Robert Recorde 1510-1558

Eitemau yn y stori hon:

  • 198
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 438
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Robert Recorde oedd dyfeisiwr yr hafalnod ac fe'i ystyrir gan lawer yn 'Dad Mathemateg Prydain'. 
Fe'i ganed yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro. Mynychodd Brifysgol Rhydychen yn 15 oed a chwe mlynedd yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Gymrawd yng ngholeg All Souls. Daeth yn ŵr llys Tuduraidd ac yn was sifil, ac ar un cyfnod fe'i penodwyd i oruchwylio mwyngloddiau'r brenin yn Iwerddon.

Fodd bynnag, cafodd yrfa llawer mwy llwyddiannus fel academydd a mathemategydd, a bu'n gyfrifol am ysgrifennu sawl gwerslyfr mathemateg yn Saesneg, gan wneud y pwnc yn llawer mwy hygyrch i bobl, gan mai dim ond mewn Lladin roedd testunau ynghylch y pwnc ar gael cyn hyn. Yn 1551 cyflwynodd Algebra i'r iaith Saesneg am y tro cyntaf yn ei waith, 'Pathway of Knowledge' a gyhoeddwyd yn 1551, ac yn 1557 cyflwynodd y syniad o ddau gysylltnod, un uwchben y llall, er mwyn cyfleu cydbwysedd hafaliad yn ei lyfr 'The Whetstone of Witte'.
Er gwaethaf ei allu, bu farw mewn carchar dyledwyr yn 1558 ychydig wythnosau yn unig wedi iddo gael ei garcharu. Yn annoeth iawn, gwnaeth elyn o Iarll Penfro, un o'r dynion mwyaf dylanwadol yn y deyrnas, ac yn y pen draw cafodd ei gyhuddo o bardduo ei enw da; fe'i gorchmynwyd yn ogystal i dalu dirwy drom o £1,000.00, nad oedd modd iddo ei thalu.