Siarter Dad-drefedigaethu'r Casgliad y Werin Cymru
Yn aml, mae cynnwys trefedigaethol, dadleuol a hiliol mewn casgliadau treftadaeth. Yn ogystal, fel rhan o bartneriaeth ffederal, arweinir Casgliad y Werin Cymru gan dri sefydliad cenedlaethol – Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru – sy'n cydnabod y rôl y mae gwladychiaeth wedi'i chwarae yn hanes, strwythurau, arferion a chasgliadau eu sefydliadau.
Sefydlwyd Casgliad y Werin Cymru (CWC) fel casgliad digidol cenedlaethol sy'n cipio, yn diogelu ac yn dathlu hanes amrywiol Cymru a'i phobl. Mae wedi'i wreiddio'n gadarn mewn arferion democrataidd, grymusol a chydweithredol: fel casgliad pobl Cymru; gall unrhyw un gyfrannu deunyddiau i'r Casgliad drwy blatfform hawdd ei ddefnyddio (gwefan), ac rydyn ni’n cydweithio'n agos â chymunedau a phartneriaid treftadaeth ledled Cymru i alluogi a chefnogi'r cyfraniadau hyn.
Serch hynny, rydyn ni’n cydnabod ein braint a'n pŵer wrth lunio naratifau a chreu cysylltiadau, trwy awdurdod y tri phartner ffederal a thrwy ein rôl fel cyfrannwr, cymedrolwr, curadur, gwarcheidwad a hyrwyddwr cynnwys. Felly, er bod llawer o'r eitemau (a'u dehongliadau) yng Nghasgliad y Werin Cymru yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddwyr ac felly nid yn 'eiddo' i ni, fel platfform cynhwysol, diogel a dibynadwy rydyn ni hefyd yn gyfrifol am ei ddad-drefedigaethu.
Mae'r siarter hon yn pennu ein dull. Mae'n tynnu sylw at 4 maes allweddol lle byddwn yn gweithio gydag unigolion, cymunedau a phartneriaid lleol yn y sector amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled Cymru i ddad-drefedigaethu'r Casgliad. Wrth wneud hynny, byddwn yn cyfrannu at waith ehangach y tri sefydliad cenedlaethol i ddad-drefedigaethu eu hunain. Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd a gwerth addysgol cofnodi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hanes sut y dehonglwyd deunydd yn y gorffennol. Yn hytrach na thynnu unrhyw eitemau problemus, byddwn i) yn rhoi ein Casgliad yn ei gyd-destun, ii) yn cadw cofnod o unrhyw newidiadau i'n disgrifiadau a wnawn drwy 'lwybrau archwilio' a iii) yn adolygu'r iaith a ddefnyddiwn yn gyson i sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r defnydd cyfredol gorau.
Am ragor o wybodaeth am ein dull ymarferol o ddad-drefedigaethu ein Casgliad, gweler ein Pecyn Cymorth Dad-drefedigaethu. Mae hwn yn rhoi canllaw cam wrth gam, i ni a'n cyfranwyr, i greu disgrifiadau dad-drefedigaethol a gadael 'llwybrau archwilio' i gofnodi'r gwaith hwn.
Gyda'n gilydd, rydyn ni'n ymrwymo i ddad-drefedigaethu'r ffordd rydyn ni'n curadu, dehongli, dysgu, ymgysylltu, datblygu a chyfathrebu â'n cynulleidfa. Bydd y broses dad-drefedigaethu yn ganolog i ddatblygu Casgliad y Werin Cymru a bydd yn gyfrifoldeb ar bawb.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae dad-drefedigaethu yn broses o gyfiawnder adferol sy'n ceisio datgymalu'r systemau, sefydliadau ac ideolegau trefedigaethol sy'n dal i beri anghydraddoldebau parhaus heddiw. Er bod y mater o anghydraddoldeb hiliol wrth wraidd y project dad-drefedigaethu, rydyn ni hefyd yn deall na ellir datblethu hiliaeth a'i strwythurau systemig oddi wrth ragfarnau eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i batriarchaeth, heteronormadiaeth, trawsffobia, ableddiaeth, rhagfarn grefyddol, a dosbarthiaeth.[1] I ni, mae dad-drefedigaethu ein Casgliad yn golygu mynd i'r afael â phob maes o ragfarn ac etifeddiaeth drefedigaethol.
Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid sector a chymunedol ac yn defnyddio Casgliad y Werin Cymru i fynd i’r afael ag anghyfiawnderau hanesyddol a phresennol. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i fyfyrio ar ffyrdd hen ffasiwn o weithio a'u newid. Mae ein dull cydweithredol o archifo yn rhoi cyfle i ni gynrychioli safbwyntiau amrywiol a sicrhau bod penderfyniadau ynghylch ein heitemau yn cael eu gwneud ar y cyd. Fodd bynnag, daw hyn gyda'i anawsterau ei hun, ac mae angen i ni fod yn dryloyw ynghylch yr hyn y gallwn ac na allwn ei gyflawni. Fel casgliad digidol sy'n gwahodd cyfraniadau allanol yn rhagweithiol, nid oes gennym berchnogaeth ar lawer o eitemau a'u dehongliadau. Rhaid i ni fod yn ddeallus ac yn sensitif yn y ffordd yr ydym yn dewis ail-fframio neu herio cynnwys nad yw'n adlewyrchu ein gwerthoedd, ond ni fyddwn byth yn golygu dehongliadau gwreiddiol ein defnyddwyr na dileu’r hyn maen nhw wedi ei lanlwytho (ac eithrio yn unol â'n polisi tynnu i lawr presennol).
Ystyried ein hunain yn atebol
Mae dad-drefedigaethu yn mynnu ein bod yn parhau i fod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn fel sefydliad treftadaeth a'n bod wedi ymrwymo i werthuso, dysgu a gwella parhaus. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag effeithiau parhaus trefedigaethu ar unigolion sydd wedi’u hymyleiddio a chydnabod y gall y geiriau rydyn ni'n dewis eu defnyddio a'r straeon rydyn ni'n dewis eu hadrodd yng Nghasgliad y Werin Cymru barhau i gael effeithiau negyddol ar bobl heddiw. Rydyn ni’n ymwybodol y bydd ein gwaith dad-drefedigaethu yn waith graddol, ac y gallai rhywbeth bach fel ychwanegu dyfynodau o amgylch term difrïol ymddangos yn ddibwys nes ein bod yn gallu darganfod mwy o wybodaeth am ein heitemau a darparu cyd-destun hanesyddol priodol a fydd yn helpu i ddatgymalu'r ideolegau trefedigaethol a hiliol hyn. Rydyn ni hefyd yn deall mai cam bach yn unig yw ail-labelu eitemau ac ychwanegu hysbysiadau cynghori a’i fod yn rhan o broses llawer mwy y mae angen ei chynnal er mwyn i ni ddad-drefedigaethu ein Casgliad mewn ffordd ystyrlon. Ein bwriad yw nid yn unig dadnormaleiddio terminoleg niweidiol a gwahaniaethol yn ein Casgliad, ond esblygu fel adnodd sy'n herio naratifau trefedigaethol trechol ac yn grymuso cymunedau wedi’u hymyleiddio i arddel eu safbwyntiau eu hunain.
Gan ein bod yn archif gymunedol, mae gennym rôl bwysig i'w chwarae fel platfform i bobl gael rheolaeth dros eu naratifau, eu treftadaeth a'u hanesion eu hunain. Ein nod yw bod yn gynhwysol o'r holl bobl sy'n creu, yn defnyddio ac yn cael eu cynrychioli yn ein Casgliad, ond rydyn ni’n cydnabod mai dim ond trwy ymrwymiad parhaus a pharhaol i'n hagenda dad-drefedigaethu y gallwn gyflawni hyn. Dros amser, gobeithiwn allu cyfrannu at wella a chymodi trwy ddarparu gofod ar gyfer dweud y gwir, cydnabod trawma yn y gorffennol, a hyrwyddo dealltwriaeth, empathi a deialog ymhlith gwahanol aelodau'r gymuned.
Rydyn ni bob amser yn croesawu adborth a byddwn yn parhau i addasu ein harferion i fynd i'r afael ag ystyriaethau moesegol sy'n dod i'r amlwg, dulliau dad-drefedigaethol, a disgwyliadau cymunedol sy'n esblygu. Os hoffech rannu eich safbwyntiau gyda ni neu weithio gyda ni i ddad-drefedigaethu ein Casgliad, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected].
Canolbwyntio 'cymunedau perthnasedd’
Mae'r term 'cymunedau perthnasedd' yn cyfeirio at grwpiau sy'n meddu ar wybodaeth, safbwyntiau a phrofiadau yr ydym yn eu hystyried yn berthnasol i ddeall a mynd i'r afael â'r etifeddiaeth drefedigaethol yn ein Casgliad. Mae'r cysyniad hwn yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â lleisiau a mewnwelediadau pobl sydd â phrofiad byw perthnasol neu wybodaeth arbenigol a chanolbwyntio arnyn nhw, gan gydnabod mai'r cymunedau hyn eu hunain yw'r rhai mwyaf gwybodus am eu profiadau, eu hanghenion a'u hanesion eu hunain.
Sut byddwn ni'n gwneud hyn?
