arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

SARAH JONES - Mrs J R Jones, Trecoed (1908-1994)

Merch fferm Y Goetre yn ymyl pentref Felindre oedd Sarah Evans ac un o’r rhesymau iddi gael gwersi piano pan oedd yn ferch fach oedd helpu i gryfhau ei braich dde wan a oedd ychydig yn fyrrach na’i braich chwith.

Eitemau yn y stori hwn

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Adar Bargod, Dre-fach Felindre

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Cast gwreiddiol Merch y Glannau.

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Parti Adloniant Felindre, Dre-fach Felindre, 1952


Merch fferm Y Goetre yn ymyl pentref Felindre oedd Sarah Evans ac un o’r rhesymau iddi gael gwersi piano pan oedd yn ferch fach oedd helpu i gryfhau ei braich dde wan a oedd ychydig yn fyrrach na’i braich chwith. Hi gafodd t gwersi tra bod ei chwaer Hannah, a oedd yn abl o gorff yn aros adref i weithio ar y fferm.



Yn fuan iawn gwelwyd bod talent arbennig gan ferch Y Goetre ac ni bu’r fraich chwith yn unrhyw rwystr iddi feistroli’r piano ac yn hyfforddwraig a chyfeilydd blaenllaw mewn eisteddfodau a chyngherddau.



Dechreuodd rhoi gwersi piano pan ond yn 16 oed a’r plant yn dod i’r tŷ i Goetre i gael eu dysgu – gyda Alan Campden a Ieuan Francis yn eu plith! Wedyn roedd hi’n mynd o gwmpas ar ei beic i roi gwersi yn nhai’r disgyblion a hyd yn oed i ardal Capel Iwan ac i gartrefi fel Blaenbowi gyda phen y daith yn y ‘Down’.  Ar ôl priodi a symud i fyw i Trecoed yng nghanol y pentref bu cenedlaethau o blant a phobl ifanc yn mynd ati, nid yn unig i ddysgu canu’r piano ond hefyd i gael hyfforddiant canu – yn unigolion, yn ddeuawdau a grwpiau a phartïon o bob math. Yna, eu tywys o gwmpas i gystadlu mewn eisteddfodau pell ac agos, a hynny am gyfnod maith o 1925 ymlaen.



Daeth ei pharti ‘Adar Bargod’ yn enwog iawn ac ennill yn yr Eisteddfod Is-genedlaethol yn Llanelli. Pedair merch o gapel Soar oedden nhw – Mona (Brynbarod), Mair (Ffynnonthadus), Beryl Campden a Enid (Pantybarcud).



Byddai Eurwen Davies (Tŷ Canol Cwmpengraig – Eurwen Rees wedyn) a hyfforddwyd gan Sarah Evans yn mynd o gwmpas y cyngherddau gyda Adar Bargod. Meddai Eurwen mewn llythyr yn 1989 –



“ Buom yn canu mewn llawer o gyngherddau i’r bechgyn (milwyr) amser rhyfel (1939-45). Roedd Adar Bargod yn ennill ymron ym mhob Eisteddfod lleol hefyd. Yn y cyngherddau roeddwn i’n canu’r solo a’r bedwarawd yn uno mewn cytgan. Roeddwn i rhyw bedair blwyddyn yn hyn na hwy.”



Gwelwyd ffrwyth gwaith Sarah Evans yn niwedd y tridegau a’r pedwardegau mewn perthynas a Urdd Gobaith Cymru yn lleol a gyda’r perfformiadau o’r ddrama gerdd Merch y Glannau o waith Elfyn Talfan Davies, Brynaman a mab W Talfan Davies, cyn weinidog Capel Closygraig. Cydweithiodd gyda Mr David Walters a hir gofir yn y pedwardegau am y perfformiadau ardderchog.



Trefnwyd ad-duniad o gast Merch y Glannau yn 1988 i ddathlu pen-blwydd Mrs Sarah Jones yn 80 oed a chael hwyl rhyfeddol mewn gwesty yn Llandysul. Yna yn 1989 fe ddaeth ‘Adar Bargod’ a Eurwen Rees a Mrs Sarah Jones at ei gilydd a mynd i swper yn y Ganolfan Hamdden yn Felindre.



Priododd Sarah Evans yn 1842 gyda J R Jones a mynd i fyw i Trecoed yn y pentref ac fe’i hadnabuwyd wedyn fel Mrs J R Jones, Trecoed. Roedd siop nwyddau yn rhan o dy Trecoed cyn symud wedyn i’r hen ‘Reading Room’ ar draws y ffordd. Bu’r Midland Bank yn defnyddio’r hen siop yn y tŷ wedyn am flynyddoedd am ddwy awr bob dydd Mawrth.



