Skip to main content

Y CYMRY YN GALLIPOLI

Ffynhonnell allanol:

 

 Yn 2015, mae canmlwyddiant ymgyrch Gallipoli. Mae Gallipoli wedi’i hanfarwoli yn atgofion pobl Awstralia a Seland Newydd oherwydd ffurfiodd eu gwŷr fudiad enwog y Corfflu Fyddin Awstralia a Seland Newydd (ANZAC).

 

Ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, gwledydd ifanc oedd Awstralia a Seland Newydd gyda phoblogaethau bach o 5 miliwn ac 1 miliwn o bobl yn y drefn honno. Yn sgil dioddef dros 11,000 o golledigion a bron 25,000 o glwyfedigion, anogwyd diwrnod i gofio mor gynnar â 1916. Mae hyn wedi sicrhau na fydd bywydau’r rhai a gollwyd yn ystod ymgyrch Gallipoli fyth yn cael eu hanghofio.

 

 

Brwydrodd gwŷr o sawl gwlad ochr yn ochr â gwŷr ANZAC yn Gallipoli – o Ffrainc, Y Tir Newydd ac India – yn ogystal â milwyr o’r holl wledydd cartref. Fel Awstralia a Seland Newydd, roedd poblogaeth Cymru’n fach ac yn aml, mae pobl yn anghofio mai yn Gallipoli y gwelwyd rhai o ddiwrnodau tywyllaf y rhyfel cyfan i Gymru, yn enwedig ym mis Awst pan aeth y 53fed Adran [Cymreig] i ymladd ym Mae Suvla.

 

Erbyn diwedd ymgyrch Gallipoli, roedd dros 1,500 o wŷr o Gyffinwyr De Cymru, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Iwmoniaeth Ceffylau Cymru, Y Gatrawd Gymreig a sawl un a fu’n ymladd mewn catrodau eraill, wedi marw.

 

 

 

 

 

Byddin dda o 50,000 o wŷr a grym y môr - dyna

 

ddiwedd bygythiad Twrci.”

 

Winston Churchill 1915

 

 

 

“Un noson, pan oeddwn i’n dychwelyd i’r

 

pencadlys o’r ffosydd, clywais sŵn dynion yn y

 

tywyllwch felly tynnais fy mhistol ac aros. Pan

 

ddaethant yn nes, clywais mai ein dynion ni

 

oedden nhw, dau yn helpu gŵr oedd wedi’i

 

saethu’n wael trwy’r cluniau. Stopiais i nhw i

 

weld a allwn i wneud unrhyw beth - ond ni allwn

 

- yr unig beth ddywedodd y gŵr oedd yn marw

 

oedd “Drïais i wneud fy nyletswydd felly dyna’i

 

gyd sy’n bwysig.” Roedd sŵn llefain y clwyfedig

 

yn ddychrynllyd drwy’r nos.”

 

Y Capten Frank Mills, 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig

 

 

 

 

 

Nid oedd y rhyfel ar y Ffrynt Gorllewinol ar ben “erbyn y Nadolig”. Roedd cyflymdra symudiad y rhyfel a reolodd y rhan fwyaf o 1914 wedi’i ddisodli gan linell o ffosydd a arweiniodd at sefyllfa llwyrglo. Roedd Cyngor Prydeinig y Rhyfel yn chwilio am ffordd arall o ddod â’r rhyfel i ben yn gyflym.

 

Ym mis Awst 1914, trechwyd byddin Rwsia ym mrwydr Tannenberg ond parhaodd i ddal adnoddau enfawr o fyddin yr Almaen i fyny ar y Ffrynt Dwyreiniol.

 

O boeni fod porthladdoedd Odessa a Sebastopol y Môr Du mewn perygl o gael eu hymosod arnynt, galwodd Rwsia ar Brydain Fawr a Ffrainc am gymorth. Os oedd modd gorfodi Twrci, oedd yn rhan o’r Ymerodraeth Otoman, ac wedi’i chynghreirio i’r Pwerau Canol, allan o’r rhyfel, byddai modd sefydlu cyflenwadau i Rwsia. Byddai hyn yn galluogi mynediad i feysydd olew Persia, byddai Camlas Sŵes yn parhau i gael ei hamddiffyn a byddai modd ymosod ar yr Almaen o ffrynt arall.

 

 

 

Ar ôl gwneud y penderfyniad i ymosod ar y Dardanelles, bwriadwyd dinistrio’r amddiffynfeydd Twrcaidd wrth y fynedfa i’r Culforoedd. Wedyn, byddai llongau llynges Prydain a Ffrainc yn parhau i hwylio i fyny’r Narrows, gan rwystro’r magnelwyr Twrcaidd ar y lan. Bydden nhw’n dinistrio’r amddiffynfeydd mewnol wrth i’r llongau pysgota ffrwydron glirio unrhyw rwystrau. Pan allai’r grymoedd Cynghreiriol fynd i fyny Culforoedd y Dardanelles ac i mewn i Fôr Marmora, gallent gipio dinas hynafol Caergystennin..

 

Byddai hyn yn gwthio Twrci allan o’r rhyfel ac yn dod â rhyddhad i borthladdoedd Môr Du Rwsia.

 

 

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment