Geoff Charles, Ffoto-newyddiadurwr

Eitemau yn y stori hon:

  • 3,133
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,671
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,560
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Geoff Charles




Fe fydd y bobl fwy sylwgar yn eich plith wedi sylwi ar nifer o ffotograffau ar y safle gan y ffotograffydd Geoff Charles (1909-2002). Mae ei gyfraniad i ffotograffiaeth yng Nghymru'n unigryw ac yn cynnig cipolwg cyfareddol o fywyd yng Nghymru rhwng y 1930au a'r 1970au pan fu'n gweithio'n ffotonewyddiadurwr. Yn ystod ei yrfa, dangosodd Geoff Charles fywyd yng Nghymru drwy lens ei gamera ac mae ei gasgliad o 120,000 o negatifau'n un o drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.



Ganed Geoff Charles ym Mrymbo ym 1909, ac astudiodd am Ddiploma mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Llundain, gan raddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1928. Dechreuodd ei yrfa gyda'r Western Mail, yn adrodd ar rasio trac lludw, milgwn a chwestau. Ymhen ychydig, symudodd i'r Mountain Ash and Aberdare Express cyn croesi'r ffin i weithio i'r Surrey Advertiser yn Guildford.



Yn dilyn pwl difrifol o salwch, dychwelodd Geoff Charles i'w fro gynefin a dechreuodd weithio i'r Wrexham Star, papur a sefydlwyd am y nesaf peth i ddim ym mis Chwefror 1934. Gwerthwyd copïau papur am geiniog mewn ymgais i danbrisio'r  Wrexham Leader a oedd yn cael ei werthu am ddwy geiniog




Gresffordd




Trychineb Glofa Gresffordd oedd un o'r digwyddiadau cyntaf y bu Geoff Charles yn ymdrin ag ef yn ystod ei gyfnod gyda'r Star ac fe ellir ei ystyried yn adeg dyngedfennol yn ei yrfa. Wedi iddo gael mynediad i'r ystafell lampau, darganfu fod y ffigur swyddogol o 100 o ddynion dan ddaear yn rhy gynnil a rhuthrodd i'r ystafell newyddion i gyhoeddi rhifyn arbennig o'r papur. Roedd yn ystod y cyfnod hwn gyda'r  Wrexham Star y prynodd Geoff ei gamera cyntaf, VPK Thornton Pickard yn defnyddio platiau gwydr 6 x 9 cm (2.5 x 3.5 modfedd). Dyma oedd cychwyn ei yrfa ffotograffig a fyddai'n cynhyrchu cymaint o ddelweddau cofiadwy.



Ym mis Mawrth 1936 cyfunwyd y Wrexham Star â'r Wrexham Advertiser ac oddi yno penodwyd Charles yn rheolwr adran ffotograffig Woodalls Newspapers gan Rowland Thomas, y rheolwr gyfarwyddwr. Symudodd i'r Drenewydd lle bu'n rheoli'r Montgomeryshire Express.




Delweddau Eiconig




Efallai mai gwaith Geoff Charles yn Y Cymro sydd fwyaf cyfarwydd. Dechreuodd ym 1937 wedi iddo gyfarfod â newyddiadurwr ifanc o'r enw John Roberts Williams yn ystod ei amser gyda'r Montgomeryshire Express. Dechreuodd ddarlunio erthyglau Williams, a thynnodd lun y Parch Lewis Valentine ychydig cyn iddo gael ei garcharu am ei ran yn llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth ym mis Medi 1936.



Dechreuodd gwaith Geoff Charles yn Y Cymro o ddifrif ar ôl yr Ail Ryfel Byd pan benodwyd John Roberts Williams yn olygydd. Byddai'r bartneriaeth yn cynhyrchu ffotonewyddiaduraeth na welwyd ei thebyg o'r blaen yng Nghymru. Roedd yn atgoffaol o'r cylchgrawn blaenllaw Picture Post ac roedd Geoff Charles yn cyfaddef   fod delweddau trawiadol y cylchgrawn yn ysbrydoliaeth i'w waith.



Llwyddodd ei waith i ddal bywyd yng Nghymru mewn ffordd gydymdeimladol; nid yn unig digwyddiadau hanesyddol arwyddocaol y cyfnod, ond hefyd bywyd dydd i ddydd pobl Cymru. Mae ei ffotograffau'n dal dychymyg y genedl. Efallai nad oes un gwell na llun y ffermwr-bardd Carneddog a'i wraig a orfodwyd i adael eu cartref yn y Carneddau oherwydd marwolaeth eu mab. Mae sôn yr oedd y ddelwedd eiconig hon yn ennyn teimladau dwfn iawn mewn llawer o Gymry a'i bod i'w gweld weithiau'n hongian nesaf at “Salem” gan Curnow Vosper.



Yr un mor arwyddocaol, os nad mwy, yw bod ffotograffau Charles yn dogfennu ffordd o fyw a oedd yn diflannu. Roedd y newidiadau a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd yn golygu bod ffyrdd traddodiadolo fyw yng Nghymru'n diflannu; cneifio defaid â llaw, y postmon yn dosbarthu llythyrau ar gefn ceffyl, neu'r traddodiad o gasglu Calennig bob blwyddyn newydd. Roedd penderfyniad a manwl gywirdeb Geoff Charles yn golygu bod y digwyddiadau a gorchwylion dyddiol hyn, dinod ar yr olwg gyntaf, yn cael eu dogfennu yn ei ffotograffau du a gwyn digamsyniol.




Tryweryn




Efallai mai ei gasgliad enwocaf yw ffotograffau o'r wythnosau a'r misoedd yn arwain at foddi Cwm Tryweryn. Roedd bywyd yn y cwm yn debyg i fywyd mewn rhannau eraill o Gymru ar y pryd, ond roedd o dan fygythiad, ac yn y pendraw cafodd y cwm ei foddi i greu cronfa ddŵr i gyflenwi Lerpwl. Yn yr wythnosau cyn y gorfodwyd i'r trigolion adael, roedd Geoff Charles, gyda'i fanylder nodweddiadol, yn cofnodi pob agwedd o fywyd ym mhentref Capel Celyn a'r ffermydd yn ei amgylchynu, yn ogystal â'r ymdrechion parhaus i achub y cwm.



Mae'r ffotograffau hyn yn ffurfio rhan o'r casgliad o 120,000 o negatifau gwydr a roddodd Geoff Charles i Lyfrgell Genedlaethol Cymru wedi iddo ymddeol ym 1975. Mae ei waith wedi dod yn adnodd amhrisiadwy, ac mae ei ffotograffau ffres, naturiol yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i fywyd yng Nghymru yn ystod ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.