'Gyda Hedd Wyn ar Faes y Gad'

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,100
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Gan: Simon Jones, Aberangell

Wel, tra buoch chi yn y fyddin – i ble’r aethoch chi gynta felly? Yn ble ddaru chi gyfarfod Hedd Wyn?
Wel, yn Wrecsam. Oedd o a finne’n mynd tro cynta’r un bore, ac i Litherland [ger Lerpwl] hefo’n gilydd, a fuon yng nghwmni’n gilydd bob dydd, dwi’n coelio, wel, gweld ’n gilydd bob dydd, ’dê, ac mi lladdwyd o tua chwarter i bump ar yr unfed dydd ar ddeg ar hugien o Orffennaf nineteen seventeen.

Oeddech chi rŵan yn mynd i’r fyddin. Oddech chi’n mynd i Wrecsam ac odd Hedd Wyn yno, oedd?
Odd o’n cyrredd oDrawsfynydd a finne o Lanuwchllyn ’r un bore, yndê. Ia, a dwi’n cofio heddiw, sgidie cochion genno fo a cetyn yn i’ geg, tro cynta imi ’i weld o, ac odd sgidie cochion amser hynny – on nhw ddim gen bawb amser hynny, yndê. Ia.
A ’dach chi’n gofio fo yn siarad efo chi’r bore hwnnw?
Wel, na, ond dodd fawr ers pan odd o wedi ennill y gader yn Llanuwchllyn a’r Bala, y ddwy gader gynta gadd o ’rioed, ’dê. Ia.
Ac am faint buoch chi hefo fo, hynny ydi, pryd oddech chi’n mynd i’r fyddin?
Wel, diwedd nineteen sixteen, a fuon efo’n gilydd, gweld ’n gilydd bob dydd, ’dê.
Ia. Yn ble oeddech chi fwya hefo fo?
Wel, yn Ypres. Ia.

‘Stand at ease! You’re not on a bloody Welsh farm now.’

A ellech chi roid ’chydig bach i mi o’i hanes o pen odd o yn y fyddin. Fyddech chi’n siarad dipyn efo’ch gilydd?
O bydden, siarad llawer iawn. Odd Hedd Wyn, wyddoch chi, dodd o ddim yn filwr, ’dê. Don i ddim yn filwr fy hun, ond pan fydden ni ar parade, stand at ease hefo reiffl, odd yr hen sergeant major yn gweiddi ‘Attention!’ Hwyrach odd meddwl Hedd Wyn rwle, wyddoch chi. Alle bod o’n gneud ’i bryddest at Birkenhead amser hynny, yndê, wyddoch chi. Odd o fel yn gysglyd yn ’i waith. Doedd dim isio neb ymorchestu bod o’n cal dim diddordeb yn y peth, ond wedyn odd Hedd Wyn yn amal iawn ar defaulters fin nos ... am fod o ddim up to the mark gan y sergeant major, a dene glywais i, glywais i lawer gwaith. ‘Come along. You’re not on a bloody Welsh farm now. Wake up’, yndê. Mick Mallens odd enw’r sergeant major hynny – os ydi o’n fyw. Ia.
Be oedd adwaith Hedd Wyn i’r driniaeth honno felly?
O, wel, dduda i ichi, odd lawer iawn ohonon ni’n Gymry efo’n gilydd yn y cyfnod hynny, yn fechgyn a gweision ffermydd, wyddoch chi, a wedyn odd raid i chi ’i chymryd hi fel dôi hi, yndê.
Chi’n cofio Hedd Wyn yn dweud rywbeth am y fyddin, am y bobl odd o’n gorfod gweithio odanyn nhw?
Na, alla i ddim deud hynny, yndê.
Odd o’n dal dig?
Wel, oedd, wrth reswm.
O, dyna chi gyfeiriad personol, ’dê. Odd ... ryw officer bach go ifanc wedi cymyd yn f’erbyn i, ac ar parade yn Fletching oedden ni. Rhyw drêning mawr odd o, ond odd o’n ffeindio rwbeth arna i ar parade. Ma’n debyg bod ni ddim ond wedi edrych ar ein gilydd, wyddoch chi, bod o wedi cymyd ryw gasineb ata i, a wedyn odd o’n rhoi fi ar y defaulters fin nos. Pan bo chi wedi bod ’n trênio’n galed trw’r dydd ... a Chymro odd o, dwi’n siŵr, tyse fo ddigon o ddyn i ddeud hynny, yndê ... a bron nag on i’n gweddïo byse rwbeth ’n digwydd iddo fo ne fi. Och chi ddim yn licio cal eich diraddio, a wir, pan uson ni i’r lein, i ymyl y lein, odd isio dau gympani i neud daylight attack, ac fel odd ’n digwydd bod, dodd fy nghympani fi ddim, ond mi odd yr officers-volunteers i fod. A mi âth o, a ddôth o ddim yn ôl, a felne, fel och chi’n gofyn, glywesh i Hedd Wyn yn deud. Wel, ddudes i ddim byd am hwnnw, yndê, ond dene odd ’nheimlad i. Odd dda iawn gen i – on i ddim yn dymuno iddo fo gal ’i ladd, ond dymuno cal ’i le fo, yndê. Ia.

Pan odd Hedd Wyn yn y fyddin, be odd ’i ddiddordeb mawr o ar wahân i farddoni? Odd gynno fo ryw ddiddordeb arbennig?
Fyswn i’n meddwl dim, yndê. Odd genno fo ddim diddordeb mewn militariath, beth bynnag. Dudwch chi, on i’n mynd ar y musketry yn Litherland. Wel, on i’n licio gwn ’rioed ac on i’n cal ryw bleser, ond dim ond pleser o ran saethu bords odd hwnnw, yndê. Oddech chi ddim ’n sylweddoli bod nhw’n disgwyl i chi saethu dynion later on.
Ia. Ac och chi’n sôn, ’ndoeddech chi, am Hedd Wyn, am bobol yn deud ’i fod o’n yfed yn drwm ac ati, ond pen odd o yn y fyddin oedd o’n ... ?
Weles i ddim arwydd diod ’rioed ar Hedd Wyn. Dduda i ichi beth oedd – ’don i ddim yn gwario am ddim byd yno ac odd gen i ryw ’chydig o bres o hyd, ond llawer i dro glywesh i Hedd Wyn yn gofyn imi, ‘Duw, Sam.’ (Sam odd o’n ’ngalw i.) ‘Duw, Sam, ti ddim menthyg swllt tan nos Wener?’ A dene fo, swllt i Hedd Wyn yn amal iawn, ond byth yn meddwl amdanyn nhw wedyn. Ond doedden ni’n cal dim ond tanner a day, fel on nhw’n deud, ’dê.
Och chi’n sôn, ’ndoeddech chi, am Hedd Wyn yn anfon arian, anfon prês, adre i’w fam?
Ia. Wel, ma’n debyg ’i fod o, wyddoch chi, ond dudwch chi, wnelo’r cyflog odden ni’n gal allsech chi ddim cal prin glasied o gwrw yno, yndê.

‘Ryw noson ole leuad ...’ Hedd Wyn yn barddoni, a llau yn poeni’r milwyr.

Odd gynno fo [Hedd Wyn] ryw ddywediade arbennig felly? ’Dech chi’n ’i gofio fo pen odd o’n siarad? Odd o’n o ffraeth, yndoedd?
O, oedd, oedd. Odd ’ne lawer o hwyl i gal, wyddoch chi. ‘Yr Hen Hedd’ odden ni’n alw fo, ia, ‘’Rhen Hedd’.
Fyddech chi’n tynnu coes ych gilydd? Odd gynno fo gariad?
Na, does gen i ddim llawer o go’ am hynny, yndê. Dodden ni ddim yn sôn llawer iawn am gariadon yn fanny.
Nac oddech chi?
Na.

