Datgloi Ein Treftadaeth Sain - Trawsgrifio
Eitemau yn y stori hon:
Bydd gan y stori yma ddelweddau o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth sy'n astudio MA Gweinyddu Archifau wrth iddynt fynd ati i drawsgrifio ar gyfer Prosiect Stori'r Goedwig, sy'n rhan o Brosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain.
Fel rhan o DETS: prosiect Stori'r Goedwig, roedd yn rhaid i'r grŵp drawsgrifio nifer o recordiadau er mwyn creu crynodebau manwl ar gyfer y catalog. Roedd y mwyafrif o'r mini-discs y cynnwys recordiadau yn Gymraeg, rhyw ddau draean o'r 167 o ddisgiau gafodd eu digido. Gydag ond dau siaradwr Cymraeg o fewn y grŵp, daeth trawsgrifio'r recordiadau Cymraeg hyn yn flaenoriaeth yn fuan iawn.
Mae'r recordiadau hyn, sy'n cynnwys cyfraniadau o ardal sy'n ymestyn o Niwbwrch yng ngogledd Cymru i lawr i Gefn Sidan yn y de, yn trafod amrywiaeth o bynciau mewn perthynas â'r Comisiwn Coedwigaeth, yn rhoi manylion am sawl agwedd o'r gwaith, gan gynnwys yr offer a'r peiriannau a'r cymeriadau hynny oedd yn dod â gwaith o ddydd i ddydd yn fyw. Mynegwyd barn ynghylch arferion a pholisïau'r Comisiwn Coedwigaeth yn ogystal, yn cynnwys safbwyntiau oddi allan i'r Comisiwn ei hun, megis cyfraniad gan fugail lleol. Yn ogystal, mae nifer o'r recordiadau yn darpau cyfoeth o wybodaeth mewn perthynas â hanes a diwylliant Cymru, gyda disgrifiadau manwl o fywyd o fewn cymunedau gwledig a'r ardaloedd oddi amgylch.
Gan ei bod yn ffynhonnell mor gyfoethog o dreftadaeth Cymru, daeth pwysigrwydd casglu'r wybodaeth mewn ffordd y byddai'n rhwydd dod o hyd iddo yn amlwg yn fuan. Un o'r heriau mwyaf roedd y grŵp yn ei wynebu oedd ynganu a sillafu yr enwau llefydd Cymraeg niferus oedd yn cael eu crybwyll. Roedd teimlad cryf o gyfrifoldeb yn cael ei rannu gan bawb o safbwynt yr ymdrech i sicrhau bod manylion o'r fath yn gywir, gan gydnabod eu pwysigrwydd i ymchwilwyr y dyfodol fel porth i ddarganfod cynnwys
Mae'r ymdeimlad o amser a lle oedd yn cael ei greu gan y recordiadau hyn yn sicr wedi gadael argraff ddofn. Maent yn darparu argraffiadau gonest, personol a lliwgar o'u bywydau, ac fel y tirlun cafodd ei siapio gan y Comisiwn Coedwigaeth. Dylid canmol y rhagwelediad a'r blaengarwch yn y gwaith yr ymgymerwyd ag ef er mwyn dal yr hanesion llafar hyn yn y lle cyntaf. Fel grŵp, allwn ni ond gobeithio ein bod wedi gwneud cyfiawnder ag ef, a'n bod wedi gallu hyrwyddo'r straeon unigryw hyn ymhellach trwy greu arddangosfa ar-lein trwy gyfrwng gwefan Casgliad y Werin.