Y Cais a wrthodwyd ac a newidiodd Rygbi Cymru
Eitemau yn y stori hon:
Y Crysau Duon yn cyrraedd
Prin yw’r gemau rygbi sydd wedi cael cymaint o ddylanwad ar fywyd y genedl â’r gêm rhwng Cymru a thîm ‘anorchfygol’ Seland Newydd ym 1905.
Cyrhaeddodd y Crysau Duon yng Nghaerdydd wedi iddynt ennill cyfres o gemau yn erbyn timau'r Cenhedloedd Cartref eraill, gan adael 32 o dimau wedi'u gorchfygu a sgorio 800 o bwyntiau. Roedd eu gwrthwynebwyr wedi sgorio cyfanswm o 27 o bwyntiau yn unig yn eu herbyn.
Tim Cymru
Er bod tîm Cymru'n cael ei weld fel y tîm gwannaf yn erbyn y tîm gwefreiddiol hwn, roedd ganddynt le i deimlo'n hyderus. Byddai dechrau'r 20fed ganrif yn cael ei alw'n 'Oes Aur Gyntaf Rygbi Cymru' yn ddiweddarach. Rhwng 1900 a 1911, enillodd Cymru 35 allan o 43 gêm, gan ennill cystadleuaeth y Cenhedloedd Cartref saith gwaith.
Mae'r gem yn dechrau
Roedd popeth yn barod am ornest gyffrous i benderfynu p'un oedd tîm gorau'r byd. Chwaraewyd y gêm ar 16 Rhagfyr ym Mharc yr Arfau, Caerdydd. Cyn dechrau'r gêm, gwelodd y dorf o 47,000 eu Haka cyntaf ac ymateb gan ganu Hen Wlad Fy Nhadau; gweithred a gychwynnodd draddodiad sy'n parhau hyd heddiw.
Pan ddechreuodd y gêm roedd yn frwydr ffyrnig rhwng y ddwy ochr a'r naill na’r llall yn edrych pe byddai'n sgorio yn y 30 munud gyntaf.
Ond yna sgoriodd yr asgellwr Teddy Morgan yn y gornel o symudiad a ddyfeisiwyd gan y mewnwr Dickie Owen ar y maes hyfforddi. Ond nid oedd hynny’n ddigon i agor y llifddorau ac fe barhaodd y brwydro i mewn i'r ail hanner.
Y cais a wrthodwyd
Yn dilyn cyfnod hir o ymosod, roedd yn edrych fel pe bai canolwr Seland Newydd Bob Deans wedi sgorio cais, ond, yn ddadleuol iawn, cafodd ei wrthod gan y dyfarnwr o’r Alban J. D. Dallas.
Ar ddiwedd y gêm roedd Cymru wedi ennill o 3-0, neu un cais i ddim, a hawliodd y Crysau Duon fod annhegwch amlwg wedi’i gyflawni. Roedd Deans yn benderfynol ei fod wedi sgorio'r cais a bod chwaraewyr Cymru wedi'i lusgo nôl o'r llinell cyn i'r dyfarnwr gyrraedd.
Yn ddiweddarach, cyfaddefodd sgoriwr cais Cymru, Teddy Morgan, fod Deans wedi sgorio'r cais ac y dylai'r gêm wedi diweddu'n gyfartal.
Rhoddodd y fuddugoliaeth ddadleuol hon le ymhlith timau gorau'r byd i Gymru a sefydlodd un o ymrysonau hynaf rygbi rhyngwladol. Roedd fel pe bai llwyddiant ar y maes rygbi'n adlewyrchu ehangiad diwydiannol, economaidd a gwleidyddol Cymru.
Roedd rygbi wedi hawlio’i lle fel y gêm genedlaethol.