Violet Lady Merthyr

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,004
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 844
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,613
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 917
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Yr oedd yn briodol bod y Foneddiges Merthyr yn Gomisiynydd Sir a Noddwraig Girlguiding Sir Benfro, sir sy’n enwog am ei Barc Cenedlaethol arfordirol. Roedd ganddi gariad cynhenid tuag at y môr ac wedi hwylio o amgylch moroedd ac afonydd Ewrop. Wrth ymweld â Broneirion ar lawer achlysur mynnodd cymryd y llwybr arfordirol mwyaf golygus, lleiaf uniongyrchol, adref. Cadwodd nodiadur personol o weddïau yn ymwneud â’i hoffter o natur, yn arbennig y môr.

 

Castell Hean yn y sir oedd ei chartref, sydd yn edrych dros Fae Llanussyllt. Yma croesawodd Guides i wersylla ar y tir ac yn 1939, gyda’i gŵr, cynhaliodd Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol ar ei hymweliad â’r sir.

 

Roedd hi’n hanfodol i ddatblygiadau Guiding gynnar yn y sir, ar ôl berswadio ei mam, y Foneddiges Meyrick i fod yn Gomisiynydd. Agorodd nifer o unedau a hyfforddi Guiders newydd. Mewn un achos pan drefnodd cyfarfod i ferched gael gwybod am Guiding, wnaeth dros 200 troi i fyny!

 

Yn 1931 wnaeth cynrychioli Cymru mewn gwersyll rhyngwladol yn y Ffindir ac yn Gynhadledd y Guides 1935, lle cadeiriodd sesiwn arbennig i Gomisiynwyr a Guiders ifanc. Hefyd yn 1935 aeth ar hirdaith gyda’i uned Sea Rangers, gan gymryd offer hanfodol ar ferlen a chert, y mae hi’n cyfeirio at y  ferlen yn ei hadroddiad.

“We rose early the next day, and after breakfast we used a great deal of our energy endeavouring to catch our pony, that was turned out in an adjoining field.”

 

Cynorthwyodd yn ymdrechion y rhyfel, gan godi arian i brynu bad achub, ambiwlansys ac ambiwlansys awyr.

 

Ym 1945 dalier swydd Gomisiynydd Rangers (I.H.Q.), gorffenodd y rôl pan ddychwelodd y Bonheddig Merthyr, ar ôl ei ryddhau o wersyll carcharorion ryfel. Yn yr amser byr hynny, ysbrydolodd faes llafur newydd  i’r Rangers o’r enw “Plotting The Course” a ddisodlodd y “Home Emergency Service” o gyfnod y rhyfel. Wnaeth helpu i ddylunio’r wisg Ranger newydd, ac o ganlyniad i’w syniad gwreiddiol daeth Wythnos Ceidwad Ymerodraeth “Empire Ranger Week” yn 1948. Dychwelodd i’r rôl yn 1949 pan ysgrifennodd ei rhagflaenydd -

“Knowing her inspiring powers of personal leadership and her great capacity for constructive action, we welcome her back wholeheartedly.” (MER Sutherland)

 

Derbyniodd gwobr y Pysgodyn Arian  (Silver Fish), gwobr uchaf Girl Guiding UK, i gydnabod ei gwasanaeth neilltuol. Rhoddodd 80 mlynedd o wasanaeth i Girlguiding.

 

Fel Noddwraig Sir mynychodd Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol i gyflwyno gwobrau, ac mewn blynyddoedd diweddarach, pan na fedrai bod yn bresennol, edrychodd ymlaen at dderbyn copi o’r adroddiad sir i ddarllen am y digwyddiadau diweddaraf. Atgoffodd pawb yn rheolaidd taw’r Guiders a oedd yn gweithio ar lefel sylfaen oedd y rhai pwysig a gadwodd Guiding i fynd.

 

Mewn geiriau Boneddiges Merthyr ei hun -

“I would say to all you, who are Guides or potential Guiders … there is no better way than Guiding in which to serve your neighbourhood, your county or to serve the world and at the same time to have enormous fun and fellowship”