Rosa C. Ward OBE

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,185
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 925
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 862
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Bu Rosa Ward yn byw yng Nghae Dai, Dinbych ac yn 1912 ffurfiodd y Cwmni Guide cynharaf yng Ngogledd Cymru. Nid oedd gan Gwmni 1af Dinbych Gapten, ac felly Arweinydd y Patrôl, Rosa Ward, arweiniodd y Cwmni. Bu hi'n dal nifer o swyddogaethau yn y Girl Guide Association- Prif Gomisiynydd Sir Ddinbych (1917-46), Llywydd Sirol (1946-56) yn ogystal ag Is-lywydd Cenedlaethol (1961-84). Pan benodwyd Miss Ward yn Brif Gomisiynydd dros Sir Ddinbych, nid oedd eto wedi cyrraedd ei llawn oed. Yn 1939 fe benodwyd Miss Ward yn Brif Gomisiynydd Cymru.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ysgrifennodd Guide 12 mlwydd oed at y Pencadlys Ymerodrol y Guides yn gofyn -

"Can't we do something now, so that when the war ends we will be able to send help to our sister Guides who will want to rebuild their country?"

Nododd llythyr yng nghylchgrawn "The Guider", a ysgrifennwyd gan Mrs Mark Kerr,

"We must look to the future and prepare ourselves for the times to come. Much more important than winning the war is the question of winning peace. Whatever happens, Europe will be left weak and exhausted, and will need an army of goodwill - an army mostly composed of women. If we can begin now, to collect our army of goodwill, what could they not do to bring healing and comfort to a stricken world?"

Ym mis Ebrill 1942 ffurfiwyd y Guide International Service (G.I.S.). Yr oedd i gynnwys timau o arweinyddion hyfforddedig, cymwysadwy ac wedi'u paratoi i  fedru cynnig gwasanaeth yn yr ardaloedd hynny lle'r oedd yr angen fwyaf, unwaith i'r rhyfel ddod i ben. Cadeirydd y prosiect oedd Miss Rosa Ward a dderbyniodd y swydd tan iddynt ddod o hyd i berson mwy addas. Pan dadfyddinwyd y G.I.S 12 mlynedd yn ddiweddarach roedd yn dal i fod yn Gadeirydd - dyna ddynes anhygoel!

Anfonodd 13 tîm gan y G.I.S. Gadawodd y cyntaf Brydain ym mis Mehefin 1944, gyda'r gwirfoddolwyr olaf yn gadael yr Almaen ym mis Mawrth 1952.

Ar 22ain Chwefror 1945 galwyd Tîm Ysbyty G.I.S i gyflwyno'i hun ym Mhalas Buckingham, i dderbyn gwrandawiad gan ei Mawrhydi'r Frenhines. Adnabuwyd y Frenhines Elizabeth fel Comisiynydd Brenhinol Girl Guides.

Mae ffotograff o Rosa Ward o flaen y tîm G.I.S. yn gorymdeithio drwy gatiau Palas Buckingham yn dilyn cael gwrandawiad gan ei Mawrhydi'r Frenhines.

 

Ar 29 Ebrill 1997 cynhaliwyd Gwasanaeth Cyflwyno ar gyfer ffenestr lliw yn Nhŷ Clwyd i ddathlu bywyd a gwaith Rosa C. Ward O.B.E. (1893-1984). Arweiniwyd y Gwasanaeth gan y Parchedicaf Alwyn Rice Jones, Archesgob Cymru, yn Nhŷ Clwyd, Llanfair Talhaiarn. Y mae'r ffenestr yn dathlu arweinyddiaeth Rosa Ward o'r Guide International Service.

Mae'r ffenestr ym mhrif Neuadd Tŷ Clwyd ac mae pelydrau o olau yn llifo drwyddo i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o Rainbows, Brownies a Guides.