ELLEN JONES (‘Nel Fach y Bwcs’) 1870 – 1965

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,072
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Cefndir y Llyfrau.  Yn ei henaint fe aeth Ellen Jones i fyw at ei mab William John a’i merch yng nghfraith Marged Lloyd Jones yn Llanfyllin a’r Bala. Ond yn feddylilo ac ysbrydol roedd Ellen Jones yn nol ym Mhatagonia. Cofnododd Marged Lloyd Jones y cyfan a dyna yw cynnwys y llyfrau sef hanes Ellen yn mynd o’r Rhondda gyda ei mam a’i thad i Batagonia yn 1870.  Cawn hanes ei bywyd yno ac ar ol iddi hi a’i thad John Davies ddod yn nol i fyw i ‘Camwy’ ym mhentref Felindre yn 1901.  Priododd maes o law gyda Tom Brynawel a byw wedyn am gyfnod maith yn’Graigwen’, Alltpenrhiw, Felindre. 

 

Priododd ei thad am y trydydd tro gyda merch o’r pentref ac fe anwyd un mab Samuel iddyn nhw. Priododd yntau a byw yn lleol a phlant iddyn nhw yw Dyfrig, Eifion, Janice ac Elinor a fagwyd yn Pensarn Cottage, Dre-fach.

I wybod am stori rhyfeddol bywyd Ellen Jones mae’n bwysig darllen y llyfr O Drelew i Dre-fach.