arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterNoddir gan Lywodraeth Cymru | Sponsored by Welsh Government

Keir Hardie, AS (1856-1915)

Er taw Albanwr ydoedd, mae Keir Hardie yn ffigwr pwysig yn hanes y traddodiad llafur yng Nghymru. Daeth yn aelod seneddol dros Ferthyr Tudful yn 1900 ar ran y Blaid Lafur Annibynnol ac roedd hyn yn rhan o ddominyddiaeth ehangach gwleidyddiaeth llafur yng nghymoedd y De.

Eitemau yn y stori hwn

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Glofa'r Albion, Cilfynydd, ar ôl y...

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Rhaglen ar gyfer gwledd yn Aberdâr i...

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Anerchiad ymgychu Keir Hardie yn Etholiad...

Bywyd cynnar

Ganed James Keir Hardie yn Swydd Lanark yn yr Alban ar 15 Awst 1856. Cafodd blentyndod anodd a gorfodwyd iddo adael yr ysgol yn wyth oed i ennill unig gyflog y teulu yn gweithio i bobydd. Yn un ar ddeg oed, roedd yn löwr ym maes glo Swydd Aeron (Ayrshire) ac erbyn iddo droi’n ddwy ar bymtheg, roedd wedi dysgu darllen ac ysgrifennu ac, o ganlyniad, tyfodd ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ynddo.

Wrth ddarllen y papurau newydd, dysgodd am ymdrechion gweithwyr i wella'u sefyllfaoedd trwy ffurfio undebau llafur. Yn fuan, daeth Hardie yn arweinydd i’r glowyr a sefydlodd undeb yn y pwll glo. Ym 1880, arweiniodd streic gyntaf maes glo’r ardal, gweithred a achosodd iddo gael ei ddiswyddo. Daeth yn fwyfwy gweithgar ym mudiadau Llafur yr ardal, yn ogystal â gweithio fel newyddiadurwr ac ymrwymo i’r achos dirwest. Wedi'i fagu’n anffyddiwr, trosodd i Gristnogaeth yn y 1870au, gweithred a aeth law yn llaw â’i waith gyda’r mudiad dirwest.

 

Hawliau Gweithwyr

Methiant oedd ei ymgais gyntaf i fynd yn Aelod Seneddol mewn isetholiad ym 1888 pan enillodd ond 617 o bleidleisiau. Ond roedd yr etholiad hwnnw'n gam pwysig ac yn fuan wedyn sefydlodd Hardie bapur newydd, y Labour Leader, a daeth yn fwy blaenllaw ym myd gwleidyddol llafur. Symudodd i Lundain ym 1891 ac yn etholiad cyffredinol 1892 etholwyd ef yn Aelod Seneddol ‘Llafur Annibynnol’ De West Ham ynghyd ag un aelod arall o Battersea.

Yn Nhŷ’r Cyffredin siaradodd o blaid hawliau’r gweithwyr a chydymdeimlodd gyda ffawd yr isaf mewn cymdeithas. Galwodd ar y Tŷ i anfon neges o gydymdeimlad i deuluoedd trychineb Glofa’r Albion ger Pontypridd. Gwrthododd yr aelodau ac fe feirniadodd Hardie nhw'n hallt am longyfarch y teulu brenhinol ar enedigaeth Edward, a gwrthod ei gais ef. Fe gollodd boblogrwydd yn sgil digwyddiadau fel hyn ac fe gollodd ei sedd i’r Ceidwadwyr ym 1895.

 

Twf y Blaid Lafur Annibynnol a dirywiad Hardie

Ond roedd y Blaid Lafur Annibynnol, a sefydlwyd ym 1893, er iddi golli pob sedd yn etholiad 1895, yn tyfu mewn poblogrwydd. Yn ystod y cyfnod hwn teithiodd Hardie ar draws y byd i ddysgu oddi wrth fudiadau llafur eraill, ac ymwelodd â meysydd glo De Cymru ar nifer o achlysuron, yn enwedig yn ystod streic 1898. O ganlyniad, gwahoddwyd ef i sefyll yn etholaeth Merthyr Tudful ac enillodd y sedd ar 10 Hydref 1900. Gyda dau Aelod Seneddol yn unig, nid oedd yn hawdd i’r Blaid Lafur Annibynnol yn San Steffan, ond daeth llwyddiant i’r blaid yn etholiadau Ionawr 1906 o ganlyniad i drefniant gyda’r Rhyddfrydwyr. Enillodd y Blaid Lafur Annibynnol 29 sedd ac fe gadwodd Keir Hardie ei sedd ym Merthyr Tudful.

Roedd dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ddigwyddiad tyngedfennol i Hardie. Yn heddychwr greddfol, siaradodd yn daer yn erbyn y Rhyfel a'r ymladd gan arwain gwrthdystiadau heddwch yn Llundain ac yn Ne Cymru. Ond roedd gweithwyr Prydain ar y cyfan yn gefnogol i’r Rhyfel ac fe’i beirniadwyd ef yn llym am fod yn anwlatgar. Fe effeithiodd y feirniadaeth, a’r Rhyfel cymaint ar ei iechyd y bu farw yng Glasgow ar 26 Medi 1915. 

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw