Pethau peryglus yw geiriau: Eisteddfodau â'r Gwyneddigion

Eitemau yn y stori hon:

  • 2,240
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,061
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 821
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,023
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Pwy oedd y Gwyneddigion?

Sefydlwyd Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain ym 1770. Er bod iddi gysylltiad agos ag Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, roedd y gymdeithas ei hun yn ymateb i’r hyn a welwyd fel agweddau uchel-ael a diog aelodau’r Cymmrodorion. Cymdeithas fywiog oedd y Gwyneddigion, yn prisio dadlau deallusol ar bynciau diwylliannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd llenyddiaeth Gymraeg o’r pwys mwyaf i’w haelodau a noddodd a hybodd y gymdeithas nifer o gyfrolau pwysicaf y Gymraeg, fel Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789) a The Myvyrian Archaiology of Wales (1801-7).

Cymeriadau mawr oedd llawer o garedigion eisteddfodau’r Gwyneddigion, ac ymhlith y mwyaf oll oedd Dafydd Samwell a Twm o’r Nant.

Adar brith

Byddai bardd o Gymro heddiw ar ben ei ddigon pe bai cyfrol o’i gerddi yn gwerthu pum cant o gopïau. Ymhyfrydai Twm o’r Nant (Thomas Edwards, 1738-1810) bod ei gyfrol Gardd o gerddi (1790) wedi gwerthu cymaint â 2000 o gopïau. Aderyn digon brith oedd Twm. Yn fab i dyddynwr, bach iawn o addysg a gafodd – ychydig wythnosau yn Ysgol Rad Nantglyn a phythefnos yn dysgu Saesneg yn Ninbych. Ond roedd ganddo feddwl chwim ac awen chwimach fyth. Er mwyn osgoi ei gredydwyr bu’n symud o fan i fan, gan geisio ennill ei damaid trwy ysgrifennu anterliwtiau. Roedd y creadigaethau poblogaidd hyn yn cynnig sylwebaeth fyw a deifiol ar ddrygau cymdeithasol ei oes, fel y tirfeddiannwr barus, y clerigwr rhagrithiol a’r twrnai diegwyddor.

Roedd gyrfa Dafydd Samwell (Dafydd Ddu Feddyg, 1751-1798) yn fwy byrlymus a chrwydrol na bywyd ei gyfaill hyd yn oed. Bu’n llawfeddyg ar fordaith olaf Capten Cook ac mae ei ddyddiadur yn gofnod gwych o’r daith, gan gynnwys disgrifiad fforensig o fanwl, bron, o lofruddiaeth Cook yn Hawaii. Roedd ganddo ddiddordeb byw yn yr iaith Faori hefyd – ef oedd y cyntaf i lunio cofnod ysgrifenedig o’r iaith, gan drawsgrifio chwe siant Maori yn Swnt y Frenhines Charlotte, ymhlith enghreifftiau eraill.

Rhwng ei fordeithiau roedd yn ffigwr canolog ym mywyd diwylliannol a chymdeithasol Cymry Llundain (Samwell oedd yn darparu’r cyffur laudanum i Iolo Morganwg, er enghraifft). Roedd iddo enw am fod yn hynod o gymdeithasol, yn hoff o’i ddiod ac yn dymhestlog ei natur. Roedd hefyd yn ymfflamychol o barod i gynnig ymladd gydag unrhyw feirniad a oedd wedi amharchu ei gyfeillion llenyddol. Digon hawdd deall felly iddo ddigio’n yfflon pan gafodd Twm o’r Nant gam yn Eisteddfod gyntaf y Gwyneddigion ym 1789.

Dechreuadau’r Eisteddfod fodern

Dywedir bod gwreiddiau’r traddodiad Eisteddfodol yn deillio o gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi ym 1176, dan nawdd yr Arglwydd Rhys. Cyhoeddwyd yr ymryson ‘drwy Gymru a Lloegr a’r Alban ac Iwerddon a’r Ynysoedd eraill i gyd’, gyda chadair y prifardd yn mynd i ogledd Cymru a chadair y prif delynor i’r de.

Ond gellid dadlau mai yn y flwyddyn 1789 y gwelwyd dechreuadau’r Eisteddfod fodern, pan gysylltodd Thomas Jones, seismon o Gorwen, â’r Gwyneddigion gan ofyn iddynt noddi'r Eisteddfod yng Nghymru. Er na chytunodd y Gwyneddigion i noddi Eisteddfod Corwen, dyma’r cam cyntaf at sefydliad a fyddai’n adfer ychydig o urddas a safon – ac efallai gymeriad cenedlaethol – i ddiwylliant yr Eisteddfod. Er bod gwesty Owain Glyndŵr lle’i cynhelid yn ddigon annhebyg i’r pafiliwn pinc presennol, teg dweud bod Eisteddfod Corwen ym mis Mai 1789 yn rhyw fath o lasbrint i’r Eisteddfod fodern.

Doedd dim testun penodol ar gyfer y gadair yn Eisteddfod Corwen. Cystadlodd y beirdd yn ôl yr hen drefn, yn fyrfyfyr. Roedd Jonathan Hughes a Twm o’r Nant yn cystadlu, yn ogystal â Gwallter Mechain. Cafodd ef fantais bendant, oherwydd roedd Thomas Jones wedi rhoi gwybod iddo ymlaen llaw beth fyddai’r testunau byrfyfyr. Felly Gwallter Mechain a enillodd y wobr, sef bronfollt arian hardd. Afraid dweud nad oedd y beirdd eraill yn fodlon ar y sefyllfa o gwbl.

Twm yn cael cam!

Y tro cyntaf i’r Gwyneddigion noddi Eisteddfod yn swyddogol oedd yn Y Bala ym mis Medi 1789. Wrth gytuno i noddi, fe fynnodd y gymdeithas mai y nhw oedd piau’r hawl i ddewis y beirniaid a’r prif destunau. Testun y gadair oedd awdl ar Ystyriaeth ar Oes Dyn. Unwaith eto cafodd Gwallter Mechain fantais: rhoddodd Owain Myfyr wybod iddo ba fath o gerdd roedd y Gwyneddigion yn gobeithio ei gweld. Pan gyhoeddwyd ffugenw Gwallter Mechain yn Y Bala – ac yn eironig ddigon, ‘Anonymous’ oedd ei nom-de-plume – cerddodd y beirdd eraill allan mewn protest a Twm o’r Nant, a oedd wedi cystadlu hefyd, yn eu plith.

Bu bron i bethau fynd yn ffradach pan wnaeth Dafydd Samwell fygwth ymladd gornest gydag un o’r beirniaid am beidio â rhoi’r fedal i’w ffefryn, Twm. Yn y diwedd perswadiwyd ef i beidio, a bodlonodd Samwell ar roi ysgrifbin arian i Twm yn wobr gysur. Ef hefyd a fathodd yr ymadrodd ‘the Cambrian Shakespeare’ i ddisgrifio Twm – disgrifiad hael ond cwbl amhriodol i’w ddoniau arbennig ef.