Y Daith i Batagonia

Eitemau yn y stori hon:

  • 2,206
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,219
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 5,064
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Gadael Lerpwl

Ar 28 Mai 1865, cychwynnodd 150 o allfudwyr o Gymru ar y daith hir o Lerpwl i Batagonia. Gadawodd y teithwyr ar y gliper de ‘Mimosa’ dros fis yn hwyr, ac mae’n rhaid eu bod yn falch o ddechrau’r daith wedi sawl wythnos o oedi yn Lerpwl.

 Ar 24 Mai 1865, cafodd y teithwyr ganiatâd i fyrddio’r llong. Roedd llawer ohonynt o ardaloedd diwydiannol Aberpennar ac Aberdâr, ac ond lleiafrif ohonynt o gymunedau amaethyddol. Yn ogystal â nifer o lowyr a chwarelwyr, roedd y fintai gyntaf yn cynnwys ysgolfeistr, pregethwyr, adeiladwr a meddyg. Cyn ymadael, etholwyd Cyngor (Cyngor y Wladychfa) i lywodraethu’r Wladfa. Roedd deuddeg aelod ar y Cyngor, ac etholwyd llywydd, ysgrifennydd, trysorydd ac archwiliwr hefyd. Ar 25 Mai cyhoeddodd capten y Mimosa, dyn 25 oed o’r enw George Pepperell, fod yr angor ar fin cael ei chodi. Heidiodd cannoedd o bobl, yn cynnwys Michael D. Jones a’i wraig Anne, ar hyd y dociau i ffarwelio a’r teithwyr, gan ganu anthem a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur ar alaw ‘God Save the Queen’. Codwyd baner Cymru a gadawodd y Mimosa y dociau. Ond nid oedd yr allfudwyr ar eu ffordd, gan y bu raid i’r llong aros tridiau am wynt ffafriol cyn codi’r angor o’r diwedd am 4 o’r gloch ar 28 Mai.

 

Taith hir ac anodd

Dechreuodd y daith yn gofiadwy wrth i wyntoedd cryfion a thonnau anferth drawo'r llong yn fuan wedi iddi adael Afon Merswy. Yn ffodus, roedd gweddill y daith ar draws Cefnfor yr Iwerydd yn gymharol dawel. Er na wyddys llawer am yr amodau ar fwrdd y llong,  mae'n ddiogel tybio bod safon y bwyd a'r llety'n dlawd. Yn ystod y daith bu sawl teithiwr yn wael ac ar un achlysur gorchmynnodd y capten i'r merched olchi ac eillio'u gwallt, er mwyn rhwystro lledu afiechydon. Yn drist, erbyn iddynt gyrraedd Patagonia, roedd pedwar o blant ar fwrdd y ‘Mimosa’ wedi marw.

Ar brydiau roedd rhesymau i ddathlu. Ar 11 Mehefin, ganed mab o'r enw John i Mary Jones, gwraig John Jones o Aberpennar. Ar 15 Mehefin, ychydig ddyddiau wedi marwolaeth eu mab dwy oed James, ganed merch o'r enw Rachel i Aaron a Rachel Jenkins. Priodwyd William ac Anne Lewis o Abergynolwyn ar fwrdd y Mimosa gan y gweinidog y Parch. Lewis Humphreys. Treuliodd y teithwyr eu hamser yn rhannu'u straeon ac yn canu, ac roedd dathliad calonnog gan y criw wrth i'r llong groesi'r cyhydedd ar 28 Mehefin.

 

Tir ar y Gorwel

Ar 26 Gorffennaf, wedi bron deufis ar y môr, cyhoeddodd aelod o'r criw fod tir ar y gorwel, ac fe gyrhaeddodd y llong New Bay y noson honno. Bore drannoeth gwelodd yr ymfudwyr eu cartref newydd a'r noswaith honno aeth mintai fechan o ddynion i'r lan, tra arhosodd y gweddill am ddiwrnod arall cyn glanio ar dir Patagonia a dechrau ar eu hantur mewn gwlad newydd.