Tir ir Cymru: Lee Evans, Prif Dirmon Stadiwm y Mileniwm yn siarad am ei swydd.

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,300
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,038
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 630
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 538
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 532
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Casgly Diwydiannol Cyfoes

Fel rhan o'n gwaith casglu diwydiannol cyfoes rydym wedi bod yn cyfweld aelodau o'r llu fydd yn gweithio fel lladd nadredd yng Nghaerdydd ar ddiwrnod gem ryngwladol. Rydym wedi siarad â staff bwytai a thafarndai, gwerthwyr stryd, criwiau teledu ac wrth gwrs, staff Stadiwm y Mileniwm. Rhoddodd URC rwydd hynt i ni recordio pob agwedd o waith y diwrnod tu ôl i'r llenni. Yma, mae Lee Evans, Prif Dirmon Stadiwm y Mileniwm yn siarad am ei swydd.

 

"Sut wnaethoch chi ddechrau gwneud y math yma o waith?"

Cefais i fy ngeni ym 1969 — felly bydda i'n bedwar deg tri ym mis Mai. Fy swydd gyntaf wedi gadael yr ysgol oedd gyda Chyngor Dinas Abertawe, yn gofalu am gaeau porfa hen 'Stadiwm Morfa' — Stadiwm Liberty bellach. Dyna lle tyfodd yr awydd i fod yn dirmon.

Wedi hynny, fe symudais i dde ddwyrain Lloegr a gweithio mewn rhai ysgolion preifat gan gynnwys Roedean. Yn ddiweddarach, gweithiais yn y diwydiant chwaraeon proffesiynol — i glybiau pêl-droed Fulham ac Aston Villa — cyn i hiraeth am Gymru ddod â ni adref bum mlynedd yn ôl, ym Mawrth 2004.

Fi sydd yng ngofal y cae anferth hwn yn Stadiwm y Mileniwm. Dyma oedd y cae cyntaf ar baledi yn Ewrop ac mae wedi achosi tipyn o broblemau — ond rwy'n credu ein bod ni wedi datrys y rhan fwyaf o'r rheiny bellach.

Fi sy'n gyfrifol am gynnal y cae pan fod y gwair yn y stadiwm a sicrhau ei fod yn barod am ein gemau rygbi a phêl-droed rhyngwladol. Byddwn ni'n gwneud gwaith cynnal a chadw a'i ailadeiladu ar ôl y gêm

 

"Pan fyddwch chi'n dod â phorfa newydd i'r stadiwm, faint sy'n rhaid aros cyn ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon?"

Yn y gorffennol, cyn prynu'r 'growlights', roedden ni'n arfer gadael y porfa tan y funud olaf posibl. Pan fyddwch chi'n dod â'r porfa i amgylchfyd fel y stadiwm, mae'n dechrau marw yn syth – all e' ddim goroesi yma. Roedden ni felly'n arfer gosod y porfa wythnos cyn y gêm. Anfantais hynny oedd nad oedd y tir yn cael cyfle i wau i'w gilydd ac i'r isbridd. Byddai fel carped, a gallai ddechrau rholio wrth i'r blaenwyr sgrymio arno.

Gyda'r 'growlights' newydd uwchben y porfa, bydd pedair wythnos o olau cyn y gêm yn sadio tua 90% o'r tir. Mae siawns o hyd y bydd stydiau'r blaenwyr yn gallu codi'r tir ger yr uniadau yn y gêm gyntaf, ond rydyn ni'n ffyddiog na fydd hynny'n digwydd.

 

Beth fyddwch chi fel arfer yn ei wneud ar ddiwrnod gêm?

Mae diwrnod y gêm yn wych! Uchafbwynt yr wythnos mae'n siŵr. Dyna holl apêl y gwaith – yr hyn y byddwch chi'n edrych ymlaen ato fwyaf. Os yw'r gic gyntaf am hanner awr wedi pump, byddwn ni'n torri'r porfa ac yn marcio'r cae yn y bore cyn eistedd yn ôl a mwynhau'r gêm!

 

"Fydd cyngherddau pop neu ddigwyddiadau yn amharu ar y porfa?"

Rydyn ni'n lwcus iawn ein bod ni'n medru symud y porfa, felly bydd yn gadael y stadiwm a bydda i'n mwynhau fy ngwyliau. Fydda i ddim yn gweld llawer o gyngherddau!