Dyma bedair colofn graidd Casgliad y Werin Cymru:
1) y Casgliad ei hun (a'r platfform ar-lein sy'n gartref iddo);
2) yr hyfforddiant a'r cymorth a gynigiwn i grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol ar sut i gyfrannu at y Casgliad (mae hyn yn amrywio o hyfforddiant digideiddio, archifo, curadu cynnwys, hanes llafar, metadata a hawlfraint, i fenthyg offer a chymorth wrth lanlwytho mewn swmp);
3) y cymorth a gynigiwn ar sut i drawsnewid y cyfraniadau hyn yn adnodd ar gyfer addysgu a dysgu gydol oes; a
4) hyrwyddo'r Casgliad i gynulleidfa ehangach trwy'r cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau, blogiau a sgyrsiau/cyflwyniadau.
Bydd dad-drefedigaethu CWC yn canolbwyntio ar 4 maes gwaith allweddol:
1. Gwneud y mwyaf o'n natur ddigidol a democrataidd
Mae natur ddigidol a democrataidd CWC yn cynnig cyfle unigryw i ddad-drefedigaethu. Nid yn unig y mae offer digidol yn galluogi mynediad eang ac amrywiol (gan gynnwys i gynulleidfaoedd a chymunedau perthnasol ledled y byd), ond mae hefyd yn cynnig y posibilrwydd o 'ailgymysgu ac ailosod' deunyddiau.
Mae CWC wedi'i seilio ar yr egwyddor y gall eraill ailddefnyddio unrhyw eitem yn y Casgliad i greu casgliadau newydd ac adrodd straeon gwahanol, waeth pwy sy'n ei gyfrannu. Er bod proses gymedroli cyffyrddiad ysgafn (gofynnir i bob defnyddiwr sicrhau bod y cynnwys maen nhw’n ei lanlwytho yn bodloni Telerau ac Amodau CWC), nid oes perchnogaeth freintiedig gan rai sy'n rheoli'r naratif.
- Byddwn yn gwahodd cyfranwyr i ymyrryd, adolygu, cwestiynu a diwygio unrhyw naratifau trefedigaethol, ac i greu rhai newydd, wedi'u dad-drefedigaethu.
- Byddwn yn parhau i gefnogi grwpiau cymunedol a phartneriaid sector ar eu teithiau digideiddio.
2. Cryfhau'r broses safoni
Er ein bod wedi ei ddisgrifio fel 'cyffyrddiad ysgafn', mae gan unrhyw broses gymedroli y gallu i newid y naratif – mewn ffordd negyddol a chadarnhaol. Hyd yn hyn, mae ein cymedroli o gynnwys sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr wedi canolbwyntio ar gyfreithlondeb yn unig yn hytrach nag ar unrhyw elfen arall o'r eitem neu ei dehongliad. Er mwyn cefnogi'r tîm i weithredu'r siarter dad-drefedigaethu hon ac i sicrhau bod gan y fath benderfyniadau fewnbwn gan gymunedau perthnasol, byddwn yn sefydlu Rhwydwaith o Gynghorwyr Cymedroli. Byddem yn rhagweld ymgynghori â'r Rhwydwaith hwn pryd bynnag y byddwn yn derbyn cynnwys a allai fod yn drefedigaethol, yn ddadleuol neu'n hiliol, gan ofyn i aelodau am gyngor ar y dull gorau o ymdrin â'r cynnwys (er enghraifft, ychwanegu rhybudd cynnwys sy'n esbonio'r cyd-destun hanesyddol, helpu'r cyfrannwr i adolygu'r disgrifiad, neu unrhyw gamau gweithredu eraill).
- Byddwn yn gwahodd aelodau i'n Rhwydwaith Cynghori ar Gymedroli a fydd yn gallu cynghori ar faterion dad-drefedigaethu.
3. Archwilio'r Casgliad
Ar ddechrau 2022 roedd Casgliad y Werin Cymru yn cynnal dros 150,000 o eitemau, tua 3,000 o gasgliadau a dros 600 o straeon, ac mae'r niferoedd hyn yn tyfu bob dydd.
Byddwn yn ymrwymo i gynnal archwiliad o'r Casgliad i:
- nodi unrhyw gynnwys hiliol a rhagfarnllyd;
- nodi unrhyw gynnwys sydd â chysylltiadau ag ymddygiad ymosodol trefedigaethol neu'r fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd; a
- nodi unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys hanes trefedigaethol.
4. Cynnal project peilot 'tynnu’n ddarnau’
Er ein bod yn ystyried ein hunain yn bennaf fel hwyluswyr a galluogwyr, gan ddarparu modd i bobl archwilio eu hanes eu hunain, mae dad-drefedigaethu'r Casgliad yn gofyn am ddull mwy rhagweithiol. Fel y tri sefydliad cenedlaethol sy'n arwain rhaglen CWC, byddwn yn myfyrio ar ein casgliadau ein hunain ac yn dewis rhai enghreifftiau allweddol i ddangos ein hymrwymiad i ddad-drefedigaethu.
- Byddwn yn cynnal project peilot lle byddwn yn dewis detholiad o eitemau o Amgueddfa Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a'r Comisiwn Brenhinol – boed yn wrthrychau, yn ffotograffau, yn ddogfennau neu'n baneli arddangos – ac yn tynnu’r rhain yn ddarnau at ddibenion addysgol.
Byddwn yn rhannu'r gwaith hwn ar y wefan i helpu i gyfleu ein gwaith dad-drefedigaethu, ac fel man cychwyn ar gyfer trafod ac ymgysylltu pellach.
Byddwn hefyd yn estyn gwahoddiad i'n partneriaid yn y sector amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol ymuno â ni yn yr ymarfer hwn.
Gyda phwy fyddwn ni'n gwneud hyn?
Yn unol â'r slogan, Nothing About Us Without Us, mae dad-drefedigaethu yn gofyn am fewnbwn gan y rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan ymerodraeth, hiliaeth a rhagfarn. Mae ymgysylltu â'r cymunedau perthnasol hyn wrth wraidd dad-drefedigaethu. Mae hyn yn gofyn am feithrin perthynas ac mae'n gweithio ochr yn ochr â gwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae ymgysylltu â'r gymuned fel hyn yn allweddol i waith CWC. Trwy ein hymgysylltiad ar-lein a chymunedol, rydyn ni’n annog unigolion a grwpiau i rannu eu straeon sydd yn aml heb eu hadrodd. Mae hyn yn hybu pobl sydd wedi’u hymyleiddio i gael mynediad at ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac ymgysylltu â nhw (ac, yn sgil hynny, ei sefydliadau). Mae hyn, yn ei dro, yn datblygu’r ymddiriedaeth a’r hyder sydd eu hangen er mwyn i bobl deimlo y gallan nhw gymryd rhan yn y broses dad-drefedigaethu.
- Byddwn yn parhau i ddatblygu cydberthnasoedd sy'n gwerthfawrogi gwybodaeth, arbenigedd a phrofiad y gymuned.
- Byddwn yn gweithredu fel pont rhwng cymunedau perthnasol a'r sector amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd.
Trwy weithredu fel porth i Hwb, platfform dysgu ac addysgu Cymru, mae CWC yn cefnogi partneriaid sector a grwpiau cymunedol i greu adnoddau sydd ar gael i bob athro a disgybl yng Nghymru.
- Byddwn yn gweithredu fel pont rhwng cymunedau perthnasol, partneriaid yn y sector a Hwb.
- Byddwn yn sicrhau bod unrhyw adnoddau addysgu a dysgu gydol oes sy'n ymwneud ag ymddygiad ymosodol trefedigaethol, y fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd neu hanes trefedigaethol, yn cael eu dad-drefedigaethu.
Byddwn hefyd yn gwneud y defnydd gorau o'n cyfansoddiad ffederal trwy ymgorffori arferion da sy'n deillio o'r gwaith dad-drefedigaethu gan y tri phartner allweddol. Gall hyn gynnwys diffiniadau a meini prawf ar gyfer adolygu casgliadau, geirfa, pecynnau cymorth ac unrhyw ddeunyddiau defnyddiol eraill.
Yn olaf, nodyn ar ddad-drefedigaethu yng nghyd-destun Cymru a'i pherthynas â Lloegr. Rydyn ni’n gwerthfawrogi'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r mater hwn. Mae'r siarter hon wedi'i drafftio mewn ymateb i ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i greu Cymru Wrth-hiliol.[2] Rydyn ni’n defnyddio'r term dad-drefedigaethu yma yn yr ysbryd a'r cyd-destun hwnnw, gan ddymuno bod yn rhan o'r broses honno.
Dogfennau ychwanegol CWC sy'n cysylltu â'r gwaith hwn
Polisi Casgliad Digidol CWC
Polisi Curadu Digidol CWC
Polisi Mynediad a Defnydd Digidol CWC
Cydnabyddiaeth
Mae'r ddogfen hon yn seiliedig ar Siarter Dad-drefedigaethu Casgliad Amgueddfa Cymru a dogfen y Gymdeithas Amgueddfeydd Supporting Decolonisation in Museums .
Hoffai Casgliad y Werin Cymru ddiolch hefyd i bawb sydd wedi rhoi adborth yn ystod y broses o ddrafftio'r Siarter hon.
[1] Carissa Chew, ‘Decolonising Description: Addressing Discriminatory Language in Scottish Public Heritage and Beyond,’ Journal of Irish and Scottish Studies.
[2] Yn 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol cyntaf: https://www.llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cymru-wrth-hiliol. Datblygwyd y Cynllun hwn mewn cydweithrediad ag ystod eang o gymunedau a sefydliadau, ac mae'n gosod gweledigaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.