Oeddech chi’n cal ’chydig bach o amser i chi’ch hunain felly?
Na, ’chydig iawn. Mi odd ’ne lefydd rhyfedd yn Ffrainc, ma’n wir. Dwi’n cofio pan on i yn y camp yn Litherland odd ’ne fachgen o’r Bala efo fi, Tom Pentre – ma o wedi’i gladdu, yn blismon – yn fachgen mawr cry’, ac odden ni’n pasio tŷ tafarn. Odd hi’n ymyl camp Seaforth [ger Lerpwl] a:
‘Tyrd i mewn i fan hyn’, medde Twm – Twm on i’n ’i alw fo – ‘tyrd i mewn.’
‘Na, ddo i ddim i mewn’, medde finna, a –
‘Tyrd i’w gweld nhw,’ medde fo.
A mi es i mewn hefo fo a dene oedd yno, merched [ran] fwya, merched Seaforth a’u gwŷr nhw’n Ffrainc, ma’n debyg, yndê A tu allan i’r tŷ tafarn, twr o hen blant bach heb ddim sane na sgidie am ’u traed, a wedyn bore drannoeth odd rheini’n dŵad yn fflyd i’r camp at y cwcs ac on nhw’n byta parion tatws, ’dech chi’n gweld, wrth i’r cwcs neud cinio, a dene odd y byd amser ene - ’u mama nhw yn dafarn yn y nos, ’tê.
Glywsoch chi Hedd Wyn yn deud rywbeth am y bywyd yma?
Wel, do, wrth reswm. Odd o’n edrych yn beth rhyfedd iawn i ni, fechgyn y wlad, yndoedd o, wyddoch chi, bechgyn yn gwybod fawr ddim am fywyd tre.
Odd ... gynnoch chi, gyda’r nos, ryw fath o chwaraeon i’ch difyrru’ch hunain fel milwyr?
Na, dim byd neilltuol. Nagoedd.
Glywsoch chi o’n deud ryw rigwm wrthoch chi? ...
Ia. Dwi’n cofio bod ni mewn lle o’r enw Fletching, ddim ymhell o Ypres. Trênio roedden ni. Dwi’n cofio’n dda. On ni’n trênio trwy gae ŷd mawr, trwy ’i ganol o. A wedyn dwi’n cofio bod ni – tro cynta es i i Fletching – on i wedi mynd yn llau. A wyddwn i ddim bod ’ne fath beth â llau yn Ffrainc. A riportio’n sick, meddwl fod frech goch arna i, ar fore dydd Sul a doctor yn deud wrth ryw officer odd hefo ni, ‘Give him some ointment.’ A dene fo. A wedyn gês light duty, mynd ar hyd y pentre i hel papur trwy mod i’n sick – yn sick a ddim yn sick iawn. A be welwn i allan ar ryw gae ond twr o soldiers wedi tynnu’u cryse a phob peth. A wir, mi es i i edrych be on nhw’n neud. Lleua, tynnu llau, roedden nhw, wyddoch chi. Ac erbyn hynny on inne’n llau byw, yndê.

A jyst ’run man, ’run amser, odd Hedd Wyn yn digwydd pasio ac on i â ryw fachgen arall o Lanuwchllyn, Ned Bach y Llys – odd o’n cydoesi â fi yn yr ysgol dwi’n coelio – ac yn sgwennu llythyre oedden ni. A dene Hedd Wyn ’n sefyll wrth ’n penne ni a dyne fo’n dechre barddoni. Sut odd hi’n cychwyn hefyd?

Ryw noson ole leuad
Uwchben y dolydd bras,
Roedd dau o fois Llanuwchllyn
Yn sgwennu ’u gore glas.
Llythyrau i’w cariadon
Anfonai’r ddau yn iach,
Ac enw un odd Simon
Ac enw’r llall Ned Bach.

Ac roedd ’ne bennill arall. Odd honno’n well o lawer: ‘Doisen ni’n ôl yn wyn ein byd ryw ddiwrnod’, yndê. Ac y ma nhw yn Seren, Y Bala, yn y cyfnod hynny. Odd ’ne fachgen yn Bala’n deud wrtha i ers ryw ’chydig o flynyddodd yn ôl bod hi genno fo. Ac ma o wedi’i gladdu er hynny, ne faswn i’n licio cal un. A gwahanol iawn fuodd hi. Geuson ni’n dau ddŵad adre a fo’i hun ddim, yndê. Ia. ... Anfones i nhw adre i’m rhieni, meddwl byse fo ryw gysur iddyn nhw, a be ddaru’r hen greaduried, mi rhoison nhw yn Seren, Y Bala, ’dech chi’n gweld. Wedyn ma nhw ar brint a ma’n ame gen i braidd bod ’ne ddim byd mewn print i Hedd Wyn ’i neud ar ôl hynny, yndê ...
Ia. A sawl pennill oedd?
Dwy. ... Dwy wyth llinell, ’tê. Ia. ...

[Dyma’r ail bennill a gyhoeddwyd gyda’r pennill cyntaf yn Y Seren, 22 Medi 1917, t.5.

