Celfyddyd Geltaidd - Gwreiddiau a Chwedlau

Eitemau yn y stori hon:

  • 911
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 514
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 610
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Y Celtiaid

Mae astudio gwahanol arddulliau celf 'Geltaidd' ar waith metel yn gymorth i ddeall pobloedd Ewrop yn Oes yr Haearn. Defnyddiwyd celfyddyd La Tène, sef yr enw cywir amdano, ar draws Ewrop o ddiwedd y 5ed ganrif CC ymlaen. Roedd y gelfyddyd yn gwbl wahanol i arddulliau'r byd Canoldirol clasurol, a ddefnyddiai ffurfiau naturiol mewn arddull a lifai'n rhydd.

Credir mai'r Celtiaid oedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r arddulliau La Tène cynnar. Roeddent yn bobl oedd yn rhannu ieithoedd, cymdeithasau a chredoau crefyddol paganaidd cyffelyb. Heriwyd y dyb yma'n ddiweddar; heddiw mae arbenigwyr yn credu bod arddulliau gwaith metel tebyg yn awgrymu i'r math yma o gelfyddyd groesi ffiniau diwylliannol, ac na wnaeth, o reidrwydd, aros o fewn ffiniau un hunaniaeth ethnig arbennig.

Mae gan Gymru nifer o ddarganfyddiadau o waith metel wedi'u haddurno yn yr arddulliau celf La Tène, ac mae esiamplau ohonynt yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Enamelau Gwydr

Meistrolwyd y dechneg o osod 'enamel' coch ar waith metel addurnedig gan weithwyr metel ym Mhrydain o'r 3ydd ganrif CC ymlaen. Math o wydr yw'r enamel mewn gwirionedd, a osodir drwy dorri darnau i'r siapiau cywir; cynheswyd y darnau yn ofalus nes eu bod yn feddal, cyn eu gwthio i mewn i'r gwaith metel. Darganfuwyd esiampl wedi ei addurno drwy gelfyddyd La Tène, gyda'r enamel coch, yn Alltwen ger Pontardawe (Castell Nedd - Port Talbot), a brynwyd gan Amgueddfa Cymru.

Mae'r darganfyddiad wedi codi cwestiynau ynghylch gwrthrychau enamlog ac addurnedig o Oes yr Haearn. Pa mor debyg (neu wahanol) oedd traddodiadau gwaith metal gogledd a de Cymru? A fu Aber yr Afon Hafren yn rhwystr neu'n ffocws diwylliannol i weithwyr metel rhwng De Cymru a de-orllewin Lloegr yn ystod yr Oes Haearn hwyr? Sut mae'r 'enamelau' (gwaith gwydr) yma'n dirywio?

Tynnu samplau i'w dadansoddi

Ymhlith yr eitemau a ddewiswyd ar gyfer eu hastudio roedd darn o gyfrwy ceffyl o Gaerdydd, Powlen yr Wyddfa (Gwynedd) gyda'r motiff sy'n debyg i gath, a detholiad o offer marchogaeth o gelc Blaendulais (Castell Nedd - Port Talbot), yn ogystal â darganfyddiad Alltwen. Cymerwyd samplau bach o enamel o'r gwrthrychau; gosodwyd a chabolwyd hwy ar sleid microsgop. Gwnaed dadansoddiadau o samplau gan ddefnyddio Microsgop Sganio Electron a dadansoddiad Pelydr-x.

Astudiwyd strwythur yr enamelau hefyd, drwy ddefnyddio cyfuniad o olau trosglwyddedig ac achlysurol gan ddefnyddio microsgop polareiddio golau.

Mae canlyniadau'r dadansoddi'n dangos gwydr 'calch-soda', a oedd yn cynnwys llawer o blwm a chopr. Dyma sydd yn gyfrifol am liw coch llachar ac anhryloywder y gwydrau hyn. Mae'r broses o'u cynhyrchu'n un ddatblygedig yn dechnegol, a gellir eu cynhyrchu yn unig drwy reoli cynhwysion y gwydr ac amodau'r ffwrnais yn ofalus.

Mae'r canlyniadau'n dangos bod gwrthrychau enamel o dde Cymru'n cyfateb yn weddol agos i'r rhai o dde-orllewin Lloegr; Fodd bynnag, mae'r enamel ar Bowlen yr Wyddfa yn wahanol iawn i'r gweddill. Awgryma hyn bod y broses o gynhyrchu'r gwydrau yn amrywio o ardal i ardal yng Nghymru.