Dwynwen, Nawddsant y Cariadon
Eitemau yn y stori hon:
Stori Dwynwen
Ar 25 Ionawr mae’r Cymry yn dathlu diwrnod Dwynwen, nawddsantes cariad a chyfeillgarwch.
Yr hanes fwyaf adnabyddus yn ymwneud â Dwynwen, a oedd yn byw yn ystod y 5ed ganrif, yw fersiwn Iolo Morganwg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ôl y chwedl, Dwynwen oedd un o’r harddaf o 24 merch Brychan a syrthiodd mewn cariad â Maelon Dafodrill ond roedd ei thad am iddi briodi tywysog arall. Cafodd Maelon ei orfodi i adael, ac fel cosb ei rewi mewn bloc o iâ. . Ffodd Dwynwen i’r goedwig ac fel cosb, rhewyd Maelon gan Dduw. Yn y goedwig, bu Dwynwen yn gweddϊo ar Dduw i leddfu ei chariad at Maelon ac fe roddodd Duw dri dymuniad iddi. Ei dymuniadau oedd dadrewi Maelon; i gael gwrando ar weddϊau cariadon oedd angen cymorth ac i beidio a phriodi.
Ynys Llanddwyn
Fel arwydd o’i diolch, ymroes i wasanaethu Duw am weddill ei hoes ac aeth i fyw ar ei phen ei hun ar Ynys Llanddwyn ger arfordir Ynys Môn. Daeth Llanddwyn yn gyrchfan i gariadon yn chwilio am atebion a chysur ac yno mae ffynnon Dwynwen, lle nofia bysgodyn cysegredig a’i symudiadau'n darogan dyfodol cariadon. Yn ôl y sôn, os bydd swigod yn ymddangos ar wyneb y dŵr, bydd lwc a chariad yn sicr o ddod i’r ymwelydd.
Un o’r ymwelwyr enwocaf i Landdwyn oedd Dafydd ap Gwilym yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Gofynnodd i ddelw o Ddwynwen fod yn negesydd rhyngddo ef a Morfudd, y ferch yr oedd yn ei charu, er bod Morfudd yn briod!
Ionawr 25ain
Heddiw, dethlir Dydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr mewn ffordd debyg iawn i Ddydd San Ffolant gyda chyfnewid cardiau ac anrhegion yn boblogaidd ymysg y Cymry. Mae’r diwrnod yn rhan o draddodiad carwriaethol unigryw yng Nghymru sy’n cynnwys yr arfer o wneud llwyau caru fel symbol o gariad.