Ar Garreg Eich Drws - Cofrestrau Plwyf
Defnyddio archifau i ymchwilio i hanes lleol. Mae'r adnodd hwn yn edrych ar sut y gallwch chi ymchwilio i hanes eich ardal drwy ddefnyddio cofrestrau plwyf fel math o ffynhonnell sydd ar gael mewn archifdai a swyddfeydd cofnodion lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Mae'n rhan o gyfres sy'n ffurfio'r blociau adeiladu sylfaenol er mwyn cael gwybod am hanes lleol.
Bwriedir i'r adnodd fod yn ganllaw i athrawon, i'w helpu i ddefnyddio prif ffynonellau yn yr ystafell ddosbarth. Gall yr adnodd helpu athrawon hefyd i weithio gyda'u harchifdy lleol i ddod o hyd i ffynonellau tebyg ar gyfer eu hardal eu hunain. Ei nod yw cyflwyno athrawon a myfyrwyr i'r mathau o ffynonellau archifol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hanes lleol ac i ymgyfarwyddo â ffurf, golwg a chynnwys y ffynonellau.
Cwricwlwm i Gymru
Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Hanes
Oed: 18-11 / Cam Cynnydd: 3
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 8 am 'Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol' ar gyfer Cam Cynnydd 3.
You must be logged in to leave a comment