Tafodiaith Treforys, Gorllewin Morgannwg

Eitemau yn y stori hon:

  • 2,031
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,088
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Nodweddion cyffredinol

I lawer o bobl, gan gynnwys brodorion Cwm Tawe eu hunain, un o nodweddion hynotaf tafodiaith y cwm yw Calediad, sef, e.e., ddweud catw ac eclws yn hytrach na cadw ac eglws. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, ar gyrion tiriogaeth Calediad y mae’r cwm: mae’n nodwedd ar yr holl ardal i’r dwyrain iddo. Fel y tystia’r nodweddion canlynol, yr hyn sydd yn hynodi’r dafodiaith hon yw mai dolen gyswllt, drawsnewidiol, ydyw rhwng ‘iaith Shir Gâr’ a’r ‘Wenhwyseg’.

I Cysylltir yr acen â’r gorllewin gan:
i e sydd yn sillaf olaf geiriau fel tafarne, ac emyne;
ii a, nid , ae glywir mewn geiriau fel blân ‘blaen’, cal ‘cael’, can, a mâs ‘maes’.

2 Nodweddion sydd yn clymu’r iaith â’r dwyrain yw:
i Calediad, sydd yn gyffredin, e.e. catw, Satwn, gwpod, ond heb fod yn gyson: dodi, gwbod, gyda;
ii absenoldeb h a chw, e.e. efyd, onna, wsu ‘chwysu’.

3 Arbennig i orllewin Morgannwg a dwyrain Dyfed yw’r ffurf negyddol
a geir yn Nagw dirwest eriôd wedi bod...

 

Y Recordiad

Odd rai’n myn’ i ifed ar y slei, of cwrs, on’ och chi ddim fod i fyn’ i dafarne i ganu. Ŷch chi’n ‘bod yr Annibenwyr, p’un e chi ‘di gwbod o’r blân, fe dorrodd yr Annibenwyr Cwm Rondda mâs o’r llifer emyne. /Do fe?/ Shwrne dethôn nw i ganu Cwm Rondda a Tôn y botel yntafarne, dorrws yr Annibenwyr... dyw e’m yn llifer emyne ni nawrl Tôn y botel na Cwm Rondda. Ŷn ni’n canu C’wm Rondda acha... ma man ‘yn nawr, mae man ‘yn ‘da fi nawr. Dere ‘ma gw’ boi bach. Edrychwch chi trw’r llyfyr emyne ‘na. Sdim Cwm Rondda ‘na /Cwm Rondda ‘na/. Na Tôn y botel.

 

Ôn nw’n strict â’r pethe ‘ma slawer dydd, ôn nw?

O, y ni odd y gwitha wi’n credu. Annibenwyr.

Ôn i’n meddwl taw’r Methodistied odd...

Methodists, ôn nw’n câl y bai ‘efyd. Shwrne dethon nw i ganu Cwm Rondda a Tôn y botel yn y tafarne... Blaen-wern, odd dim lot o Blaen-wern ‘ma, chwel’ ‘chos on nw’n can... Ethon i ganu e i tafarne, chwel’. Odd, os och chi’n ifed, ‘na’ch Waterloo chi. /Ife?/ ‘Na’ch diwedd chi. O ie. O, och chi ddim fod i ganu... Wel ŷn ni’n canu Cwm Rondda, ma gire Cwm Rondda gyda ni yn y manna, ond dim a’r tôn... O Duw annwl! On nw... Shwrne odd e’n myn’ yn gân tafarne /ie/, ddim ishe ‘wnna. On nw...

Odd rai’n myn’ i ifed, though, yn’d odd e?

Wel, ôon nw’n ifed, ond ôn nw ddim yn openly chimod. On nw’n gwpod bo’ nw’n ifed. Wel, alle gwŷr y meline byth wedi gwitho yn y meline oni bai bo’ nw... i gadw i... Wel, ôn nw... meddylwch chi bo’ chi’n wsu, bod cryse’n do’ mâs fel ‘san nw’n dod o’r dŵr. Wel och chi’n colli nerth ofnadw o’ch corff, w. Wel, mae’n marvellous bo’ nw wedi byw! /‘Ti, ‘ti./ Duw!

So ôn nw’n ifed i neud lan y dŵr?

Wel ôn. Ôn nw yn. A dodi halen ‘nôl yn y corff, ys wedôn nw, chwel. Wel odd e yn ffaith ‘efyd. Odd jest neb odd yn gwitho’n y meline yn deetotallers. /Na./ Braidd. Nagw, nagw dirwest eriôd wedi bod yn werth yn Dreforys. Bach iawn o Band of Hopes sy ‘di bod ‘ma eriôd. Dim on’ y plant odd yn y
30 Band of ‘Ope. Shwrne ôn nw’n dod digon ‘en i ifed, ôn nw’n ifed.

‘Na beth odd amcan y Band of ‘Opes, ‘te, odd dirwest, ife?

le. Teetotallers, Band of ‘Ope. O Duw annwl. On’ bach iawn o rina odd i gâl. Ôn nw’n ifed i... Wel, a ôn nw mâs nos Satwn, ôn nw? Cwrdda, cwrdda yn y tafan /ie/. Wel odd ddim pictures i gâl amser ‘ny. A’r unig man odd ‘da
nw i gwrdda odd y tafan. Wel, och chi’n myn’ i dafan, och chi’n ifedl

Odd y merched yn myn’ i dai tafarne?

Na, na byth. Odd ddim merch câl myn’ i dafan.

Beth... ôn nw’n ‘ala ‘i mâs, ôn nw?

Dele ‘i ddim miwn. Cele ‘i ddim myn’ miwn. A odd snug— gwelsoch chi’r
snug eriôd?

Ma ryw gof ‘da fi amdanyn nw!

Wel, ‘na fe, dim on’ i’r snug ôn nw’n cal mynd.

Ife? /Ie./ Beth odd yn ots? Beth odd...

Och chi ddim fod i gymisgu. Dinon a menŵod mewn tafan. Catw’r menŵod fel’a, cadw’r dinon a... ‘Cer di o fanna.’

Pwy fenŵod odd yn myn’ i dai tafarne ‘te?

Y rough lot.

Ife? Pwy ôn nw weti ‘ny, ‘te?

O Duw, Duw! O’ son amdanoch chi. Câl menyw’n myn’ i dafan, och chi’n gomon ofnadw. W, dim o’ch ishe chi! Out! Odd ddim capel i chi, och
chi out. On’ ‘na beth od, ma dyn... ôn nw’n gweud bod dyn yn ifed, odd menyw yn llemitan. ‘Na’r gair. ‘Oti JohnJones...?’ ‘O, mae e’n ifed, oti. A ma’i wraig e’n llymitan ‘efyd.’ Wel, ‘na’r hall mark wedi ‘ny. Os odd ‘i’n llymitan, walle dele ‘i ddim... dele ‘i ddim... odd ‘i ddim câl dod. Os odd
‘i’n dod i’r tafan, dim on’ i’r snug odd‘i’n câl dod.Jyst tu fiwn y drws. Rŵm bach, ŷch chi’m ‘bod, a mâs. Odd ‘i ddim câl myn’ miwn i’r bar a cymisgu â dinon. O Duw, Duw! Out!

Odd rai menywod yn ifed yn tŷ?

Wel, dim trw wpod i ni. Na, on nw’n myn’ i... On’ och chi ddim cymisgu â rina, chwel’. Ôn ni’n ‘bod dim amdenyn nw! Duw! Bydde Mam ‘di’n
lladd ni ‘tân ni’n myn’ i dŷ menyw odd yn ifed! ‘O d... paid di â neud ‘na ‘to, cofia! Paid di â myn’ ‘da’r fenyw ‘na, ma ‘onna’n ifed, cofia!’ O, odd ‘i’n dread. Dread thing. Llymitan odd fenyw, ifed odd y dyn. ‘Na od, ife! 

