Tori James

Eitemau yn y stori hon:

  • 589
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 734
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 650
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Byddai’n anodd meddwl am rywun mor ifanc fel arwres, os nad Tori James oedd y person honno.  Mae hi wedi cyflawni mwy yn ei bywyd cyn belled nag y bydd y rhan fwyaf ohonom byth yn llwyddo.

 

Mae Tori wastad yn barod i gydnabod Girlguiding gyda rhoi'r ysfa i dderbyn mwy a mwy o heriau, a’r hyder i wynebu’r profiadau anodd yma.  

 

Roedd hi’n Brownie yn Hwlffordd, wedyn yn Guide yn Uned Hwlffordd 4ydd ac wedyn yn Ranger. Roedd hi wastad ar y blaen, mewn rôl arweinyddol o oedran cynnar, a’i phrofiad alpaidd cyntaf oedd ar daith y Guides i’r Swistir.  

 

Mae’n amlwg gwnaeth hwn argraff arbennig arni, oherwydd ar ôl iddi gyflawni gradd mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Royal Holloway, fe ddaeth hi’n aelod o ‘The Pink Lady Pole Cats’. Gwnaeth y grŵp o fenywod hyn gymryd rhan yn yr Her Begynol, ras 360 o filltiroedd i Begwn Magnetig y Gogledd.

 

Sut i ddilyn hwn?

 

Wel, drwy fod y fenyw Gymreig cyntaf, ac ar y pryd y fenyw Brydeinig ieuengaf i ddringo Everest wrth gwrs. Cafodd y llwyddiant yma ei amlygu mewn rhaglen teledu ddogfennol ‘On Top of the World’.

 

Roedd Girlguiding Sir Benfro yn bles i’w gwahodd hi i fod yn Llywydd Anrhydeddus.  Ar wersyll dathliadol yn Sir Benfro, death hi a baneri gweddi Nepalaidd o’r Gwersyll Sylfaen, a gwnaeth hi ddylanwadu ar nifer o ferched y noswaith honno, gyda’i straeon o’r uchaf ac isel bwyntiau o’r daith anhygoel yna.

 

Ers hynny mae hi wedi mynd ymlaen i ddod o hyd i heriau newydd.  Mae hi wedi seiclo hyd Seland Newydd ac yn 2014 gwnaeth cymryd rhan yn Beeline Britain, siwrne o 1100km mewn llinell syth o Lands End i John O’Groats. Gwnaeth hwn gynnwys caiacio yn y môr, seiclo, beicio mynydd a heicio.  Gwaneth hwn hefyd arwain at ffilm, ‘As The Crow Flies’ a gafodd ei rannu gyda Girlguiding Sir Benfro pan wnaeth hi siarad yn eu Hadolygiad Blynyddol.  Gwell fyth, gwnaeth y siwrne basio trwy Sir Benfro ac roedd sawl uned yn medru ei chefnogi o amrywiaeth o fannau ffafriol.

 

 Mae Tori’n crynhoi’r oll y gall Guiding wneud i fenywod ifanc heddiw. Main ei thaldra ond aruthrol o gymeriad, mae hi’n cymryd ei Haddewid o ddifri ac yn rhoi nôl i Guiding pa bryd bynnag y gallai.  Cafodd ei gwobrwyo gyda’r Wobr  ‘Point of Light’ am wirfoddoli eithriadol dros ddeng mlynedd, ac mae aelodau Girlguiding Sir Benfro yn aros yn awyddus am antur nesa’ eu Llywydd.  Pwy gwell i fod yn Llysgennad i Guiding.  Pwy gwell i fod yn arwres Guiding.

http://www.torijames.com