Ond pan ddarfyddo’r Rhyfel
A’r helynt hwn i gyd,
Daw dau o foys Llanuwchllyn
Yn ôl yn wyn eu byd;
Rhieni o’u pryderon
A’u clwyfau dro’nt yn iach,
Pan welant wyneb Simon
A chlywed llais Ned bach.

Mab Y Llys, Llanuwchllyn, oedd ‘Ned bach’.]

Chi’n cofio pa ddwrnod odd hi pan ddaru o sgrifennu’r ddau bennill?
Alla i ddim deud, heblaw odd ’ne ddim amser mawr iawn cyn iddo fo gal ’i ladd, ’dê.
Faint o amser odd o wedi’i gymryd i neud y penillion?
O, ddaru o ddim smocio hanner ’i getyn. Odd o fel tase fo’n siarad efo chi wrth ’u gneud nhw, wyddoch chi. Odd o ddim ’n sefyll i feddwl ddim.
Pa amser o’r dydd odd hi?
Roedd hi’n ddigon gole. Dwi’n cofio mai ar ryw hen gae bach oedden ni. Ia.

Brwydr Passchendaele [Cefn Pilkem] a gweld Hedd Wyn yn syrthio.

A wedyn mi fuodd Hedd Wyn farw mewn faint?
Fyswn i’n deud, pythefnos i dair wythnos, ia, dydd ola o Orffenna’, ’dech chi’n gweld, diwrnod cynta brwydyr fwyaf fuo yn byd ’ma ’rioed, ma’n debyg. Brwydyr Passchendaele. Ac oeddan ni’n mynd drosodd hanner awr wedi pedwar. Oedden ni’n cychwyn dros Canal Bank yn Ypres ac mi lladdwyd o ar hanner Pilckem, a ... dwi wedi clywed llawer yn sôn bod nhw hefo Hedd Wyn, mai fel hyn ac fel arall, a, wel, on i hefo fo fel bachgen o Lanuwchllyn a fynta o Drawsfynydd ac mi gweles o’n syrthio ac mi allaf ddweud mai nosecap shell yn ’i fol lladdodd o, wyddoch chi. Och chi’n medru gwbod hynny. O, allech chi ddim sefyll hefo fo, ma’n wir. Odd raid i chi ddal i fynd, ’dê.
Pryd welsoch chi o ola’, hynny ydi, i siarad hefo fo?
O, ma’n anodd i mi ddeud. Alle mod i’n siarad efo fo’r bore hynny, yndê, achos trwy mod i’n ’i weld o’n cal ’i ladd odd raid ’mod i’n agos iddo. A dwi’n cofio’r peth mor dda, bod gennon ni officer yn lîdio ni i fyny. Newman odd ’i enw fo, Lieutenant Newman, ac odd hwnnw’n mynd o mlaen i. A mi weles i o’n disgyn ar ’i linie ac yn cydio mewn dwy ddyrnad o faw, yndê. Wel, doedd yna ddim ond pridd, wyddoch chi. Odd y lle wedi’i falu ymhob man. Marw roedd o wrth reswm, yndê. Ia.
Be welsoch chi wedyn felly?
Wel, mi gymson ni’n objective ar dop Pilkem. Odd relwe’n rhedeg fyny efo’n ochor ni, hen relwe. Am dre Langemarck [yng Ngwlad Belg] oeddan ni’n anelu a’n objective ni odd ryw hen gae mawr a tri pillbox yn ’i flaen o. Tai wedi’u smentio i fyny odd rheini, wyddoch chi, gan y Germans, a dwi’n cofio pen on ni’n adfansio fyny efo’r lein a, dewc, dene Germans yn dŵad dros ’rochor arall i’r lein. Ac odd ’ne Cyrnol Norman efo ni – dwi’n gofio fo’n iawn – yn gweiddi, ‘Shoot, shoot, shoot the buggers!’ Ac erbyn hynny prisoners odd rheini. Odd y Welsh Guards ’rochor draw i’r lein wedi adfansio o’n blaene ni, wyddoch chi, a wedyn prisoners nhw’n dŵad yn ôl a ninne’n saethu nhw, meddwl mai Germans yn atacio ni odden nhw, ’dê. Ia. Wel, dwi ddim yn gwbod.

Ac wedyn och chi’n sôn am ych swyddog chi wedi cal ’i ladd.
Newman, ia.
Newman. Mewn faint o amser wedyn y gwelsoch chi Hedd Wyn yn disgyn?
Wel, yr un amser yn union. ’Dalla i ddim deud wrthoch chi p’un ai chynt na chwedyn.
Ia. Tua faint o’r gloch odd hi? Yn y prynhawn odd hi?
O, nage. Odd hi. Odd hi, fyswn i’n deud, gwarter i bump yn bore.
Yn y bore?
Ia.
’Na chi.
Cychwyn yr attack, ’dech chi’n gweld.
Beth wnaethoch chi? Och chi’n gallu gneud rywbeth wedi ichi weld Hedd Wyn yn ... ?
O, dim o gwbwl. Nagoedd. Odd stretcher-bearers, ma’n debyg, yn dŵad i fyny tu nôl inni, ’dech chi’n gweld, ’tê. ... Wel, fysech yn torri’r rheole mewn ffor’ tyse chi’n mynd i helpu un wedi’i glwyfo pan och chi mewn attack. Busnes chi odd dal i fynd, ’dê.
Sut oddech chi’n teimlo pan welsoch chi’ch cyfaill yn disgyn?
Wel, dduda i ichi’n union. Deud y gwir wrthoch chi, odd o ddim yn amser ichi gydymdeimlo dim rhyw ffor’ am y rheswm wyddech chi ddim nad mewn dwylath fysech chithe ’run fath â fo, yndê.

Cofio Hedd Wyn, a Dei Bach yn marw yn dweud ei bader yn Gymraeg.

Ond wedyn och chi’n teimlo colled fawr?
Oedd. Odden ni’n dŵad allan – fuo ni i mewn am wsnos ac on ni’n dŵad allan ar fore Dydd Sul – y deugain ohonon ni, allan o’n cympani ni beth bynnag, yndê, allan o gant a hanner hwyrach, ne chwaneg. A Dr Day o Lunden odd yn mynd â ni allan. Odd yn officers ni wedi mynd i gyd. Doctor y battalion, y division, ’ndê, fo odd yn lîdio ni allan ... Odd y lle wedi gweddnewid mewn wsnos, ’dech chi’n gweld, ond y trwbwl oedd fethodd gynne mawr ni i ddod i fyny ar yn hole ni. Mi ddôth yn law ddeg o’r gloch y bore a mi âth y lle’n sludge. Allse ’ne ddim ceffyl ddŵad, a wedyn mi barodd y frwydyr hynny dri mis a mi laddwyd cefnder i mi, Dei Bach. Odd o’n fab i frawd i ’Nhad. Odd o’n fachgen fel ewig ac mi glywes fachgen (on i’n ymweld â Cwarfod Ysgolion flwyddyn ar ôl dŵad adre ac oddwn i yn Tŷ Capel, Llwyneinion, yn cal te) ac odd – John Williams odd enw’r bachgen – wn i ddim ydi o’n fyw – ac odd o’n deud bod o yn yr un post â cafodd Dei Bach ’i ladd. Gâth ’i glwyfo ... yn ’i lygad ryw ’chydig. Mi âth allan o’r lein ac âth i’r lein yn ôl i’r un man yn union â lle odd o wedi cal ’i glwyfo – on nhw ddim wedi symud ymlaen. Ac yn ystod y noson hynny ddisgynnodd shell a mi chwthodd ’i ddwy goes o ffwr’ yn y bôn (bachgen Tŷ Capel, Llwyneinion, odd yn deud wrtha i) a mi farwodd yn deud ’i bader yn Gymraeg.
Wel, wel. Ie.

Ia. Wedyn dene fo, yndê.
Ma’r hanes ’ma ’dech chi wedi’i ddeud am Hedd Wyn rŵan – ydw i’n hynod o ddiolchgar i chi. Ma’n beth anodd ’i neud, ond ’dech chi wedi’i neud o’n dda. ’Dech chi’n cofio Hedd Wyn yn cyfansoddi ryw bwt o gân neu rigwm ar ryw adeg arall heblaw yr amser yma?
Na, alla i ddim cofio, yndê. Ma ’ne sôn am Hedd Wyn, pwy bynnag sydd fyw’n cofio, dwi ddim yn gwbod p’run ai’n Llanuwchllyn ai’r Bala odd o’n ennill y gader, yndê, ond ar ôl gweiddi am i’r ffugenw godi ar ’i draed, dene Hedd Wyn yn codi a dene ryw ddynes tu nôl iddo, ‘Iste lawr, machgen i, imi weld rwbeth’, medde hi! Ma honne’n ddigon gwir, ond dwi ddim yn gwbod p’run ai’n Llanuwchllyn ai’r Bala odd hi.
Dwi ddim wedi clywed hynne o’r blaen. Diddorol iawn.
O, ia. O, dwi wedi’i chlywed hi lawerodd o weithie, yndê, a ’dalla i ddim deud mod i’n ’i chofio hi’n bersonol.

