arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Aneurin Bevan

Er iddo fethu â chyrraedd y swydd uchaf mewn gwleidyddiaeth, gellir dadlau mai Bevan ywr ffigur fwyaf dylanwadol, ac yn sicr y mwyaf ysbrydoledig yn hanes y Blaid Lafur.

Eitemau yn y stori hwn

Aneurin Bevan a'i briod Jennie Lee yng...

  • 2,690
  • login to save

Y Dyn o Dredegar

Ar hyd ei oes byddai Bevan yn ennyn adwaith a theimladau cryf. Roedd y cyfuniad o'i areithio pwerus, ai ddirmyg at ei wrthwynebwyr gwleidyddol yn golygu ei fod bob amser yn denu sylw arbennig. Cafodd ei ddisgrifio unwaith gan Churchill fel "niwsans brwnt". Talodd Bevan y pwyth yn ôl trwy alw pob Tori yn "is na fermin".

Ganed Bevan i deulu anghydffurfiol yn Nhredegar ar 15 Tachwedd 1897. Gadawodd yr ysgol yn 13 oed, a dechreuodd weithio ym mhwll glo Tytryst ond cafodd ei ddiswyddo am weithredu yn enw Undebaeth Lafur. Ym 1929, cafodd Bevan ei ethol fel aelod seneddol Llafur dros Lynebwy.

Roedd Bevan yn hynod ddawnus. Enillodd sylw a pharch Tŷ"r Cyffredin am ei allu fel areithydd. Byddai nifer o aelodau yn mynychu'r siambr er mwyn ei glywed ef yn siarad yn unig. Er hynny, yr hyn a gyflawnodd fel Gweinidog yn y Cabinet sydd wedi sicrhau bod ei ddylanwad wedi parhau i'r fath raddau y byddai Bevan ei hun yn ei chael hi'n anodd credu.

Tra oedd yn Weinidog Iechyd, Bevan fu'n gyfrifol am weithredu un o'r camau mwyaf pellgyrhaeddol yn hanes diwygio cymdeithasol modern. Wrth sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r system Yswiriant Gwladol, fe fel unigolyn fu'n gyfrifol am greu'r wladwriaeth les gyfoes.

Ymddiswyddodd Bevan o'r llywodraeth ym 1951 dros yr argymhellion i godi tâl am bresgripsiwn. Am gyfnod fe oedd yr un a ymgorfforai adain chwith y blaid Lafur. Er hynny, ym 1956 cytunodd i ddychwelyd i'r meinciau blaen fel Ysgrifennydd Amddiffyn yr wrthblaid.

Y flwyddyn ganlynol, cafodd ei gefnogwyr gwleidyddol sioc pan gyhoeddodd ei fod yn cefnu ar y ddadl dros ddiarfogi unochrog.

Pan gafodd ei benodi'n Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur ym 1959, roedd eisoes yn ddyn sâl, a bu farw o gancr ar 6 Gorffennaf 1960.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw