Annie Jane Hughrs-Griffiths ac Apêl Merched Cymru Dros Heddwch
Eitemau yn y stori hon:
Roedd Annie Jane yn ymgyrchydd heddwch a gyfrannodd lawer at waith Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn yr 1920au. Bu farw ei gŵr cyntaf, yr Aelod Seneddol Thomas Edwards Ellis (1859-1899) yn yr un flwyddyn ag y ganed eu mab, Thomas Iorwerth Ellis (1899-1970) a ddaeth yn academydd, athro ac awdur adnabyddus. Priododd Annie Jane y Parch. Peter Hughes Griffiths (1871-1937) yn ddiweddarach.
Yn 1923, gydag erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn dal yn fyw yn y cof, sefydlwyd deiseb gan Undeb Gynghrair y Cenhedloedd Cymru ar ran merched Cymru yn apelio at ferched yr Unol Dalethiau i ddwyn perswâd ar eu gwlad i ymuno gyda Chynghrair y Cenhedloedd ac i arwain yr ymgyrch i sicrhau heddwch byd: ‘We feel that the dawn of the Peace which shall endure would be hastened were it possible for America to take her place in the Council of the League of Nations.’
Cafodd llythyr yn galw am gefnogaeth i lofnodi’r apêl ei ddosbarthu i bob aelwyd yng Nghymru. Fe’i llofnodwyd gan 390,296 o ferched ac yn 1924 teithiodd Annie Jane i America gyda dirprwyaeth o fenywod o Gymru i gyflwyno Deiseb Heddwch Merched Cymru. Yn ôl yr adroddiad a gynhwyswyd yn Adroddiad Blynyddol Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yn 1924 nodwyd bod ‘Mrs Peter Hughes-Griffiths a Miss Eluned Prys wedi gadael ar fwrdd yr agerlong “Cedric” ar 2 Chwefror … Fel y gadawai y “Cedric” y lan canodd Miss Leila Megane – a oedd hefyd yn ymdeithydd – ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Ymunodd yr ymdeithwyr a’r bobl ar y lan yn y cytgan’.
Cyflwynwyd yr Apêl ar 19eg o Chwefror.