‘My father is getting very old and I’m his only son.’ Simon Jones yn cael dod adre o’r rhyfel.

Wel, mi adawn ni Hedd Wyn nawr. Mi ddaethoch chi nôl o’r fyddin yn un naw un saith, ne ddaru chi aros nes daru’r rhyfel orffen?
Mis Ionawr – fues i’n lwcus iawn. Hyd yn od mewn rhyfel och chi’n cal manteision. Ddois i adre ar leave o Ffrainc yn nineteen eighteen. Papure’r leave wedi’u seinio gan yr adjutant. A pwy odd yn digwydd bod adre pan gyrhyddes i ond ’mrawd yng nghyfreth, Capten Dan Thomas (odd o wedi rhewi yn Ffrainc yn nineteen fourteen). A mi welodd fy mhapur leave i a deud wrth yn chwaer:
‘Rargian, Lus’, medde fo, ‘weldi pwy sy wedi seinio hwn?’
‘Pwy?’
Lieutenant Mostyn.’
‘Ydech chi’n nabod o, Dan?’ me’ finne.
‘Wel, ddalia i iti mod i, machgen i. Fuodd hefo Lus a finne’, medde fo, ‘pan on i’n Bradford. Ar ryw military bethma ar ôl rhewi odd hynny. Fuodd hefo ni yn cal swper, dwi’n meddwl, am dri mis bob nos. Mi sgwennaf ato fo’r munud ’ma’, medda fo.
‘Wel, welwch, Dan’, me’ finne, ‘dwi’n ddigon balch bod chi’n nabod o a bod chi’n sgwennu ato fo, ond ar ’run cyfri peidiwch â gofyn am ’run favour i mi.’
‘Wel, wna i ddim’, medde fo.

A dene fi’n riportio’n ôl. Odd o’n lot o gysur imi fynd nôl, ma’n wir, ac yn riportio iddo fo, yr adjutant, yn ymyl Albert ar y Somme.
Dear me’, medde fo, ‘I understand you’re a brother in law to Captain Dan Thomas?
Yes, sir’, medde fi, a –
How is he and how is your sister and how is the little boy – Dewi Prys Thomas?
Very well, sir’, me’ finne, ‘and remembering to you.
Well, I must see what I can do for you, Jones. Would you like to go on the battalion transport with the horses?
Well, that’s all I’ve been used to sir’, meddwn inne.
Well, you’d better look about the transport lines for a couple of days. There might be a vacancy. There might be someone dead or going on leave.
Ond mewn ryw ddwrnod mi gwelodd fi wedyn.
I think you’d better go up the line, Jones. There’s a new draft going up tonight. You’d better join them and I’ll call you back when I find a vacancy.’

A fues ryw ddau ne dri mis cyn cal fy ngalw’n ôl. [Efo’r] Battalion transport yn mynd i fyny’r lein bob nos. Odd o wahanieth garw, yndê.
Ond yn y diwedd mi gawsoch chi ... ?
Do, ac wedyn pan ddôth diwedd y rhyfel on i wedi dŵad yn ôl. On i wedi mynd heibio Mons. Dduson ni’n ôl i ymyl Albert ac ar y tenth of January nineteen nineteen dene fo’n digwydd fy mhasio i ar y pentre, Lieutenant Mostyn, a –
Look here, Jones’, medde fo, ‘there are sixty pivotal men from this battalion going home tomorrow, but they must be mostly school-teachers, but I’ll try and get you in.’
Hanner awr wedi deg noson honno odd ’ne rywun yn gweiddi – mewn ryw hen stabal odden ni:
Fifty: Jones.’
Yes, sergeant.’
Go and report to the Orderly Room at half past nine tomorrow morning.
Odd ’ne fechgyn o South Wales yno o mlaen i, yndê. A riwmor wedi dŵad bod ’ne rai’n cal mynd adre, a
What the hell’, odd hi wedyn, ‘before us?
A mynd i riportio i Lieutenant Mostyn a’r Cyrnol.
Jones has been a very good man on the transport, Colonel, and I should think he would be the very man to be in the Army of Occupation to go up the Rhine
What about it?’ medde’r hen gyrnol.
Well, I’m very sorry, sir, but my father is getting very old and I’m his only son. I’d rather go home if possible.
Very well then.’