 

Nodiadau

Annibenwyr ‘Annibynwyr’

Ffurf annisgwyl braidd, ac adlais efallai o’r rhigwm am yr enwadau. Ceir sawl fersiwn ac amrywiad ar y geiriau, ond un o’r rhai mwyaf poblogaidd yw:
Annibynwyr, annibendod,
Mynd i’r capel heb ddim adnod;
Methodistiaid creulon cas,
Mynd i’r capel heb ddim gras;
Hen eglwyswyr eitha soft,
Codi capel heb un loft;
A’r Sosiniaid, o mor drist,
Yn gwadu Duwdod lesu Grist.

A rhag i’r Bedyddwyr gael cam, dyma bedair llinell o fawl a ddyfynnir gan W H Roberts yn ei gyfrol Aroglau Gwair
Batis y dŵr
Sy’n meddwl yn siŵr
Na chân nhw ddim mynd i’r nefoedd
Heb fynd trwy’r dŵr

Cwm Rondda

Tôn John Hughes y cenir geiriau Ann Griffiths, ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ arni yn aml.

shwrne ‘unwaith, cyn gynted’

Shwrne dethôn nw i ganu Cwm Rondda...

Shwrne ôn nw’n dod digon ‘en i ifed...

Tôn y botel
Tôn a gyfansoddwyd gan T.G. Williams (enw arall arni yw Ebenezer), ac y cenir emyn Dafydd William, ‘Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau’ ami.

acha ‘ar’

Ffurf gyffredin yn y De-ddwyrain, ac sydd yn tarddu o ar uchaf. Ystyr amhendant sydd i acha a’r un berthynas sydd rhyngddo ac ar ag a geir rhwng mewn ac yn. Cf.

Mae e acha bord ‘Y mae ar fwrdd’, ond

Mae e ar y ford ‘Y mae ar y bwrdd’.

Blaen-wern

Tôn W.P. Rowiands, a gysylltir a nifer o emynau fel ‘Tyred, lesu, i’r anialwch’ ac ‘Atat, Arglwydd, trof fy wyneb’ (Pantycelyn).

‘Na’ch Waterloo chi

Dywediad sydd yn cyfeirio at drechu terfynol Napoleon gan Wellington a Blücher yn 1815.

Och chi’n colhi nerth ofnadw o’ch corff, w

Ffurf ar ŵr ‘gŵr’ yw’r ŵ ar ddiwedd y frawddeg hon; ond — fel y prawf y darn hwn
(lie y mae Mr Lewis yn siarad â merch) — nid ar gyfer cyfarch dynion yn unig y’i
defnyddir.

Mewn rhannau o’r De-orllewin clywir y ffurf lawn, ŵr; tebyg yw’r modd yr arferir man yn Saesneg brodorol De-ddwyrain Cymru.

yn Dreforus ‘yn Nhreforus’

Cyffredin yn y tafodieithoedd yw treiglo enwau lleoedd yn feddal yn hytrach nag yn drwynol ar ôl yr arddodiad yn; cf. yn Gonwy, yn Gardydd.

Band of Hope

Cymdeithasau dirwest i blant a sefydlwyd yn wreiddiol tua 1847.

cwrdda ‘cyfarfod’

Y ffurf wreiddiol ar y berfenw hwn yw cwrdd, a ddilynir yn aml gan yrarddodiad â.
Yn sgil mynych gysyiitu’r berfenw a’r arddodiad ymdoddodd y ddau air yn un,
hynny yw, troes cwrdd â yn cwrdda.

yr unig man

Nid yw tafodieithoedd y De-ddwyrain yn treiglo enw yn dilyn unig.

miwn
Ffurf gyffredin y De ar ‘mewn’. Yn y Gogledd ceir mewn, miewn, a miawn.

walle ‘efallai’

fenyw ‘menyw’