arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

MARGARET BRYNMOR WILLIAMS B.E.M. (Margaret Evans, Danwarin gynt) 1904-1989

Roedd Mrs Margaret Brynmor Williams, Neuadd Wen, Felindre yn un o’i harweinyddion blaenaf yn ystod yr 20ed ganrif.

Eitemau yn y stori hwn

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Paentiad olew o Mrs Margaret Brynmor Williams...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Llun a beintiwyd o Mrs Margaret Brynmor...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Darlun o Mrs Margaret Brynmor Williams yn...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Llun o Mrs Margaret Brynmor Williams gyda ei...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Gwahoddiad i Balas Buckingham, Mehefin 1970

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Llun o Mrs Margaret Brynmor Williams wedi...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Margaret Brynmor Williams, Dre-fach Felindre


Ym marwolaeth Mrs Margaret Brynmor Williams, Neuadd Wen, Felindre yn 1989 fe gollodd ardal Drefach-Felindre a phlwyfi Penboyr a Llangeler un o’i harweinyddion blaenaf yn ystod yr 20ed ganrif.



Fe’i ganwyd yn 1904 yn ferch i Mr Mrs David Evans, Danwarin, Felindre, a than iddi briodi yn y pumdegau adnabuwyd hi ar lafar gwlad fel ‘Maggie Danwarin’.  Ar wahân i’r ychydig flynyddoedd y bu’n byw yn Y Rhondda ar ôl priodi treuliodd ei holl fywyd yn gwasanaethu’r gymdeithas leol mewn amrywiol ffyrdd a hynny’n egnïol a diflino. Roedd ganddi ddiddordeb a chariad dwfn tuag at ei hen fro a’i phobl tuag ati hithau nes i @Mrs Brynmor’ dyfu’n arweinydd cryf yn yr ardal.



Ar ôl mynd i Ysgol Penboyr ac yna i Ysgol Ramadeg Llandysul. Dilynodd gwrs mewn Cerdd a Drama yng Ngholeg Harlech ac ennill ysgoloriaeth wedyn i fynd i’r Academi Brenhinol cyn dychwelyd i’w henfro i fod yn athrawes cerddoriaeth a dysgu canu’r piano i genedlaethau o blantl a chymryd rhan flaenllaw mewn gweithgareddau lleol.



Hi oedd un o sylfaenwyr y gangen leol o’r W.I. (Womens Institute) yn 1926 a bu’n Gadeirydd a Llywydd ac arweinydd y mudiad am dros chwe mlynedd ar hugain.



Yn aelod ffyddlon yn Eglwys Sant Barnabas ac yn organyddes am dros hanner can mlynedd ac yn Athrawes Ysgol Sul am dair blynedd ar hugain.



Cafodd wahoddiad i ymweld a Phalas Buckingham dair gwaith (ni chafodd llawer y fraint honno!). Y tro cyntaf yn 1946 fel gwerthfawrogiad am ei gwaith gyda’r Cynilo Cenedlaethol adeg yr ail ryfel byd, yna yn 1963 fel Cadeirydd Cangen bentref y W.I. ac eto yn 1970 a hithau’n gadeirydd Cyngor Dosbarth Gwledig Castellnewydd Emlyn.



Ar ôl priodi treuliodd y pumdegau yn byw yn Y Rhondda lle roedd ei gwr Mr J Brynmor Williams, B.A., y dramodydd a’r cerddor dawnus yn athro yn Ysgol Ramadeg Y Porth. Yn dilyn ei farwolaeth yn 1958 dychwelodd hithau i’r hen ardal ac i fyw yn Neuadd Wen, tŷ ei diweddar David Evans y cigydd lleol, ac i ail afael yn y gwaith cymunedol.



Yn awdur ac yn gynhyrchydd dramâu a phasiantau ac yn actores ddawnus ei hun cofir amdani fel siaradwraig a darlithydd ar hanes ac atgofion lleol.



Etholwyd Mrs Brynmor Williams i gynrychioli Plwyf Llangeler ar Gyngor Dosbarth Gwledig Castellnewydd Emlyn yn 1964 a daeth yn gadeirydd y cyngor hwnnw yn 1970. Ynn dilyn adrefnu llywodraeth leol yn1974 fe’i hetholwyd yn aelod, a’r unig ferch. Ar Gyngor Dosbarth Caerfyrddin a bu’n gynrychiolydd brwdfrydig iawn tan ei hymddeoliad yn 1979. Cyflwynwyd iddi yr anrhydedd uchaf y flwyddyn honno trwy ei gwneud yn Henadur Anrhydeddus y Cyngor. Mae’n werth nodi iddi ddod yn ‘dop y pol’ ym mhob etholiad lleol. Mae hyn yn dangos eo phoblogrwydd ymhlith ei phobl ei hun.



Daliodd nifer fawr o swyddi eraill hefyd a bu’n aelod o ddwsinau o gyrff a mudiadau lleol a chenedlaethol. Bu’n aelod o Gyngor Cymuned Llangeler, Cadeirydd y Pwyllgor Henoed lle9ol am bum mlynedd ar hugain. Yn gadeirydd Pwyllgor Neuadd y Ddraig Goch ac aelod o Fwrdd Rheoli a Llywodraethwyr Ysgolion Penboyr, Emlyn a Llandysul.



Hi oedd ‘llais yr ardal’ yn y papurau lleol am dros chwarter canrif gan adrodd a chroniclo’n drylwyr ddigwyddiadau’r fro yn wythnosol.



A hithau yn 80 oed derbyniodd Fedal y B.E.M. yn 1984 am ei gwasanaeth clodwiw a diflino i’w chymdeithas leol.



Tan y diwedd fe ddaliodd ati i weithio ymhlith ei phobl a phan fu farw fe gollodd Drefach-Felindre un o’u harweinwyr pennaf. O fewn ei ‘milltir sgwâr’ ni chyfrannodd yr un wraig cymaint a ‘Mrs Brynmor’ yn yr 20ed ganrif.



(Merch i Cecil Evans, brawd Mrs Brynmor Williams yw Ann Evans (Nythfa gynt) ond sy’n byw nawr yn Tŷ Gwyn, Drefach.)


Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw