arrowbookcheckclosecommentfacebookfavouritegooglehomeibapdfsearchsharetwitterwelsh-government

Ar Garreg Eich Drws - Llyfrau Log Ysgolion

Defnyddio archifau i ymchwilio i hanes lleol. Mae'r adnodd hwn yn edrych ar sut y gallwch ymchwilio i hanes eich ardal drwy ddefnyddio llyfrau log ysgolion fel math o ffynhonnell sydd ar gael mewn archifdai neu swyddfeydd cofnodion lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Mae'n rhan o gyfres sy'n ffurfio'r blociau adeiladu sylfaenol er mwyn cael gwybod am hanes lleol.
 
Bwriedir i'r adnodd fod yn ganllaw i athrawon, i'w helpu i ddefnyddio ffynonellau cynradd yn yr ystafell ddosbarth. Gall yr adnodd helpu athrawon hefyd i weithio gyda'u harchifdy lleol i ddod o hyd i ffynonellau tebyg ar gyfer eu hardal eu hunain. Ei nod yw cyflwyno athrawon a myfyrwyr i'r mathau o ffynonellau archifol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hanes lleol ac i ymgyfarwyddo â ffurf, golwg a chynnwys y ffynonellau.
 
 

Cyfnod Allweddol 2

Hanes, Sgiliau Llythrennedd
 
 

Gweithgaredd Dysgu

Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys.
 
Mae’n un o gyfres o 8 am 'Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol' ar gyfer CA2.

Lawrlwytho pecyn adnoddau athrawon

Llyfrau_log_ysgolion.pdf School_log_books.pdf

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw