Coffáu Llongwyr Masnach o Orllewin Affrica a fu farw yn y Rhyfel Mawr

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,588
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,815
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi




 



Lladdwyd 104 o deithwyr a chriw gan y ffrwydrad, drwy foddi, neu o hypothermia yn y dŵr rhewllyd. Hon oedd y llong deithwyr ddiarfau gyntaf yr ymosodwyd arni yn y rhyfel, ac yn dilyn y trychineb cafodd y golygfeydd enbyd a hanesion dirdynnol y tystion mewn cwest yn Aberdaugleddyf sylw mawr ym mhapurau newydd y byd.



Un o’r rhai a fu farw oedd llongwr o Nigeria o’r enw John Myers. Mae ef wedi’i restru ar gofrestr y llong fel trimiwr 21 oed, ac mae’n debyg mai dim ond ei ail fordaith oedd hon. Roedd yn un o ryw 18 o aelodau criw croenddu ar fwrdd y llong ac mae wedi’i gladdu yn Aberdaugleddyf, er nad yw unrhyw gofnod o’i fedd wedi’i ddarganfod eto.



Roedd y Falaba yn perthyn i gwmni llongau Elder Dempster, yr hwyliai ei agerlongau rhwng Lerpwl a Gorllewin Affrica ac a fu’n cyflogi aelodau criw o Orllewin Affrica ers amser maith. Ar y fordaith flaenorol roedd 23 o forwyr croenddu ar fwrdd y llong, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio fel tanwyr a thrimwyr. Byddent yn derbyn o leiaf 20% yn llai o gyflog na llongwyr croenwyn. Hefyd fe weithient yn rhan beryclaf y llong – ystafell yr injanau – yn llenwi’r boeleri, iro’r injanau a rhawio’r glo.



Cafodd corff John Myers ei adnabod gan John Thomas, gŵr arall o Nigeria a phrif daniwr y Falaba. Byddai John Thomas ei hun yn cael ei ladd ddwy flynedd yn ddiweddarach pan suddwyd ei long, yr Apapa, mewn ymosodiad tebyg oddi ar Ynys Môn ar 28 Tachwedd 1917.  Lladdwyd 77 o deithwyr a chriw pan aeth yr Apapa i lawr. Llwyddodd 174 i ddianc ar chwe bad achub y llong, a gafodd eu tynnu i Gaergybi gan ddwy agerlong bysgota.





 



Mae John Thomas wedi’i gladdu ym Mynwent Glanadda, Bangor, ochr yn ochr ag Isaac Peppell, un arall o’r criw, a anwyd yn Bonny, Nigeria. Roedd gwraig John Thomas, Melia Thomas, menyw groenwyn, yn bresennol pan gafodd ei gladdu.



Fel y Falaba, roedd yr Apapa yn un o longau Elder Dempster ac roedd llawer o’r criw yn hanu o Orllewin Affrica. Mae erthygl papur newydd ar y cwest ym Mangor yn adrodd  geiriau llongwr croenddu wrth iddo adnabod corff ei gefnder a disgrifio’r ymosodiad:



“Adnabu James Thomas, negro a oedd yn daniwr ar y leiner, gorff John Thomas, ei gefnder, a oedd yn byw yn Warwick Street, Lerpwl, ac Isaac Pembroke [Peppell], taniwr, hefyd yn negro, a oedd yn byw yn Sierra Leone. ‘Roeddwn ar fwrdd y leiner pan drawodd y torpido,’ ychwanegodd y tyst, y cafodd ei dystiolaeth, a roddwyd mewn Saesneg bratiog, ei dehongli gan Mr Yarwood. ‘Digwyddodd oddi ar yr arfordir, ac roedd y môr yn arw ar y pryd. Trawodd y torpido cyntaf hatsh Rhif 3 ar yr ochr chwith, a thrawodd torpido arall y llong ar yr ochr dde ger yr hatsh flaen. Doedd dim mwy na phum munud rhwng y ddau dorpido, ac roedd y llong yn dal ar yr wyneb ddeng munud ar ôl cael ei tharo. Roedd digonedd o gychod, ond dim cyfle i’w rhyddhau.’ Rheithiwr: ‘A fu unrhyw danio at y cychod?’ ‘Ni chafodd unrhyw ergydion eu tanio at y cychod.’ ” North Wales Chronicle, 7 Rhagfyr 1917, tudalen 2.



Mae’r Comisiwn Brenhinol wrthi’n gweithio ar brosiect o’r enw ‘Rhyfel Anghofiedig Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru’ – cewch ddarllen mwy yn y fan hyn: http://rcahmw.gov.uk/royal-commission-gains-heritage-lottery-fund-approval-for-the-development-of-the-forgotten-u-boat-war-around-the-welsh-coast-project/



 



Rhai ffeithiau




  • Cyfanswm y Colledion: yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe suddwyd 42 o longau cwmni Elder Dempster gan longau tanfor yr Almaen. Collodd 420 o aelodau criw eu bywydau ac roedd traean o’r rhain (140) yn llongwyr croenddu. Cofnodir eu henwau ar Restr y Gwroniaid Elder Dempster.




  • Terfysgoedd Hil: fe ddechreuodd porthladdoedd Lerpwl a Chaerdydd ddirywio ar ôl y rhyfel ac arweiniodd y diweithdra difrifol ymhlith llongwyr at derfysgoedd hil. Cafodd oddeutu 2,000 o forwyr croenddu eu hanfon yn ôl i’w gwledydd rhwng 1919 a blynyddoedd cynnar y 1920au mewn ymdrech i dawelu’r sefyllfa, ond arhosodd llawer o’r rheiny yr oedd ganddynt deuluoedd.




  • Llongwyr Croenddu: nid oedd llongwyr masnach Affricanaidd a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Mawr yn cael eu cydnabod yn ddinasyddion Prydeinig ac ni dderbyniodd eu teuluoedd unrhyw iawndal am eu colled. Lladdwyd llawer o’r morwyr hyn a’r unig gydnabyddiaeth y mae’r mwyafrif ohonynt wedi’i chael yw’r gofgolofn ar Tower Hill lle rhestrir enwau dynion a menywod y Llynges Fasnach a’r Llynges Bysgota a fu farw yn ystod y ddau Ryfel Byd ac nad oes iddynt fedd ond y môr.




  • Llongddrylliad: mae llongddrylliad yr Apapa bellach yn gorffwys yn unionsyth ar wely’r môr. Mae ei thu blaen yn pwyntio at yr arfordir oddi ar Drwyn y Balog (Point Lynas), Ynys Môn.




  • Blodau ar y Bedd: mae adroddiad papur newydd ar y dathliadau Ymerodraeth ym Mangor ym mis Mai 1919 yn nodi bod aelodau’r Eglwys Santes Fair wedi rhoi blodau ar feddau dau ddyn tywyll eu croen o Upper Warwick Street, Lerpwl a fu farw pan aeth yr Apapa i lawr.




  • Dirgelwch y Canŵ: y gwrthrych mwyaf yn Amgueddfa Forwrol Llŷn yn Nefyn yw cwch wedi’i ffurfio o foncyff. Dangosodd ymchwil diweddar ei fod yn dyddio o ddechrau’r ugeinfed ganrif a’i fod o bosibl yn ganŵ a ddefnyddid gan y brodorion i fynd ar fwrdd llongau Elder Dempster a oedd wedi angori oddi ar arfordir Gorllewin Affrica. Byddai’r canŵod hyn yn cael eu codi i fwrdd y llong ac yna eu taflu i’r môr ar ôl docio yn Lerpwl. Daethpwyd o hyd i ganŵ’r amgueddfa yng Nghaernarfon a bu’n ddirgelwch llwyr hyd yn awr.



 



Cysylltau defnyddiol:



Rhestr y Gwroniaid ar gyfer y Falaba: http://www.merseysiderollofhonour.co.uk/obits/ships/falaba.htm



Rhestr y Gwroniaid ar gyfer yr Apapa: http://www.merseysiderollofhonour.co.uk/obits/ships/apapa.htm



John Thomas: llun o’i fedd ym mynwent Bangor: http://www.findagrave.com/cgi-bin/fg.cgi?page=pv&GRid=166165463



Y cwch boncyff yn Amgueddfa Forwrol Llŷn, ymchwil a lluniau: http://www.llyn-maritime-museum.co.uk/eng/cwch-boncyff.html



 



Adroddiadau papur newydd:



The Falaba: Haverford and Milford Haven Telegraph, 7 Ebrill 1915: http://welshnewspapers.llgc.org.uk/en/page/view/4118479/ART9



The Apapa: North Wales Chronicle, 7 Rhagfyr 1917: http://newspapers.library.wales/view/4244097/4244099/6/



 



Darllen pellach:




  • Dropping Anchor, Setting Sail: Geographies of Race in Black Liverpool gan Jacqueline Nassy Brown


  • Black Salt: Seafarers of African Descent on British Ships gan Ray Costello


  • Black Poppies: Britain’s Black Community and the Great War gan Stephen Bourne



Mis Hanes Pobl Dduon: Coffáu Llongwyr Masnach o Orllewin Affrica a fu farw yn y Rhyfel Mawr