashîns, y rheiny oedd yn tynnu'r patrwm ar y compacts, Roedd ‘na rhai gwahanol, a finnau’n gwneud hyn, a dyna fo yn dod ataf mewn rhyw hanner awr wedyn, ac yn deud "ti byth wedi newid hwnna" medda fo. "Do" medda fi, "dw i wedi gwneud o." "Naddo, wyt ti ddim" medda fo "Paid â deud bod ti wedi achos mae'r sbaner gen i fan hyn," medda fo. "Wel, dw i wedi gwneud, wnes i iwsio'n sbaner fy hun." "Wneith o fyth weithio!" Ond mi oedd o wedi gweithio! Oedd o allan i gael fi wedyn, ond wnes i ddim aros yno'n hir.’

Prif waith Dafydd yn y ffatri oedd mynd rownd i newid twls ar y presses, a jobs fel pwsio'r compacts i mewn i dwnnel lle roedd gwres yn mynd arnyn nhw, lle oedd y fforman fel y llall, a phethau eraill fel maintenance, ond tool setter oedd o i fod. Doedd o ddim yn hoffi'r swydd o achos y ffordd roedden nhw'n trin pobl, yn enwedig y ddau fforman, ond dywedodd bod y genod yn grêt. Pan oedd yn cerdded lawr trwy'r mashîns roedd y merched yn tynnu ei goes a gweiddi 'Ti isio thrill?' a fo yn bymtheg oed! Ond oedd ‘na crowd da yno. Roedd yn nabod rhai cyn dechrau ond daeth i nabod pawb, er nad oedd gynno fo berthnasau neu ffrindiau penodol yn gweithio yna. Roedd yn sôn am fynd i'r cantîn, a bod dynes neis yn gadael iddo dalu yfory os nag oedd digon o bres gynno fo. Dim pryd o fwyd oedden nhw'n serfio yno, ond snacs. Ac roedd rhai o'r merched hyn yn edrych ar ei ôl o, er bod nhw'n deud pethau bach gwirion pan oedd yn pasio heibio, cael hwyl, wincio a phethau.

Roedd bechgyn ifanc eraill yn gweithio yno hefyd, rhai ohonyn nhw yn mynd ymlaen efo'r trade a gwneud cyrsiau ar eu gwaith fel tool makers ayyb. Roedd y cyflog tua 6/5 yn dechrau; oedd o ddim yn ennill cymaint â'r dynion eraill gan ei fod yn brentis, a doedd o ddim yn cofio os oedd y dynion yn cael mwy na'r merched (er bod Mary Evans a oedd yn yr ystafell yn ystod y cyfweliad y mae hi yn meddwl eu bod nhw). Roedd yn gwisgo oferôl, yn llawn "on i'n oil ac yn grease." Roedd yn dysgu pethau bod dydd, am ryw chwe mis, ac wedyn penderfynodd nad oedd o eisio'r gwaith yna. Roedd y rhan fwyaf o'r dynion yn ei helpu fo i ddysgu, fel egluro technical terms.

Roedd yn aelod o'r undeb ac yn talu dau swllt yr wythnos, neu'r mis, doedd o ddim yn cofio, ond doedd yr undeb ddim yn golygu llawer iddo. Doedd o ddim yn cofio'r un streic pan oedd o'n gweithio yno.

Roedd pawb yn siarad Cymraeg, ar wahân i'r managers, un ohonynt â'r enw Mr Welsh!

Y tu allan i'r gwaith, roedd o'n arfer chwarae pêl droed i'r dref. Roedd o'n cymdeithasu efo bachgen arall o'r ffatri, Victor. Roedd ei reini yn fodlon bod o'n gweithio mewn ffatri gan fod gynno fo waith. Doedd y gwaith ddim yn arbennig o beryglus, er bod rhai o'r merched yn cael eu brifo, ee. un wedi torri'i bys yn y peiriant. Roedd y twls yn drwm, ond cafodd o fyth ei frifo. Roedd y dynion hyn yn deud wrtho fo i fod yn ofalus, gwneud pethau'n dyn, ayyb.

Roedd yn byw filltir i ffwrdd ac yn mynd i'r gwaith ar gefn beic, yn gweithio o wyth tan bump, a hanner awr i ginio. Doedd dim rhaid gweithio penwythnosau. Fuon nhw ddim, fel teulu, ar wyliau i ffwrdd. Roedd yn gwario ei arian ar fodelau awyrennau.

Roedd yn cofio llawer o swn, o'r peiriannu, a'r merched yn canu. Roedd yn dynion yn gweithio yn y gweithdy, ond rhaid iddyn nhw fynd byth a hefyd i'r presses lle roedd y merched yn gweithio. Roedd rhywbeth i drwsio, neu adjustio, neu newid y twl bob munud os oedden nhw'n rhoi patrwm newydd ar y compact.

Ai adre i ginio weithiau, ond gan amlaf ai i'r cantîn. Roedd merched a dynion yn cymysgu yn y cantîn, rhai ohonynt mewn 'cliques.' Roedd y bwyd yn basic, sandwiches a phethau felly, dim pryd o fwyd. Roedd rhaid iddynt dalu am y bwyd.

Wnaeth y ffaith ei fod o'n fachgen pymtheg oed yn gweithio efo pethau merched, fel compacts, ddim croesi ei feddwl. Roedd ei waith o gyda’r twls. Roedd yn gwybod ei fod o'n mynd ar y lon rywbryd neu'i gilydd.

Roedd ei gyfweliad deg munud yn Saesneg ond doedd o ddim yn anodd, er bod o ddim wedi cael cyfweliad o'r blaen. Roedd ei dad wedi rhoi cyngor iddo cyn y cyfweliad, yn rhoi syniad beth i ddisgwyl. Roedd o'n hapus i gael ei dderbyn, ond dylai fo fod wedi gofyn mwy o gwestiynau o achos doedd o ddim yn gwybod beth yn hollol oedd y gwaith cyn dechrau. Cafodd o gyfweliad efo Mr Welsh a ddywedodd 'it involves working with machinery.'

Roedd hi’n hawdd cael swydd yn syth ar ôl gadael yr ysgol yn y cyfnod yma. Roedd o yn y ffatri am flwyddyn. Ar ddiwedd y cyfnod, clywodd o am swydd ar faniau y Co-op, trwy ei dad, a oedd yn talu mwy, ac roedd wrth ei fodd bod mewn fan yn mynd o gwmpas.

Doedd agwedd y dynion yn y ffatri ddim yn dda tuag at y supervisors, o achos y ffordd oedd y gweithwyr yn cael eu trin.

Doedd o ddim wedi enill unrhyw qualification yn y ffatri, er bod yn bosib tasai o wedi aros, byddai modd gwneud hynny.

Roedd yn cofio lot o hwyl yn y ffatri, siarad efo pobl, ond oedd o hapusach allan yn yr awyr iach mewn swydd yrru. Ond aeth o i ffatri arall, ar ôl rhai blynyddoedd, a oedd yn gwneud lledr ffug, sef Bernard Wardell, a oedd yn gwneud dodrefn. Roedd dwy shifft yno, nos a dydd. Roedd na merched yno hefyd, yn y warws, ond yn y ffatri, dim ond dynion oedd yn gweithio. Roedd mashîns mawr yn rholio'r plastic allan, ac roedd y deunydd hwn yn mynd i'r warws lle roedd y merched yn gweithio ac yn cael eu ddelifro dros y wlad i gyd. Aeth o yn ôl i waith ffatri achos fod ei job yrru yn darfod. Roedd yn hawdd newid swyddi ar y pryd . Roedd y cyflog yn dda yn Bernard Wardell. Roedd y gwaith yn wahanol iawn i'r ffatri compact ac roedd rhaid iddo ddysgu sgiliau newydd. Aeth yn ôl i waith gyrru ar ôl blwyddyn a hanner. Roedd o mewn undeb yn y ffatri newydd hefyd, ac ar hyd yr amser wedyn.

Gwnaeth o gyfaddef yn y cyfweliad fod ffatrïoedd wedi bod yn bwysig iawn i Gaernarfon, ond ar ôl dod i ddeall ei hun, mae'n well gynno fo fod allan yn lle gweithio yn yr un lle trwy'r amser. Roedd ‘na lot o ddewis gwaith yn y gorffennol, llawer o ddewis o swyddi i bobl.

Hyd y cyfweliad: 30 munud

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VN007.2.pdf