Wel, dyna ni, ’dech wedi deud ych hanes yn fyw iawn fel ddaru chi ddod o’r fyddin. Wel, mynd i ffarmio wedyn, adre i Dan-y-Bwlch?
Ia.
A symud o Dan-y-Bwlch pen ddaru chi briodi, ie?
Ia. Wel, chwilio am wraig ddaru mi wedyn, ’dê. [Priododd yn 1920 â Laura (Lowri) Jones, Penygeulan, Llanymawddwy a mynd i fyw i Flaen Plwyf Uchaf, Aberangell.] ...

‘Machgen annwyl i, fan hyn rwyt ti.’ Geiriau mam o Lanybydder wrth fedd ei mab. Hi a Simon Jones ar daith i weld bedd Hedd Wyn.

... A fues i wrth fedd [Hedd Wyn] wedi hynny [yn y tridegau cynnar] ar drip a dyna’r trip mwya bendigedig weles i rioed. Ymweld â beddi llawer odd yno ar Pilckem. Ma o wedi’i gladdu’n agos iawn lle lladdwyd o ac odd Caerwyn a Cynan a T. Elwyn Williams, Trefriw, fel gweinidogion yno i gynnal gwasaneth ac ... odd Telynores Llyfni yno â’r delyn. Ar fore dydd Sul odd hi a Caerwyn yn deud:
‘Yn ’n plith ni, gyfeillion’, medde fo, ‘ma ’ne fam a’i merch wedi dod o Lanybydder, hithau wedi dod i ymweld â bedd ’i mab’, medde fo. ‘Gawn ni fynd yn orymdaith fach at ’i fedd ynte i ganu emyn.’
A dene ni’n mynd, a’r guide yn mynd â’r fam a’r ferch, a pan gyrhyddodd hi’r bedd, y fam yn syrthio ar y bedd:
‘Machgen annwyl i, fan hyn rwyt ti.’
Dodd ’ne’r un llygad sych mewn cant a hanner odd wedi gweld cannodd o gyrff. Ond mam, yndê, odd hi.

Tapiau: AWC 4763-64. Recordiwyd: 26.ix.1975, gan Robin Gwyndaf.

Siaradwr: Simon Jones (1893-1982), Powys.
Ganed: 26.v.1893, ym Mlaen Cwm, Cynllwyd, Llanuwchllyn. Symudodd i Dan-y-Bwlch, Cynllwyd yn wythmlwydd oed ac yna, yn 1920, wedi priodi, i fferm Blaen Blwyf Uchaf, Aberangell, ac yno y bu’n byw weddill ei oes. Bu farw 16.xii.1982.

Roedd Simon Jones, ar ochr ei dad, yn gallu olrhain ei achau yn ôl i John Roberts, Trawsfynydd, y merthyr Catholig cyntaf. Roedd ei fam, Jane Jones, Ddôl Fawr, Llanuwchllyn, yn ysgol y pentref yng nghyfnod y Welsh Not, a dyma un sylw oedd gan Simon Jones, ei mab:

‘Glywes ddeud mai hi oedd â’r Welsh Not yn ola bob fin nos am y rheswm ichi gael tynnu’r Welsh Not o am ych gwddw odd raid ichi brepio bod un arall yn siarad Cymraeg. A fydde mam byth yn gneud hynny. A wedyn genni hi yr odd o. A hi odd yn cal y wialen yn ola cyn mynd allan fin nos bob amser.’

Perthynai Simon Jones i deulu diwylliedig iawn. Er enghraifft, ysgrifennodd ei gefnder, Simon Jones, Tan-y-Bwlch, Cynllwyd, gyfrol o’i atgofion: Straeon Cwm Cynllwyd (Gwasg Carreg Gwalch, 1989). Cyhoeddodd Dafydd Wyn Jones (mab Simon Jones, Aberangell), yntau, gyfrol o’i farddoniaeth: Cribinion (Gwasg y Bwthyn, 2009).

Cyhoeddwyd llun Simon Jones a dyfynnwyd peth o’i atgofion yng nghyfrol ardderchog Alan Llwyd: Gwae Fi fy Myw: Cofiant Hedd Wyn (Barddas, 1991).