Y 'Fenyw Fach' oedd yn Dilyn Mam Richard Harries drwy'r Parc

Eitemau yn y stori hon:

  • 746
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Gan: John Richard Harries, Cas-mael, a'i deulu

A cofio Mam myn(d) lawr - cofio Mam yn gweu(d) (wr)tho i - pan odd (h)i’n blentyn bach wedd (h)i isie fisito’i Hanti, medde (h)i. Dim mhell o Ben-craig. Wern odd enw’r ffarm. A on nhw croesi trwy ddou barc, chwel, i fyn(d) i Wern. A odd (h)i’n mynd trw un ca, odd (h)i’n drychy(d) nôl, odd (h)i’n gwel(d) fenyw fach fyr yn dilyn (h)i, yn dilyn trw’r amser, chwel. A wedodd wrth ’i Hanti wedyn bo(d) ryw fenyw fach yn dilyn (h)i. ‘Twt, twt’, medd (h)i. Odd ofon ar Mam i fyn(d) gatre nosweth ’na, chwel, achos odd (h)i’n dywyll pyrny yn y gaea’. A, ofon mynd gatre. Ond we ofon ar Anti Mam nawr i hebrwn (h)i gatre. A we Anti Mam wedi gwel(d) y fenyw fach ’ma ’i hunan, chwel. Ond we ddim wedi gweu(d) wrth Mam yr amser ’na. Ar ôl hynny odd (h)i wedi gweu(d) wrth Mam. A esbryd odd e, chwel. Ysbryd ...

Yr hanes yma am ych mam, yn gweld menyw fyr, yn ’i dilyn (h)i. Ble rodd hi ar y pryd, ’lly? Cerdded o - ?
Cerdded nawr, miwn ochor ffordd, o dou ga gyda (h)i, ochor fowr miwn at ’i Anti, i Wern, ychwel. Myn(d) trw ca cynta, chwel. Digwyddo(dd) drychy(d) nôl, a welodd (h)i fenyw fach fyr yn dod ar ’i ôl (h)i.
Beth odd enw ’i Hanti?
O, Agnes. Anti Agnes. Mae ’di marw e(r)s blynydde nawr. Anti Agnes odd (h)i, Wern, ie.
­A ma Wern yn dŷ yn Cas-mael?
Odi, tu fas, tu fas pentre Casmâl. Mae e yn golwg, wel, ergyd carreg yw e o Pen-graig. ...
A, odd ych mam wedyn, tua faint odd ’i hoed hi amser hynny?
Wel, oedran ysgol odd (h)i, chwel, byti ddouddeg mlwydd wed. Douddeg mlwydd wed.

Ac odd hi wedi cal braw mawr?
O, odd, odd. Odd, odd. A landodd (h)i miwn i’r tŷ, a wedodd (h)i wrth Anti Agnes, wedyn, ychwel.
‘O, twt, twt’, medde (h)i, ‘meddwl wyt ti.’
‘A dewch chi ddim ebrwng fi gatre ’eno’, medde Mam wrthi.
‘O, sdim amser ’da fi. Ma rai(d) fi fyn(d) i gorddi, ’eno’, medde (h)i.
A dim on(d) esciws fach, wedyn. Dwi’n cofio Mam yn gweu(d) (wr)tho i. ‘Rai(d) fi fyn(d) i gorddi, ’eno’, medde (h)i. A corddi, wel, pob un yn corddi pyrny, chwmo. On(d) esciws fach odd ’na, safio hebrwng. Wedyn, mewn blynydde ar ôl ’na, wedo Anti Agnes wrth Mam bod (h)i ’di gwel(d) yr un peth. On(d) odd ofon arni groesi’r ca ’na siwrne odd (h)i’n mynd yn dywyll, chwel.
Odd ych mam ddim wedi clywed dim byd?
O, nagodd, dim clywed dim byd. Nagodd. Dim byd, ychwel. On(d) wedd (h)i hapno drychy(d) nôl. We’r fenyw fach ’ma’n dilyn (h)i. Odd. Dyddie ’na, chwel, o lawer mwy o ysbryds bwti’r lle fforny, chwel. Ysbrydion.
Ie. ... Ond odd ych mam rŵan, odd hi’n credu mewn ysbrydion?

O, odd, o Mam yn credu, odd. Odd. Wel, dwi’n cofio, o mam wedi gwel(d) sawl peth chwel, sa i cofio beth on nhw gyd nawr. Mam wedi gwel(d) sawl peth. Odd.

Tapiau: AWC 5466-68. Recordiwyd: 29.vi.1977, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: John Richard Harries ('Dic y Cwm'), sir Benfro.
Ganed: 11.vii.1931, yn Nhroed-y-rhiw, Cas-mael. Roedd ei fam, Rowena, yn ferch Richard Harries, Pen-graig, Cas-mael. Yntau'n briod â Serah Harries o ardal Casnewydd-bach. Roedd ei dad, Jim Harries, yn fab Melin Wern (tyddyn a melin ddŵr yn malu blawd), Cas-mael. Roedd ei rieni yntau o gylch Dinas, sir Benfro.

Wedi ymadael o'r ysgol, bu Richard Harries yn was fferm mewn amryw lefydd yn lleol. Yna, am gyfnod o 8 mlynedd, bu'n crwydro llawer fel goruchwyliwr i gwmni yn gosod gwifrau teliffon ar y ffordd fawr. Cyfnod byr wedyn yn gweithio i gwmni adeiladu. Yn 1959 symudodd ef a'i briod, Barbara, o dyddyn o'r enw Lodge, Clunderwen, i dyddyn arall o'r enw Cwm, Cas-mael, ble gwnaed y recordiad. Yn ystod y blynyddoedd hyn bu hefyd yn ymhél â llu mawr o swyddi, megis prynu a gwerthu coed, gyrru lorïau a pheiriannau, gwerthu hufen iâ, gwerthu recordiau sain, a gwerthu sglodion (gyda fan). Ond un o brif ddiddordebau J Richard Harries yw ceffylau. Bu'n cadw ceffylau bron ar hyd ei oes, ac yn eu defnyddio'n gyson i drin y tir.

 

Y mae'r detholiad o eitemau llafar a ddetholwyd i'w cynnwys yn y cynllun hwn, 'Aur Dan y Rhedyn', yn adlewyrchu'n amlwg iawn gred ddiysgog J Richard Harries, fel cred ei rieni a'i hynafiaid, yn y goruwchnaturiol. Y mae'r cyfan o'r hanesion a adroddir, boed yn brofiadau personol neu'n brofiadau a berthyn i aelodau ei deulu agos, wedi'u hadrodd ganddo fel un sy'n credu'n gydwybodol fod pob hanesyn yn gwbl wir. Meddai wrth adrodd profiad goruwchnaturiol a gafodd ei dad: 'Ma'r hen fobol, ran fwya, chwel, yn credu pethe. On nhw'n gweld nhw, chwel. Waniaeth â ni nawr, chwel. Ni'n trafaelu rhy gloi i weld nhw, chwel. Ma nhw gal heddi. Ma nhw gal heddi, chwel.'