arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

The Honourable Gwenllian Philipps

Eitemau yn y stori hon:

  • Use stars to collect & save items
  • 1,248
  • mewngofnodi
  • Use stars to collect & save items
  • 1,207
  • mewngofnodi
  • Use stars to collect & save items
  • 818
  • mewngofnodi
Ganwyd yr Anrhydeddus Gwenllian Philipps 13eg o Awst 1916 a bu farw yn Boughrood, Llyswen, Aberhonddu 4ydd o Awst 2013. Roedd hi’n ferch i’r Barwn Cyntaf o Aberdaugleddau (1874-1960) a’i wraig Ethel Georgina Philipps (née Speke).
 
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu’n is-lifftenant yn yr Auxiliary Territorial Army a dyfarnwyd iddi Fedal Ryfel 1939-1945 a Seren 1939-1945. Roedd yn Ynad Heddwch i Sir Faesyfed, yn Gynghorydd Sir i Sir Faesyfed (1959-1964) ac yn Uchel Siryf i’r sir (1970-1971). Derbyniodd yr O.B.E. (sifil) ym 1962.
 
Bu Miss Philipps yn Gapten i Gwmni Guides 1af Llanfair-ym-Muallt, yn Lifftenant gyda’r Sea Rangers ac yna’n Gapten gyda Sea Rangers Llan-gors. Yn ogystal, bu’n
 
Gomisiynydd Sir i ddwy sir, Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog, ar wahanol adegau ac yn ddiweddarach bu yn Llywydd Sir Frycheiniog cyn bod yn Noddwr y sir.
 
Yn ystod ei chyfnod fel Ymghynhorydd Sea Rangers i Gymru, ymunodd gyda Chief Guide Y Byd, Y Fonesig Baden-Powell wrth iddi deithio o amgylch Awstralia ac
 
Ardal y Môr Tawel yn yr 1950au. Tra’n ymgynghorydd rhyngwladol i Gymru, anogodd a chefnogodd aelodau o’r mudiad i deithio i ddigwyddiadau tramor. Bu’n gyfrifol am drefnu tripiau tramor i’r Swistir ac mae gan gyn-aelodau o’r mudiad yn Siroedd Brycheiniog a Maesyfed atgofion melys o’r gwibdeithiau i’r Swistir. I nifer o’r merched, dyma eu profiad cyntaf o deithio tramor.
 
Miss Philipps oedd Prif Gomisiynydd Cymru o 1964 i 1975. Yn ystod ei hamser fel Prif Gomisiynydd Cymru, cynhaliwyd Gwersyll Antur Cymru ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-muallt. Mynychwyd y gwersyll gan Chief Guide y Byd.
 
Bu’n Drysorydd i Guides Cymru am nifer o flynyddoedd. Elwodd y mudiad yng Nghymru o’i goruchwyliaeth gofalus o’i materion a byddai wastad yn cefnogi prosiectau oedd yn hybu’r merched ac arweinwyr. Cyd-weithiodd yn effeithiol gydag eraill pan ddaeth Broneirion dan ofal Guides Cymru ym 1947. Bu’n gefnogwr brwd o wersylloedd a digwyddiadau a gynhaliwyd yno.
 
Cafodd ei phenodi gan y Trefoil Guild yn llywydd. Mae GirlGuiding Cymru wedi cydnabod ei gwaith diflino i’r mudiad trwy enwi maes gwersylla ym Mroneirion yn ‘Cae Gwenllian’ ar ei hôl. Yn ogystal, cofrestron nhw hi yn aelod o’r Olave Baden-
Powell Society.
 
Roedd nifer yn y mudiad yng Nghymru yn adnabod, Miss Gwenllian Philipps, Gwen, The Hon. neu Gapten ac yn ei chofio gyda pharch a diolchgarwch.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw