Harpist 'Telynores Gwalia'

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,869
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,268
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,897
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Cafodd Elizabeth (Bessie) Jones ei geni a'i magu yn Lerpwl, yn un o ferched y bardd Hugh Jones ('Trisant') oedd yn hanu'n wreiddiol o Fôn. Daeth yn enwog am ei datganiadau ar y delyn pan oedd yn ferch ifanc ar droad yr ugeinfed ganrif a hynny yng Nghymru a thu hwnt, gan ddod yn adnabyddus fel 'Telynores Gwalia'. Gwnaeth argraff ddofn ar y gynulleidfa gyda'i pherfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1900 a theithiai i gynnal cyngherddau gyda chorau amlwg y dydd megis Côr y Deheudir, yn ogystal â chynnal cyngherddau ar ei phen ei hun - a hynny mewn lleoliadau enwog megis y Park Hall yng Nghaerdydd. Bu hefyd yn cyfeilio i rai o ddatgeiniaid amglwg y cyfnod. Yn ôl erthygl a ymddangosodd yn y cylchgrawn 'Cymru' (rhifyn 28, 1905) bu'n cyfeilio i 'Eos Dâr' yn un o gyngherddau 'Noson gyda'r delyn' yn Lerpwl mor gynnar â 1898 er enghraifft. Derbyniai ganmoliaeth uchel yn rheolaidd gan y bardd a'r nofelydd Gwyneth Vaughan (Annie Harriet Huges) a ddaeth yn un o'i hedmygwyr pennaf; cyhoeddodd gyfres o benillion amdani yng 'Cymru'r Plant' ym mis Gorffennaf 1901 lle mae'n datgan: 'Hoff delynores Gwalia Lân      Ti ddeni gân ac englyn: Os hoffwyr cerdd eu tywydd braf,        Mi goelia ' wrth dy ganlyn; A hoff i mi gyfeillgar serch       Hudoles ferch y delyn.' Yn 1913 priododd Elizabeth Jones gyda'r ysgolhaig Celtaidd, y Llydawr, Pol Diverres, a ddaeth, yn ddiweddarach yn Geidwad Llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.