Eisteddfodau hanesyddol ddiddorol

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,399
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Targed i Swffragetiaid

Cyfnod brwydrau rhyddfreinio menywod oedd blynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif a gwelwyd y swffragetiaid yn targedu'r Prif Weinidog, Asquith yn Eisteddfod Llundain yn 1909. Yr oedd ymateb yr Archdderwydd Dyfed i'w 'rhyfyg' yn ei englyn byrfyfyr yn nodweddiadol o agwedd batriarchaidd y sefydliad Cymreig ar y pryd:

Benyw mewn ffrae â'i bonet - yw y fun
A wna beirdd yn darget,
Un belen o'i gwn bwlet
Aiff i'r jael â'r Swffraget

Yn Wrecsam yn 1912 Lloyd George ei hun oedd y targed yn ei araith brynhawn y Cadeirio. Gwylltiodd y dorf o 13,000 yn y babell fod y menywod yn beiddio herio anwylyn y genedl. Ymosodwyd yn gorfforol arnynt, gan dynnu'u gwalltiau a rhwygo'u dillad; 'yr oedd y pafiliwn yn ferw drwyddo.'

Rhyfeloedd a Dirwasgiad

Pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf allan yn 1914 gohiriwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor tan 1915; yna bu'n Aberystwyth yn 1916, Penbedw yn 1917 a Chastell-nedd yn 1918. Yn ystod y gorseddau rhyfel hyn ni ddadweiniwyd y Cleddyf Mawr ac ni erfyniwyd am 'Heddwch'.

Dioddefodd Cymru ddirwasgiad dwys rhwng y rhyfeloedd. Symbol o hynny oedd i Gadair Eisteddfod Genedlaethol 1938 gael ei gwneud yn ffatri ddodrefn Bryn-mawr, ffatri a agorwyd gan y Crynwyr yn y dref honno i geisio lliniaru peth ar y diweithdra enbyd.

 hithau'n Ail Ryfel Byd gwaharddwyd cynnal Eisteddfod 1940 ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Aberpennar am eu bod yn ardaloedd peryglus. O'r herwydd cynhaliwyd Eisteddfod radio.

Brwydr yr Iaith

Yn ystod degawdau olaf yr ugeinfed ganrif brwydr yr iaith Gymraeg oedd prif gonsýrn llawer o'r Gorseddogion a chlywid sawl Archdderwydd yn lleisio'i farn yn groyw ar y pwnc o'r Maen Llog. Yn ôl Tilsli, Gwyndaf gychwynnodd y dull newydd hwn o areithio 'gan drafod cwestiynau llosg a rhoi arweiniad pendant'.