Gwaith Warden yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn yn yr 1990au

Eitemau yn y stori hon:

  • 424
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 935
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Roedd Ben Stammers yn un o'r wardeiniaid yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn yn 1994. Y flwyddyn honno oedd y flwyddyn olaf i fôr-wenoliaid Roseate fridio yno. Oherwydd hyn roedd ei waith fel warden yno yn wahanol iawn i'r hyn mae wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd gwaith warden fwy neu lai yn waith 24 awr er mwyn dychryn anifaeliaid ysglyfaethus, ond hefyd er mwyn gwarchod rhag weithgareddau rhai oedd yn cadsglu wyau. Fe gawson nhw ddigwyddiad yn gysylltiedig gyda chasglu wyau y flwyddyn honno a arweiniodd at erlyniad. Yn ystod y cyfnod hwn roedd yna fwy o fôr-wenoliaid a môr-wenoliaid y Gogledd, o'i gymharu gyda'r hyn welwyd mewn blynyddoedd diweddar. Mae'n egluro sut y byddai'r tebygolrwydd o weld môr-wenoliaid yn bridio wedi ei leihau yn sylweddol heb ofod fel gwarchodfa a'r math o waith roedd o'n ei wneud. Mae môr-wenoliaid yn hyblyg a byddent yn defnyddio gwahanol ardaloedd sydd ar gael iddynt, ond mae ystod y lleoliadau hynny yn fach iawn. Mae'r bygythiad i'r ardaloedd y gallant eu defnyddio yn cynyddu'n flynyddol.