I Drecoed wedyn y byddai plant yr ardal yn mynd i gael eu gwersi piano a hyfforddiant canu.



Bu Mrs J R, Trecoed yn hyfforddi a chyfeilio i ‘Velindre Children Concert Party’ gyda Mrs Maldwyn Williams diwedd a 1940’au a dechrau’r 1950’au.  Gwraig Mr Maldwyn Williams, perchennog ffatri Dyffryn ar y pryd oedd Mrs Williams a chwbl di-Gymraeg. Sylwer mai Saesneg oedd y rhaglenni ond bod y cyflwyniadau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd copïau o’r rhaglenni’n dangos pwy oedd yn cymryd rhan.



(Nodyn personol gan PHG :  Roeddwn i’n aelod o’r ‘Concert Party’ a phrofiad gwerthfawr i grwt fel fi oedd cael mynd gyda’n gilydd mewn bws i berfformio mewn mannau fel ‘St. Davids Memorial Hall’, Caerfyrddin yn 1942 (Clwb y Cwins yn awr) a neuadd Llandudoch ger Aberteifi.)



Llun o Mrs Maldwyn Williams (gyda’i gwr a William Davies –Wil Penlon ac veraill tu allan i ffatri Dyffryn – lluniau Nanna Jones (Phillips).



Er mai yn Eglwys Sant Barnabas yr oedd hi’n aelod fe ddechreuodd fel organyddes yn Eglwys Sant Llawddog, Penboyr yn 1925 pan ond yn 17 oed.  Cafodd wersi organ yn Eglwys San Pedr, Caerfyrddin. Bu’n chwarae’n ddifwlch wedyn tan 1992, ond nid mor rheolaidd wedyn oherwydd gwaeledd.  Bu’n cymryd ei thro hefyd fel un o dri organydd Sant Barnabas  gyda Mrs Brynmor Williams a Mr Leslie Baker Jones.



Byddai holl weithgarwch cerddorol y ddwy eglwys yn mynd a’i bryd. Cyfeiliodd am drigain mlynedd yn ddi-fwlch yng ngwasanaeth y Plygain yn Eglwys Sant Llawddog bob bore’r Nadolig am 6a.m. y bore. Cyfeilio i ymarferion yr anthemau wedyn ar gyfer ac yng Ngwyl y Calan Hen yn Llandysul ddechrau Ionawr a’r Ŵyl Gorawl  yng Nghastellnewydd Emlyn yn ystod yr haf ynghyd a’r Gwyliau Dirwestol yn ystod y 1950’au.



Bu’n aelod o Gor diweddaraf Bargod Teifi hefyd o dan fatwn sawl gwahanol arweinydd hyd at ei blynyddoedd olaf.



Er mai am ei chyfraniad oes i gerddoriaeth lleol y cofiwn am Mrs J R Jones, Trecoed yn bennaf bu ei ymwneud a’i chefnogaeth i holl fywyd y pentref yn arbennig hefyd ar hyd y blynyddoedd.. Bu’n flaenllaw gyda Clinic y Babanod, Pwyllgor y Neuadd, Merched y Wawr, a Chymdeithas y Ddraig ac yn dilyn Dosbarthiadau Efrydiau Allanol hyd at y blwyddyn olaf.



Cyfrannodd nifer o hanesion gwerthfawr i’r papur Bro Y Garthen  ers y cychwyn am dair blynedd ar deg gan roi blaenoriaeth i bopeth a fyddai’n ymwneud a’r iaith Gymraeg, ac yn gefnogol i bob mudiad lleol.



Yn rhifyn Y Garthen  Mehefin 1994 ceir yr adroddiad hwn am Y diweddar Mrs Sarah Jones, Felindre :



“Daeth pennod arall i ben pan gollodd Plwy’ Penboyr un o’i chymeriadau amlycaf ym marwolaeth Mrs Sarah Jones Trecoed, Felindre ychydig ar ôl ei phen-blwydd yn 86 oed. Medrai edrych nol dros bedwar ugain mlynedd, ac ymfalchiau yn y pethau yr ymddiddorau ynddynt...



Claddwyd ei gweddillion ym medd ei phriod J.R. ym mynwent Sant Llawddog brynhawn Llun Mai 9ed 1994 yn sŵn y geiriau



                                  ‘Pob calon ysig boed yn dyst



                                  Fod hedd yn enw Iesu Grist’



 



Mab iddi yw Richard Jones sy’n byw gyda’i wraig Marian yn hen gartref y teulu yn Y Goetre.



Mae ganddyn nhw ddwy o ferched sef Mari a Gwenno ac mae’r teulu’n aelodau ffyddlon yn Eglwys Sant Barnabas gyda Richard yn aelod gweithgar a Marian yn organydd.


Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw