"The Great War: Britain’s Efforts and Ideals"
Cyfres lawn o chwe deg chwech o lithograffiau fel propaganda artistig gan lywodraeth Prydain ym 1917, er mwyn ysbrydoli’r cyhoedd oedd wedi cael digon ar ryfela ac ailgynnau fflam yr ymdrech. Y project print mwyaf uchelgeisiol y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyfrannodd deunaw artist eu gwaith, gyda rhai o enwau mwyaf blaenllaw’r cyfnod – yn eu plith : Augustus John George Clausen Frank Brangwyn Muirhead Bone Claude Shepperson Charles Pears Fel comisiwn gan y llywodraeth, ni chafodd y cyfranwyr ryddid artistig llwyr. Cafodd pob artist ei bwnc penodol ei hun, ac roedd yn rhaid i bob delwedd fodloni’r sensoriaid. Mae’r printiau wedi’u rhannu’n ddau bortffolio, ‘Delfrydau’ ac ‘Ymdrechion’ Cyfleu’r rhesymau dros frwydro, a gobeithion Prydain am y rhyfel oedd diben ‘Delfrydau’. Mae’n llawn delweddau dramatig a symbolaidd, fel Rhyddid y Moroedd a Buddugoliaeth Democratiaeth. Delfrydau Darlunio gwaith caled y bobl mae’r ail bortffolio, yr ‘Ymdrechion’ fyddai’n helpu Prydain i wireddu ei ‘Delfrydau’. Mae’r portffolio ‘Ymdrechion’ wedi’i rannu’n naw adran, pob un yn portreadu gweithgaredd neu thema wahanol: Creu Milwyr Creu Morwyr Gwneud Gynnau Adeiladu Llongau Adeiladu Awyrennau Trin y Tir Trin y Clwyfedig Gwaith Menywod Hwylio’r Môr Ymateb y Cyfnod i’r Printiau “The very soul of the war is to be read in the set of sixty-six brilliant lithographs.” (The Illustrated London News, 1917) Comisiynwyd y printiau hyn fel propaganda, gyda’r nod penodol o godi ysbryd y werin a dylanwadau ar farn y cyhoedd ynglŷn â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ym Mhrydain a thu hwnt. Ym 1917, wedi tair blynedd o frwydro ffyrnig a cholledion enbyd, roedd angen ffordd newydd ar y llywodraeth o gynnal cefnogaeth y cyhoedd i’r rhyfel. Cynlluniwyd y printiau i atgoffa pobl o nod ac amcan y brwydro, ac er mwyn pwysleisio pwysigrwydd dyletswydd gwladgarol. Mae’n anodd gwybod pa mor llwyddiannus oedd y printiau fel arf propaganda. Cawsant eu cyhoeddi’n eang wedi’r arddangosfa gyntaf ym 1917. Roedd rhai newyddiadurwyr yn cefnogi’r achos, “To see these lithographs is a patriotic as well as an artistic duty” (Burton Daily Mail, 15 Chwefror 1918. Ond doedd ymateb pawb ddim mor bositif; “their efforts are in almost every instance sincere; yet the result is, on the whole, meagre and unsatisfying.” (The Daily Telegraph, 20 Gorffennaf 1917). Roedd yr ymateb cychwynnol yn America yn gadarnhaol ‘they have been a revelation to American Fifth Avenue art patrons, dealer, critics…They put up British prestige’. Llai na’r disgwyl, fodd bynnag, fu gwerthiant y printiau yno a gwnaeth y prosiect golled yn gyffredinol.
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment