Ei harddwch a rydd urddas arni: Gorsedd y Beirdd

Eitemau yn y stori hon:

  • 917
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,247
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,195
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,678
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi


Beth yw'r Orsedd?



Cymdeithas o feirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac unigolion sy wedi gwneud cyfraniad nodedig i'r genedl, ei hiaith a'i diwylliant yw Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Mae'n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.



Gorsedd y Beirdd sy'n gyfrifol am basiantri Eisteddfod Genedlaethol Cymru a hi sy'n trefnu a chynnal seremonïau lliwgar a dramatig y Cyhoeddi a defodau Cylch yr Orsedd, a seremonïau'r Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio ar lwyfan y Brifwyl.



Mae iddi hanes ddifyr ac unigryw, o'r cychwyn cyntaf yn 1792 hyd at heddiw.



Nid ei chledd ond ei gweddi - a'i harddwch



A rydd urddas arni;



Mae nodded tu mewn iddi



I'r Gymraeg rhag ei marw hi.



Tîm Ymryson y Beirdd Sir Aberteifi 



Y dechreuadau: Iolo Morganwg



Edward Williams neu Iolo Morganwg (1747-1826) oedd crewr a thad Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. 



Cafodd Iolo ei eni ym mhlwyf Llancarfan, Morgannwg ac er mai Saesneg oedd iaith yr aelwyd dechreuodd ymddiddori yn yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i hanes. Saer maen oedd e wrth ei grefft a theithiodd ledled Cymru ac i Lundain yn arbennig. Yno, daeth i gysylltiad â Chymdeithas y Gwyneddigion a dechreuodd droi mewn cylchoedd diwylliannol a radical.



Roedd Iolo Morgannwg yn athrylith - yn un o sefydlwyr mudiad yr Undodiaid yng Nghymru, yn radical gwleidyddol a oedd yn cefnogi'r Chwyldro Ffrengig, yn heddychwr, yn hynafiaethydd, yn emynydd ac yn fardd telynegol a oedd yn ei alw'i hun yn 'The Bard of Liberty'.



Breuddwydiwr a Ffugiwr



Ond roedd e'n freuddwydiwr ac yn ffugiwr hefyd. Roedd yn gaeth i'r cyffur laudanum ac mae'n siwr i hynny effeithio ar gyflwr ei feddwl. Rhan o'i freuddwyd a'i weledigaeth ar gyfer Cymru a Morgannwg oedd creu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a llwyddodd i dwyllo ysgolheigion ei oes ei bod yn sefydliad cwbl ddilys. Ond pam aeth e i'r fath drafferth? Mae nifer o resymau posibl:



Roedd e wedi cael ei swyno gan ramantiaeth Derwyddiaeth newydd y ddeunawfed ganrif ac roedd e'n credu fod beirdd Cymru wedi etifeddu rôl y derwyddon Celtaidd.



Pan oedd e'n Llundain roedd e wedi sylwi fod y Saeson yn dirmygu iaith a diwylliant y Cymry ac felly aeth e ati i greu gorffennol llachar a hynafol i'w genedl trwy Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Roedd Iolo yn genfigennus o hyder y Gwyneddigion mai yng Ngwynedd yr oedd barddoniaeth a thraddodiadau Cymru ar eu puraf, felly aeth ati i geisio profi mai ym Morgannwg yn unig yr oedd traddodiadau derwyddiaeth wedi goroesi. Fel y dwedodd yr ysgolhaig G.J.Williams, 'Math o ymgais i dynnu'r gwynt o hwyliau pobl y Gogledd oedd yr Orsedd... math o ymgais i ddangos eu bod nhw ym Morgannwg wedi cadw hen sefydliad y Cymry yn ei burdeb cysefin ...'.



Ac wrth gwrs, roedd Iolo yn ganolog i'w weledigaeth ei hun. Roedd e eisiau diffinio rôl arbennig iddo'i hun yn hanes Cymru trwy greu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.



Crisialodd yr hanesydd Gwyn A. Williams gymhellion cymhleth Iolo trwy ddweud ei fod yn cael ei yrru gan 'a Welsh resentment against arrogant English, a south Wales resentment against arrogant northerners, a Glamorgan resentment against the rest and a Iolo resentment against any who snubbed him'.



Pan fu Iolo farw yn 1826 doedd Cymru ddim wedi dechrau amgyffred natur na maint ei ddyfeisgarwch a'i dwyll.



Derwyddiaeth



O'r ail ganrif ar bymtheg hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd diddordeb mawr iawn gan ysgolheigion Prydain ym mhopeth Celtaidd a druidmania yn fyw ac yn iach. Un o'r cyntaf i ymddiddori oedd yr hynafiaethydd, John Aubrey, a awgrymodd yn 1659 fod cylchoedd cerrig Côr y Cewri ac Avebury wedi'u hadeiladu gan y Celtaidd i fod yn demlau i'w derwyddon. Yn sgil hynny cynhaliodd y Gwyddel, J.J.Tolland gyfarfod i dderwyddon ar Primrose Hill (Bryn y Briallu) yn Llundain yn 1717 a sefydlodd urdd The Ancient Order of Druids.



Yng Nghymru roedd Henry Rowlands (1655-1723), hynafiaethydd o Fôn, wedi ceisio profi yn ei lyfr Mona Antiqua Restaurata (1723) mai olion temlau'r derwyddon oedd y cromlechi ar yr ynys. Ond pan deithiodd Iolo Morgannwg i Fôn ddiwedd y ddeunawfed ganrif cafodd ei siomi gan 'the exceedingly pitiful monuments of that Island' a gwelodd e gyfle i ganu clodydd hynafiaethau Morgannwg yn eu lle.



Nid yw Archdderwydd na Derwyddon Gorsedd Beirdd Ynys Prydain heddiw yn olrhain eu hachau yn ôl i fyd y derwyddon Celtaidd ond mae'r ffaith fod yr Orsedd yn cyfarfod o fewn Cylch o Feini yn brawf o ddylanwad neo-dderwyddiaeth ei gyfnod ar ddychymyg byw Iolo Morganwg.