Wonderbrass yng Ngorymdaith Gŵyl Ddewi
Eitemau yn y stori hon:
Mae Gorymdaith Genedlaethol Dydd Gŵyl Dewi yng Nghaerdydd yn ymddangos yn rheolaidd ar galendr y band. Gan ddechrau o Neuadd y Ddinas, mae'r orymdaith yn dilyn trywydd trwy strydoedd y ddinas i Neuadd Dewi Sant yn Yr Aes. Mae'r digwyddiad yn ddathliad gwirioneddol o fywyd a diwylliant Cymru, gydag ysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau diwylliannol i gyd yn cael eu cynrychioli. Mae cerfluniau enfawr o Tom Jones, Shirley Bassey, Nessa a ffigyrau mawr eraill o Gymru yn aml yn rhan o'r orymdaith. Ac yng nghanol hyn oll mae Wonderbrass bob amser yn falch iawn o ddod â'u cymysgedd nodedig o gerddoriaeth er mwyn dathlu blwyddyn arall ym mywyd y genedl.